Beth Davies

Cilgeti, Sir Benfro

Yn ffermwr ifanc balch o Sir Benfro, mae Beth Davies yn angerddol am gynnyrch Cymreig. Wedi’i geni i fferm laeth a dofednod teuluol, rhan fawr o addysg gynnar Beth oedd rhedeg stondinau mewn marchnadoedd ffermwyr yn hyrwyddo ac yn gwerthu cynnyrch y fferm. Erbyn heddiw, mae wedi troi ei hymglymiad hirsefydlog gyda bwyd yn yrfa ac yn gweithio i un o gyfanwerthwyr bwyd annibynnol mwyaf y DU. 

Gyda dealltwriaeth fanwl o’r broses cynhyrchu bwyd o giât y fferm i blât y cwsmeriaid, nid oes syndod fod Beth yn gwirfoddoli ei hamser i gefnogi sefydliad addysgiadol i rannu’r stori “o’r fferm i’r fforc” gyda phobl ifanc ledled Cymru. 

Bob amser yn awyddus i ddysgu mwy, mae Beth wedi camu o’r sector dofednod ’'r sector defaid a bellach yn gofalu am ddiadell o ddefaid Llanwenog pur a mamogiaid masnachol. Ynghyd â’i phartner, mae’r ddau yn ddiweddar wedi agor eu prosiect arallgyfeirio cyntaf ar ffurf safle glampio en-suite ar y fferm gydag ethos o gynaliadwyedd, ac mae’n falch o fod yn dilyn ôl traed ei nain a’i hen nain a fu’n rhedeg busnes lletya mewn ffermdy eu hunain ochr yn ochr â’r fferm. 

Mae Beth yn barod gyda chynlluniau o ran sut i ychwanegu gwerth i’r busnes sy’n cyd-fynd â’i hymrwymiad i adrodd y stori ffermio a’r broses o gynhyrchu bwyd. 

“Rwy’n hyderus y bydd y broses Academi Amaeth yn gymorth i wella fy sgiliau cyflwyno. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael dysgu mwy a chael gwell dealltwriaeth o’r agweddau amaethyddol eraill nad wyf eto wedi’u profi. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r academi eleni ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle.”