Rhys Griffiths
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Cafodd Rhys Griffiths ei eni a’i fagu ar fferm yn Sir Gaerfyrddin. Cwblhaodd ei astudiaethau Safon UG yn ddiweddar a bydd yn dychwelyd i Ysgol Maes y Gwendraeth yn y flwyddyn academaidd newydd i gwblhau ei astudiaethau yn y chweched dosbarth. Mae Rhys wedi bod â diddordeb mewn amaethyddiaeth ers ei fod yn ifanc gan fod ffermio wedi bod yn rhan o’i fywyd erioed, ac mae’n cael pleser gwirionedd o ofalu am yr anifeiliaid.
Yn ei amser hamdden, mae’n bosibl iawn y byddwch yn dod o hyd i Rhys yn creu gwledd yn y gegin. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn coginio ar ôl gweithio mewn bwyty lleol ac mae Rhys wedi dewis astudio Bwyd a Maeth ar gyfer ei Safon Uwch. Mae Rhys yn gystadleuydd tynnu rhaff profiadol hefyd a chafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru ar lefel rhyngwladol. Mae hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Llanddarog ac mae’n mwynhau barnu stoc yn ogystal â chystadlaethau trefnu blodau a chrefft.
Mae Rhys wedi cael profiad o weithio gyda gof ac roedd wedi mwynhau’r profiad o ddysgu crefft newydd gan arbenigwr proffesiynol yn y maes. Yn ystod y blynyddoedd i ddod, mae Rhys yn dymuno dilyn gyrfa yn y sector amaeth gyda phwyslais arbennig ar weithio gydag anifeiliaid, boed hynny yn y maes maeth neu feddygol.
“Rwy’n edrych ymlaen at wneud y mwyaf o bob profiad a fydd yn cael ei gynnig gan yr Academi Amaeth. Hoffwn elwa ar brofiadau’r gweithwyr proffesiynol y byddwn yn eu cyfarfod ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n gallu ehangu fy nealltwriaeth a’m gwybodaeth am feysydd yn y diwydiant amaethyddol. Yn fy marn ni, bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle gwych i mi gynllunio fy nyfodol.”