Canlyniadau Prosiect Maestanyglwyden: Prawf Maes Mastitis

Alana Jackson

Cwmni Milfeddygon ‘Cain Farm Vets’, Llansantffraid  

 

Disgrifiad o’r prosiect:

Mae mastitis yn broblem sy’n dod i’r amlwg ar ffermydd defaid yn ystod y cyfnod llaetha a diddyfnu. Mae effaith mastitis ar ffermydd gwahanol yn amrywio - gan gynnwys gweld mamogiaid marw (o ganlyniad i fastitis tocsig) a/neu ddifa mamogiaid ifanc o flaen eu hamser, gan fod mastitis wedi effeithio ar eu pyrsiau. Mae hyn, ynghyd â chostau trin mastitis a’r ffaith ei bod yn arafu twf ŵyn (oherwydd bod llai o laeth ar gael), yn golygu bod mastitis ymhlith mamogiaid yn broblem gostus ac yn fater sy’n effeithio ar les anifeiliaid.

 

Cefndir fferm Maestanyglwyden  

Mae Maestanyglwyden yn fferm ddefaid a chig eidion ar y ffin rhwng Powys/Swydd Amwythig ger Croesoswallt. Mae bron i 1000 o famogiaid ar y fferm, gan gynnwys defaid croesryw Texel, Mules a mamogiaid croesryw Beltex. Mae’r mamogiaid yn ŵyna fesul grŵp, gyda ~100 yn ŵyna ar ddiwedd mis Ionawr (a’u gwerthu fel cyplau), ~300 ym mis Chwefror, ~500 ym mis Mawrth ac yna ~100 o ŵyn mamogiaid yn ŵyna ym mis Ebrill.

Mae mastitis wedi achosi colledion mawr i ddiadell Maestanyglwyden dros y pum mlynedd diwethaf; bydd tua 10% o famogiaid yn cael mastitis bob blwyddyn. Yn nhermau real, mae hyn yn cyfateb i 80-90 o famogiaid y flwyddyn yn cael mastitis. Mae’r colledion yn bennaf oherwydd yr angen i ddifa mamogiaid yn gynamserol, ŵyn llai egnïol, ac weithiau ŵyn yn marw o ganlyniad i fastitis tocsig.

Mae diadell Maestanyglwyden yn ŵyna o dan do, ac yn dod i mewn o’r caeau tua chwe wythnos cyn ŵyna. Bydd mamogiaid sydd newydd ŵyna yn cael eu symud i lociau bach unigol cyn pen dwy awr ar ôl bwrw ŵyn. Ar ôl 24-48 awr yn y llociau unigol, bydd y mamogiaid a’r ŵyn yn cael eu symud i lociau mwy gyda mamogiaid ac ŵyn eraill. Ar ôl treulio 24-48 awr ychwanegol yn y llociau ar gyfer grwpiau mawr, bydd y mamogiaid a’r ŵyn yn cael eu symud y tu allan, os bydd y tywydd yn caniatáu. Yn llociau’r mamogiaid beichiog a llociau’r grwpiau mawr, defnyddir peiriant chwythu i wasgaru’r gwellt. Yn y llociau unigol, mae’r gwellt yn cael ei wasgaru â llaw.

 

Nodau’r prosiect: 

Prif nod y prosiect yw gweld pa ffactorau sy’n effeithio ar yr achosion o fastitis yn niadell Maestanyglwyden. Yn ogystal â sicrhau safonau maeth a hylendid da yn ystod y cyfnod ŵyna, rhoddwyd brechiad VIMCO i gyfran o’r ddiadell er mwyn helpu i leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm, ac i roi hwb i imiwnedd y mamogiaid yn erbyn un math o facteria sy’n achosi mastitis (Staphylococcus aureus).

Cafodd sgôr cyflwr y corff (BCS) ei chofnodi cyn ŵyna, ac yna unwaith eto pan ddaeth achos o fastitis i’r amlwg. Hefyd, cofnodwyd y tymheredd amgylchol a’r glawiad drwy gydol yr astudiaeth i weld a oedd unrhyw gydberthynas rhwng achosion o fastitis a phatrymau tywydd.

 

Amlinelliad o’r prosiect maes

Yn ystod mis Mawrth, roedd tua 500 o famogiaid a oedd yn cario efeilliaid ar fin ŵyna; y rhain oedd diadell y prosiect maes. 

Cafodd hanner y mamogiaid hyn eu brechu â VIMCO ond ni chafodd yr hanner arall eu brechu. Cafodd holl ddefaid y ‘prawf’ eu cadw yn yr un sied yn ystod y cyfnod ŵyna, ac ni roddwyd unrhyw driniaeth wahanol i’r mamogiaid wedi’u brechu a heb eu brechu. Ni chafodd y mamogiaid eu dyrannu ar hap i’r ddau grŵp (wedi’u brechu neu heb eu brechu), yn hytrach cafodd pob yn ail famog ei dyrannu i’r naill grŵp neu’r llall. 

Cofnodwyd sgôr cyflwr y corff (BCS) defaid y ‘prawf’ cyn iddynt ŵyna (wrth eu trin o ddydd i ddydd ym mis Chwefror). Cofnodwyd manylion adnabod (rhif tag clust) y mamogiaid a nifer y blaenddannedd (oedran) hefyd, ynghyd â’u statws brechu. Yna cafodd y mamogiaid eu trochi i atal llyngyr (Flukiver®) a’u tocio yn unol â’r drefn arferol, gan adael cymaint o wlân â phosibl ar y pwrs, a thocio o amgylch ardal y gynffon yn unig. 

Cymerwyd samplau gwaed metabolig cyn ŵyna (dwy neu dair wythnos cyn ŵyna) o 20 o famogiaid yn y ddiadell i asesu a oedd y porthiant a gynigwyd cyn ŵyna yn bodloni galw’r mamogiaid yn y cyfnod cyfebru hwyr. 

Rhoddwyd dau frechiad i’r mamogiaid a gafodd y brechiad VIMCO: un brechiad bum wythnos cyn ŵyna, ac ail frechiad dair wythnos cyn ŵyna. Defnyddiwyd y brechiad er mwyn canfod a oedd y rhagdybiaeth nwl - sef nad oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol yn achosion o fastitis yn y mamogiaid sydd wedi’u brechu a heb eu brechu - yn gywir.

Rhoddwyd cofnodwyr tymheredd ar y fferm, a chymerwyd y tymheredd amgylchol bob 10 munud. Casglwyd y data hwn i roi’r tymheredd isaf, uchaf a chyfartalog, ac amrywiad y tymheredd bob dydd dros gyfnod y prawf (wedi’u plotio yn Ffigur 1). 

Gosodwyd mesuryddion glawiad ar y fferm, i gofnodi cyfanswm y glawiad unwaith yr wythnos. Mae’r mesuriadau hyn wedi’u plotio yn Ffigur 2. 

Cofnodwyd achosion o fastitis drwy gydol y cyfnod llaetha. Cofnodwyd tagiau clust a BCS y mamogiaid, a chymerwyd sampl llaeth lle bo’n bosibl. Yna anfonwyd y samplau llaeth i’r labordy ar gyfer meithriniad bacteria.  

Ar ôl diddyfnu, archwiliwyd pyrsiau’r mamogiaid am ragor o dystiolaeth o fastitis (masau rhyng-fronnol annormal). Cofnodwyd yr holl famogiaid yr oedd ganddynt byrsiau annormal /tystiolaeth o fastitis cronig ar adeg diddyfnu a chawsant eu difa.

 

CANLYNIADAU

1.    Canlyniadau profion gwaed metabolig cyn-ŵyna

Cymerwyd samplau gwaed 20 o’r mamogiaid (cymysgedd o famogiaid a oedd yn cario efeilliaid, tripledi ac un oen) ar gyfer proffilio metabolig (dair wythnos cyn-ŵyna). Cafodd y rhain eu cymryd er mwyn gweld a oedd deiet y mamogiaid (cyn-ŵyna) yn bodloni eu galw am brotein ac egni. Mae canlyniadau’r mamogiaid a oedd yn cario efeilliaid (yn yr astudiaeth) wedi’u dangos isod.

Sgoriwyd cyflwr y corff (BCS) pan gymerwyd y samplau gwaed. Yn y ddiadell hon sy’n pori ar yr iseldir, dylai’r BCS fod yn 3-3.5 allan o 5.[1] 

Mae’r dadansoddiad β-hydrocsibwtyrad (BOHB) yn dangos cydbwysedd egni presennol y mamogiaid. Os yw’r gwerth BOHB yn rhy uchel, mae’n awgrymu bod cydbwysedd egni’r famog yn negyddol, a’i bod yn gorfod defnyddio ei chronfeydd braster wrth gefn i fodloni ei gofynion egni.

Mae dadansoddiad wrea-N yn rhoi gwybodaeth am y cymeriant protein rwmen diraddadwy (ERDP) effeithiol, i asesu darpariaethau protein presennol deiet y famog. Os yw’r lefel wrea-N yn rhy isel, mae’n awgrymu nad yw’r famog yn derbyn digon o brotein yn ei deiet presennol. Gall hyn arwain at gynhyrchu colostrwm o ansawdd gwael, a llai ohono, gan effeithio ar faint o laeth a gynhyrchir.

Mae albwmen yn rhoi gwybodaeth am statws protein hirdymor y mamogiaid. Gall clefydau gwaelodol a phrosesau llidiol effeithio ar lefelau albwmen. Gall clefydau fel llyngyr neu lyngyr y perfedd arwain at lefelau albwmen is. 

Dadansoddwyd statws magnesiwm a chopr hefyd. Mae magnesiwm yn elfen bwysig i actifeddu ensymau, yn enwedig yn llwybrau metabolaeth egni, carbohydrad, lipid a phrotein. Mae lefelau magnesiwm hefyd yn cynnig rhywfaint o wybodaeth am y cymeriant calsiwm. Cofnodir y lefelau copr i ddangos tebygolrwydd diffyg yn hwyr yn y beichiogrwydd, sy’n gallu arwain at gyflwr ‘tindro’ (swayback) yn yr ŵyn. Fodd bynnag, mae tocsigedd copr hefyd yn dod yn fwy cyffredin ymhlith mamogiaid Texel. Gall lefelau copr godi hefyd os oes unrhyw broblemau yn ymwneud â chlefydau llidiol gwaelodol.

 

Canlyniadau:

GEFEILLIAID

Deiet: Derbyniodd yr efeilliaid 1.5lb o grynodiadau protein 18% bob dydd. Roedd ganddynt floc triog, ac roeddynt yn cael byrnau mawr o laswellt (14% protein crai a 10.1ME) yn ôl yr angen.

ID y Famog

BCS

BOHB (mmol/l)

WreaN (mmol/l)

Alb (g/l)

Mag (mmol/l)

Cu (umol/l)

7902

3.5

0.47

2.82

26.30

1.06

27.70

2111

3.5

0.47

3.11

28.50

0.94

19.30

5115

3

0.43

2.30

29.40

1.06

21.60

7352

3.5

0.37

2.32

31.90

1.08

21.40

5096

3

0.46

2.40

30.80

1.12

22.40

743

4.5

0.45

2.34

30.00

0.95

24.00

2019

3

0.31

2.00

27.70

1.05

27.70

CYFAR-TALEDD

3.43

0.42

2.47

29.23

1.04

23.44

Trafod y canlyniadau:

Ar sail canlyniadau’r efeilliaid, gallwch weld fod cyflwr un famog o’r saith o famogiaid y cymerwyd eu sampl gwaed yn well na’r cyfartaledd – h.y. yn rhy dew (4.5/5) – ac roedd y gweddill o fewn y targed sg֧ôr cyflwr y corff (3-3.5). 

Mae deiet y mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid yn dangos bod eu lefelau egni a phrotein presennol yn cael eu diwallu. Mae lefelau albwmen dros hanner y mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid yn y sampl yn ymylol, ac mae lefelau copr yn uwch ym mhob mamog namyn un. 

Mae’r lefelau albwmen ychydig bach yn is ac mae’n bosibl bod hyn oherwydd achos o lyngyr – cafodd y mamogiaid hyn eu dosio er mwyn atal llyngyr ar y diwrnod y cymerwyd eu samplau gwaed. 

Mae lefelau copr y mamogiaid yn uchel, er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn derbyn unrhyw atchwanegion copr. 

 

2.    Canlyniadau’r tymheredd a glawiad

Mae’r graff yn Ffigur 1 yn dangos y tymheredd isaf, uchaf a chyfartalog (llinellau glas, coch a phorffor, yn y drefn honno); mae amrywiad y tymheredd wedi’i blotio yn yr ardal werdd, yn erbyn yr amser (wythnosau) ar hyd yr echelin lorweddol. 
 

Fel y gwelir yn Ffigur 1, roedd y tymheredd yn amrywiol yn ystod y cyfnod prawf. Gwelwyd yr amrywiad mwyaf o ran tymheredd (y gwahaniaeth rhwng y tymheredd isaf a’r uchaf a gofnodwyd) rhwng wythnosau 6-9 ac unwaith eto rhwng wythnosau 19-21.

Mae cyfanswm y glawiad wedi’i blotio yn Ffigur 2 ar ffurf siart bar. Dangosir yr amser (wythnosau) ar yr echelin lorweddol. 

Fel y gwelir yn Ffigur 2, yn ystod rhai wythnosau ni chafwyd llawer o law, neu ddim o gwbl, yn ystod y cyfnod prawf: rhwng wythnosau 6-9, wythnosau 14-17, ac unwaith eto rhwng wythnosau 20-22. 

 

3.    Achosion o fastitis 

Cyfrifwyd cyfanswm yr achosion mastitis (o blith y mamogiaid wedi’u brechu a’r rhai heb eu brechu). 

Tabl 1. Tabl yn dangos nifer y mamogiaid wedi’u brechu a heb eu brechu, a nifer y mamogiaid â mastitis o’r ddau grŵp. 

Tabl 1:

Wedi’u brechu

Heb eu brechu

Cyfanswm

BCS cyfartalog

3.53

2.86

 

Cyfanswm

225

214

439

Nifer yr achosion o fastitis

14

16

30

% yr achosion o fastitis

6.2%

7.5%

6.8%

Ar ôl cyfrifo cyfanswm y mamogiaid, roedd 439 o famogiaid wedi’u cynnwys yn y prawf. Yn achos y mamogiaid eraill, roeddynt naill ai heb fwrw ŵyn ym mis Mawrth (gwnaethant ŵyna’n gynharach neu’n hwyrach), neu roeddent wedi cael mwy neu lai o ŵyn a oedd yn barod i’w diddyfnu. Er mwyn cadw cynifer o’r amrywiadau yr un peth, dim ond mamogiaid a oedd yn cario/magu gefeilliaid ym mis Mawrth a gafodd eu cynnwys. 

Fel y gwelir yn Nhabl 1, canran yr achosion o fastitis yn y mamogiaid wedi’u brechu oedd 6.2%, o’i gymharu â 7.5% yn achos y rhai heb eu brechu. 

Un peth arall a ddaw i’r amlwg yw bod sgôr cyflwr y corff (BCS) cyfartalog y grŵp wedi’i frechu yn uwch ar 3.53, o’i gymharu â’r mamogiaid heb eu brechu, a oedd yn is ar 2.86. 

Roedd llai o famogiaid yn y grŵp wedi’i frechu na’r grŵp heb ei frechu (214 o’i gymharu â 225 yn y drefn honno), ond roedd mwy o achosion o fastitis ymhlith y mamogiaid heb eu brechu na’r rhai wedi’u brechu. 

 

4.    Achosion wedi’u plotio ar y graff tymheredd a glawiad

 

Mae’r graff yn Ffigur 6 yn dangos yr holl ddata a gasglwyd (tymheredd isaf ac uchaf a chyfanswm y glawiad), yn ogystal â nifer yr achosion o fastitis a ddaeth i’r amlwg. 

 

5.    Canlyniadau meithriniad mastitis 

Cafodd samplau eu cymryd o’r mamogiaid a oedd yn dioddef o fastitis er mwyn creu meithriniad. Casglwyd y samplau llaeth hyn mewn pot di-haint a’u hanfon i labordy Quality Milk Management Services Ltd (QMMS) i greu meithriniad.

Cynhyrchwyd canlyniadau meithriniad ar naw sampl o laeth mastitig. Dangosir y canlyniadau yn siart bar Ffigur 4 a siart cylch Ffigur 5. 

Mae Ffigur 4 yn dangos bod tri meithriniad yn dangos twf Staphylococcus aureus (S. aureus) pur, roedd dau feithriniad wedi dangos S. aureus ynghyd â thwf bacterol arall. Cafodd Mannheimia haemolytica (M. haemolytica) ei feithrin o un sampl, ac roedd M. haemolytica a thwf bacterol arall yn tyfu mewn dau sampl arall. Cafodd Streptococcus sp. ynghyd â thwf bacterol arall ei feithrin mewn un sampl. 

Mae Ffigur 5 yn dangos canlyniadau’r meithriniad ar ffurf siart cylch. Fel y gwelir, roedd dros hanner y meithriniadau o’r samplau llaeth mastitig yn cynnwys S. aureus, naill ai fel tyfiant pur neu ar y cyd â bacteria arall. 

Cafodd M. haemolytica ei feithrin hefyd mewn dros chwarter y samplau a gafodd eu meithrin (naill ai fel tyfiant pur neu ar y cyd â bacteria arall). 

 

Dadansoddiad ystadegol: 

Cofnodwyd y data ar daenlen Excel, a nodwyd rhif adnabod y famog (rhif tag), ynghyd â’r BCS (sgôr rhwng 1 a 5) a nifer y blaenddannedd (2,4,6,8). Drwy gydol y cyfnod prawf, cofnodwyd achos o fastitis yn y data fel sgôr 1, a nodwyd dyddiad yr achos. Ar ddiwedd cyfnod y prawf, os nad oedd unrhyw achos o fastitis wedi cael ei gofnodi, rhoddwyd sgôr o 0 i’r mamogiaid. 

Cyfrifwyd y cyfansymiau; nifer y mamogiaid a oedd yn dioddef o fastitis a’r rhai nad oeddynt (nifer y rhai oedd yn dioddef o’r clefyd + a – yn y drefn honno) yn y grŵp wedi’i frechu (cysylltiad +) a’r grŵp heb ei frechu (cysylltiad -). Cofnodwyd y ffigyrau hyn yn rhaglen OpenEpi 2x2 Table Statistics. 

Tabl Open Epi 2 x 2

 

Clefyd

Cyfanswm

 

(+)

(-)

 

Cysylltiad

(+)

14

211

225

(-)

16

198

214

Cyfansymiau

 

30

409

439

Dadansoddwyd y data gan ddefnyddio prawf sgwâr Chi (prawf dwyochrog (cynffonog)), a oedd yn dangos mai gwerth t (tebygolrwydd) oedd 0.6, ac felly, nid oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol rhwng y canlyniad (dioddef o fastitis) rhwng y ddau grŵp (wedi’i frechu / heb ei frechu). 

Prawf Union Fishers oedd t = 0.7. Roedd effaith fach, ond nid oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol rhwng yr achosion o fastitis rhwng y grŵp wedi’i frechu a’r grŵp heb ei frechu. 
 

TRAFODAETH 

Mastitis yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu diadell Maestanyglwyden o hyd. Fodd bynnag, eleni mae cyfradd mastitis cyffredinol y ddiadell wedi gwella o ~10% i 6.8% yn niadell y grŵp prawf. Mae’n fwyaf tebygol bod y gostyngiad yn y cyfraddau mastitis i’w priodoli i gyfuniad o ffactorau: cyfradd stocio is yn y sied ŵyna (cynyddu maint y sied o un-chweched), gwell hylendid, a gwell maeth hyd at y cyfnod llaetha brig a hyd at chwe wythnos ar ôl eu troi allan. 

Dangosodd y dadansoddiad ystadegol nad oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol yng nghyfradd yr achosion o fastitis rhwng y grwpiau o famogiaid wedi’u brechu a heb eu brechu yn y prawf bychan hwn, gan mai nifer bach o famogiaid a wnaeth ddatblygu mastitis. Mae effaith gadarnhaol y brechiad yn ymddangos yn gynnil, ac mae’n bosibl y byddai cynnwys rhagor o famogiaid yn yr astudiaeth wedi dangos y gallai brechu leihau’r gyfradd mastitis yn sylweddol iawn.

Gall heintiau ar bwrs y famog, sy’n arwain at fastitis, gael eu priodoli i ddau brif ffactor: ddim yn ymwneud ag anifeiliaid (gan gynnwys ffactorau amgylcheddol/hinsoddegol, hylendid y siediau, maeth, ac ati) a ffactorau yn ymwneud â’r anifeiliaid (gan gynnwys maint y dorllwyth, statws/swyddogaeth imiwnedd, ffactorau anatomegol/lleoliad y tethi, ac ati).[14]

Er mwyn rheoli mastitis mewn diadelloedd mae’n rhaid defnyddio dull sy’n ystyried yr holl ffactorau hyn. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o astudiaethau yn cytuno mai difrod i dethi yw un o’r ffactorau risg mwyaf sy’n golygu bod mamog yn datblygu mastitis (difrod i’r croen ac amddiffyniadau teth/chwarennau llaeth naturiol eraill).

Cadw’r tethi yn iach yw’r ffordd orau o atal mamogiaid rhag datblygu mastitis.[19] Mae arwyneb croen y tethi yn cynnwys asidau brasterog ac mae ganddynt briodweddau bacteriostatig, sy’n lleihau nifer y bacteria o amgylch pen y deth. Mae lipidau wedi’u ceratineiddio yn rhedeg ar hyd ymyl llwybr mewnol y deth; mae’r rhain yn dal unrhyw facteria ac yn eu golchi allan y tro nesaf y bydd llaeth yn dod allan o’r deth. Mae’r cyhyredd yn y deth yn cau pen y deth, a hynny tua 20-30 munud ar ôl llaetha, gan ei wneud yn fwy anodd i unrhyw facteria fynd i mewn. Yn ogystal â’r amddiffyniadau hyn, mae nodiwlau lymffoid ar ymyl dwythell y deth a’r chwarren laeth, sy’n helpu i dynnu unrhyw facteria sydd wedi llwyddo i deithio ar hyd llwybr y deth i’r chwarren. Mae unrhyw ddifrod i’r croen/y deth yn golygu bod mamogiaid yn fwy tebygol o ddioddef mastitis.

 

Ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â’r anifail

Maeth:

Credir bod maeth mamogiaid yn allweddol i atal difrod i’r tethi, ac felly mastitis. 

Gall monitro maeth y mamogiaid cyn y cyfnod ŵyna, drwy gofnodi sgôr cyflwr y corff (BCS) a chymryd samplau gwaed metabolig cyn-ŵyna, sicrhau bod mamogiaid yn dechrau eu cyfnod llaetha yn y cyflwr metabolaidd gorau. Yn niadell Maestanyglwyden, dangosodd y samplau gwaed metabolaidd cyn-ŵyna fod gofynion egni (BOHB) a phrotein (WreaN) presennol y mamogiaid yn cael eu bodloni ar ddiwedd y cyfnod cyfebru. 

Gwelodd un astudiaeth fod mamogiaid nad oeddynt yn derbyn digon o brotein yn ystod beichiogrwydd bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef mastitis difrifol.[12] Yn ogystal â hyn, mae mamogiaid sy’n datblygu tocsaemia beichiogrwydd yn fwy tebygol o ddioddef mastitis ar ôl ŵyna.[14] Gwelodd astudiaeth o eifr godro fod geifr â lefel BOHB uchel cyn esgor yn cynhyrchu llai o laeth yn ystod y cyfnod llaetha.[10] Mae hyn yn awgrymu y gallai cydbwysedd egni negyddol yn y cyfnod cyn-ŵyna gael sgil-effeithiau hirdymor, gan leihau faint o laeth a gynhyrchir yn ystod y cyfnod llaetha.

Os bydd llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, gall hyn arwain at yr angen i sugno mwy, gan gynyddu’r risg o anafiadau trawmatig i’r tethi. Mae anafiadau trawmatig i’r tethi yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan nad yw’r famog yn gallu bodloni’r galw am laeth gan yr ŵyn, ac mae’r achosion hyn yn cyrraedd eu hanterth tua thair neu bedair wythnos i mewn i’r cyfnod llaetha.[13]

Gwelwyd bod y rhan fwyaf o ffermydd yn lleihau’r porthiant ychwanegol a roddir i famogiaid tua mis ar ôl iddynt ŵyna.[12] Fodd bynnag, dyma’r adeg pan mae fwyaf o angen llaeth ar yr ŵyn. Gallai lleihau’r porthiant sydd ar gael i’r mamogiaid ar yr adeg hon arwain at leihau’r llaeth a gynhyrchir, gan greu ŵyn llwglyd sydd o bosibl yn sugno am amser hirach ac yn fwy egnïol, gan gynyddu’r risg o achosi difrod i’r tethi a mastitis. 

Cyfrifwyd cyfartaledd sgôr cyflwr y corff (BCS) y mamogiad (cyn iddynt ŵyna) yn y grŵp wedi’i frechu a’r grŵp heb ei frechu yn niadell y prawf. Fel y dengys Tabl 1, roedd mamogiaid heb eu brechu yn fwy tenau na’r rhai wedi’u brechu. Mae’n bosibl bod y gwahaniaeth hwn yn y BCS wedi effeithio ar debygolrwydd y mamogiaid heb eu brechu i ddatblygu mastitis, gan fod BCS isel yn ffactor risg i famogiaid ddatblygu mastitis.[2]

Cafodd diadell fferm Maestanyglwyden eu bwydo am gyfnod hirach eleni ar ôl eu troi allan, i sicrhau bod y mamogiaid yn derbyn digon o brotein ac egni am gyfnod o chwe wythnos ar ôl ŵyna. Roedd patrwm y tywydd eleni yn golygu bod y cyfnod rhwng wythnos 6 a 9 yn ystod y cyfnod prawf yn sych iawn (Ffigur 2), ac ni wnaeth y glaswellt dyfu yn ôl yr arfer. Mae diadell Maestanyglwyden yn pori drwy ddilyn dull stocio sefydlog, gan olygu bod y glaswellt sydd ar gael yn cael ei gyfyngu yn ôl y glawiad/twf glaswellt. Er gwaethaf y porthiant ychwanegol a ddarparwyd er mwyn helpu i gynnal lefelau cynhyrchu llaeth, roedd achosion o fastitis ar eu hanterth yn ystod y cyfnod sych hwn, fel y gwelir yn Ffigur 6.

Roedd wyth achos o fastitis yn ystod y 23 diwrnod ar ôl 16 Ebrill (wythnos 7) a hyd at 9 Mai (wythnos 10). Mae’n bosibl bod nifer uchel yr achosion hyn wedi cyd-daro â’r cyfnod brig o ran llaetha, ond nid yw hyn yn hysbys, oherwydd ni chafodd yr union ddyddiad ŵyna ei gofnodi ar gyfer pob mamog. Yn ddiddorol, ni wnaeth y nifer uchel hyn o achosion ddigwydd yn ystod y cyfnod gwlypaf, fel y byddem wedi’i ragweld, ond yn hytrach roedd yr achosion ar eu huchaf sawl wythnos ar ôl mesur y glawiad mwyaf. 

Canfuwyd 17 achos o fastitis ar adeg diddyfnu; ni ellir gweld unrhyw gydberthynas rhwng y tywydd a’r clwstwr hwn o achosion, gan fod y rhain yn achosion cronig na sylwyd arnynt yn ystod y cyfnod llaetha. Fodd bynnag, mae hyn yn dangos bod dros hanner yr achosion o fastitis wedi dod i’r amlwg ar adeg diddyfnu yn unig. Ni fyddai’r mamogiaid hyn wedi derbyn unrhyw driniaeth ac ni fyddai eu hŵyn wedi derbyn atchwanegion neu borthiant ychwanegol. Awgrymodd un astudiaeth os nad yw ŵyn (y mamogiaid sydd wedi’u heffeithio) yn derbyn atchwanegion porthiant, byddant yn ‘traws-sugno’ mamogiaid eraill yn y grŵp, gan drosglwyddo bacteria o bosibl i dethi mamogiaid eraill yn yr un ddiadell.[5] 

 

Cyfraniad bacteria: 

Credir bod y bacteria sy’n gysylltiedig mewn achosion o fastitis ymhlith mamogiaid ‘sugno’ yn cael eu hachosi’n bennaf gan Staphylococcus aureus a Mannheimia haemolytica.[14] Dyna’r darlun a ddaeth yn amlwg yng nghanlyniadau meithriniad diadell brawf fferm Maestanyglwyden hefyd (Ffigur 5). Mae S. aureus yn facteria cydfwytaol sydd i’w weld ar arwyneb y croen, yn ogystal â chael ei ganfod yn ffroenau a thonsiliau ŵyn. [15] Mae M. haemolytica hefyd wedi’i ganfod yn ffroenau a thonsiliau ŵyn sugno.[16] Gall croen y deth gael ei heintio â bacteria, a bydd organebau yn mynd i mewn i’r deth ar ôl i’r ŵyn sugno,[17] cyn i ben y deth gau. 

Gall haint S. aureus yn y pwrs arwain at ffrawniad (haint cronig), a all dorri, gan ryddhau’r bacteria. Gall y bacteria gael ei ryddhau i’r amgylchedd,[18] neu gall ffurfio rhagor o ffrawniadau yn y pwrs. Gall S. aureus ‘guddio’ ym mhwrs y famog, gan ffurfio bioffilmiau y gall bacteria oroesi oddi tanynt, ac mae ganddynt ymwrthedd i amddiffyniadau’r lletywr (e.e. celloedd gwaed gwyn /celloedd imiwnedd) a gwrthfiotigau.[20] Mae hyn yn dangos pam ei bod yn bwysig difa mamogiaid sy’n dioddef o fastitis: er mwyn atal mamogiaid rhag rhyddhau bacteria a dychwelyd y flwyddyn ganlynol ag achos arall o fastitis. 

Mae’r tywydd ac amodau amgylcheddol eraill hefyd yn effeithio ar allu’r bacteria hyn i oroesi. Mae astudiaethau wedi dangos bod M. haemolytica yn gallu goroesi’n hirach mewn amodau tywydd oer a gwlyb (mae’n cael ei arunigo mewn dolydd lle mae defaid â niwmonia yn cael eu cadw, ac yn y gwasarn sy’n cael ei ddefnyddio gan famogiaid sy’n dioddef o fastitis).[17] Mewn gwartheg, gwelwyd bod S. aureus yn cytrefu croen y tethi yn llawer mwy llwyddiannus yn ystod amodau oerach hefyd. 

 

Amgylchedd ŵyna:

Daeth un astudiaeth a edrychodd ar y ffactorau risg sy’n arwain at achosion o fastitis ymhlith mamogiaid i’r casgliad bod rheolaeth o dan do cyn, yn ystod ac ar ôl y cyfnod ŵyna yn gysylltiedig â risg uwch o fastitis.[3] Gall crynodiad uwch o facteria yn sied y defaid fod o ganlyniad i ddwysedd stocio uchel, gwasarn annigonol ac awyru cyfyngedig [5] – sydd oll yn gallu arwain at gynnydd mewn heintiau rhyng-chwarennol. Eleni, aeth fferm Maestanyglwyden ati i ehangu’r ardal a ddarperir ar gyfer mamogiaid sy’n ŵyna – o un chweched, gan olygu bod ardal orwedd pob mamog wedi cynyddu o 1.5m2/y famog i 1.9m 2/ y famog. Mae hyn yn uwch na’r ffigur a argymhellir, sef 1.2-1.4m 2 o ardal orwedd ar gyfer mamogiaid beichiog heb eu cneifio sy’n pwyso 60-90Kg.[4] Cafodd rhagor o lociau unigol eu creu eleni hefyd, felly symudwyd mamogiaid a oedd newydd ŵyna i’r llociau unigol yn fwy buan. Bydd lleihau’r dwysedd stocio (mwy o le fesul mamog) yn gwella hylendid a’r llwyth pathogenau yn y sied. 

 

Amodau y tu allan (glawiad a thymheredd):

Drwy gydol y cyfnod prawf, gwelwyd amrywiad mawr yn y tymheredd. Roedd y prawf wedi rhagfynegi y byddem yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o fastitis yn ystod y cyfnod oeraf a gwlypaf. Ni welwyd tystiolaeth o’r cydberthynas rhwng tywydd oer a gwlyb yn y prawf maes hwn. Fodd bynnag, roedd yr achosion ar eu huchaf (fel y nodwyd uchod) rhwng wythnos 7 ac wythnos 10 pan gofnodwyd y tymheredd isaf, ond nid oedd hyn yn cyd-daro â’r cyfnod o lawiad mwyaf. 

Mae angen cynnal rhagor o waith i effaith tymheredd amgylchol i weld a oes unrhyw gydberthynas. Gwelodd un astudiaeth fod ŵyn yn sugno’n amlach yn ystod tywydd oer, a bod tethi yn cracio o ganlyniad. Yna roedd y difrod hwn i’r tethi yn golygu bod bacteria yn cytrefu yn nwythell y deth, gan arwain at achosion o fastitis,[11] a allai fod yn debyg i ganfyddiadau’r astudiaeth o ddiadell brawf Maestanyglwyden.

 

FFACTORAU RISG YN GYSYLLTIEDIG Â’R FAMOG:

Nifer yr ŵyn 

Mae’n hysbys bod nifer yr ŵyn (dau neu ragor o ŵyn yn sugno ar y famog)[5] yn ffactor risg ar gyfer mastitis[3] - credir bod hyn oherwydd eu bod yn sugno am amser hirach (a’r ffaith bod nifer mwy o ŵyn), ac mae rhagor o alw am laeth. Fel arfer, po fwyaf o ŵyn sy’n sugno ar y famog y mwyaf yw’r cyfnodau sugno, a bydd y cyfnodau sugno yn hirach. Bydd hyn yn cynyddu’r risg o niwed i’r deth a hefyd yr amser y mae llwybr y deth ar agor. Gallai’r ddau ffactor hyn gynyddu’r tebygolrwydd y bydd bacteria yn cyrraedd y chwarren laeth.

Mae angen llawer o egni ychwanegol ar famogiaid sy’n cario nifer o ŵyn, felly maent yn fwy tueddol o ddioddef o docsaemia beichiogrwydd (a mastitis) ar ôl ŵyna, fel y nodwyd uchod.[14]

 

Atal imiwnedd/peryglu imiwnedd:

Gwelwyd bod mamogiaid â llyngyr (llyngyr gastroberfeddol) neu lyngyr yr iau (trematod) yn fwy tebygol o ddioddef o fastitis.[23] Unwaith yn rhagor, credir bod hyn oherwydd gwastraffu/diffyg protein yn y famog, sy’n cael effaith negyddol ar ei himiwnedd. 

 

Darparu amddiffyniad: 

Bu’r prawf maes ar ddiadell fferm Maestanyglwyden yn ystyried a oedd mamogiaid a gafodd eu brechu rhag bacteria S. aureus wedi’u hamddiffyn yn well (wedi’i fesur fel cyfradd is o achosion o fastitis), o’u cymharu â mamogiaid heb eu brechu. Fodd bynnag, mae trwydded y brechlyn a ddefnyddiwyd ar y mamogiaid ar fferm Maestanyglwyden ond yn nodi ei fod yn ‘lleihau’r achosion o fastitis is-glinigol’.[21] Felly, nid oes disgwyl i’r brechlyn leihau achosion clinigol; fodd bynnag, byddai rhoi hwb i imiwnedd y mamogiaid yn erbyn S.aureus wedi bod yn fuddiol i ryw raddau. 

Mae awduron eraill wedi edrych ar frechu fel dull o amddiffyn mamogiaid rhag mastitis. Gwnaeth un astudiaeth ystyried defnyddio brechlyn yn erbyn M.haemolytica, un o’r prif achosion o fastitis mewn diadelloedd defaid ‘cig’.[22] Defnyddiodd yr astudiaeth frechlyn yn systematig (o dan groen y pwrs) a gwelodd nad oedd yn cynnig unrhyw amddiffyniad rhag M.haemolytica. Fodd bynnag, pan gafodd y brechlyn ei roi yn rhyng-fronol (yn llwybr y deth), roedd y brechlyn yn amddiffyn y pwrs rhag mastitis (oherwydd M.haemolytica) am saith diwrnod, ond ddim am 14 diwrnod. Mae hyn yn dangos y gallai amddiffyniad lleol, a ddarparwyd drwy frechu i’r pwrs, atal haint am saith diwrnod. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw’r rhan fwyaf o ddefaid yn cael eu trin ar ôl y dyddiau cyntaf, felly nid yw rhoi ‘brechlyn hwb’ i famogiaid (bob saith diwrnod) yn ymarferol. 

 

Geneteg /ongl tethi:

Mae elfen eneteg yn gysylltiedig â’r tebygolrwydd y bydd mamogiaid yn dioddef mastitis,[25] a gall hyn chwarae rhan mewn rhai diadelloedd. Yn aml bydd anifeiliaid ‘gwerth uchel’ yn cael eu cadw er eu bod wedi datblygu mastitis, a gallai hyn olygu bod haint yn fwy tebygol o ledaenu ar y fferm. 

Mae cydffurfiad gwael rhwng y pwrs a’r tethi yn cael ei gysylltu â lefelau uwch o haint rhyng-fronol, ac mae modd canfod hyn drwy gyfrifiad celloedd somatig (SCC).[26] Yn ddiddorol, mewn un astudiaeth, roedd ŵyn y mamogiaid â chyfrifiad celloedd somatig uchel (SCC) wedi tyfu’n arafach ac roeddent yn pwyso llai, gan awgrymu bod y mamogiaid yn cynhyrchu llai o laeth - o bosibl oherwydd difrod i’r chwarren laeth yn sgil haint bacteriol.

Mae astudiaethau eraill wedi dangos bod tethi sydd yn fwy agos at flaen y pwrs yn fwy tebygol o ddioddef haint (ongl y deth),[25,16] oherwydd credir nad yw’r tethi hyn yn cael eu hamddiffyn cystal rhag y tywydd pan fydd yr ŵyn yn sugno.   
 

CASGLIAD: 

Er mwyn atal mastitis mewn mamogiaid, mae angen ystyried nifer o ffactorau. Fel y cyfeiriwyd uchod, mae maeth y mamogiaid (cyn iddynt ŵyna ac yn ystod chwe wythnos gyntaf y cyfnod llaetha) yn hollbwysig, er mwyn sicrhau y gall y mamogiaid gynhyrchu digon o laeth ar gyfer yr ŵyn sy’n tyfu. Bydd monitro sgôr cyflwr y corff (BCS) y mamogiaid yn helpu i adnabod unrhyw broblemau deietegol posibl (bydd angen rhagor o borthiant/ychwanegion ar famogiaid â sgôr BCS isel, ac ati).

Mae lleihau’r risg o ddifrod i’r tethi yn bwysig iawn hefyd, i leihau’r siawns y bydd bacteria yn cytrefu yn y deth/pwrs ac achosion dilynol o fastitis. Dylid trin unrhyw famogiaid sy’n dioddef o fastitis cyn gynted â phosibl, ond dylid eu marcio ar gyfer eu difa. Dylai mamogiaid â mastitis gael eu cadw ar eu pen eu hunain gyda’u hŵyn, i leihau’r risg o draws-sugno; bydd ŵyn y mamogiaid sydd wedi’u heffeithio yn llwglyd, gan fod llai o laeth ar gael iddynt, felly os byddant yn traws-sugno mamogiaid eraill yn y cae gallai hyn drosglwyddo mastitis, gan ledaenu bacteria i famogiaid eraill. 

Mae canfyddiadau’r prawf maes yn dangos bod brechu wedi bod o rywfaint o fudd i leihau cyfraddau mastitis; fodd bynnag, ni chafodd hyn effaith ystadegol arwyddocaol. Bydd hylendid, dwysedd stocio a gwell maeth (yn y cyfnod llaetha) wedi chwarae rhan fawr i leihau’r achosion o fastitis yn y ddiadell eleni. 

Byddai’n ddiddorol gwneud rhagor o waith i ystyried y tymheredd amgylchol a glawiad, i weld a fyddai’r cyfnod yn dilyn patrwm penodol yn y tywydd yn amlygu ‘cyfnodau risg’. Byddai hyn yn galluogi ffermwyr i fod yn fwy gwyliadwrus am achosion o fastitis, neu i roi porthiant ychwanegol yn ystod cyfnodau risg uwch. 


Cydnabyddiaeth: 

Diolch i Cyswllt Ffermio am yr arian a’i gwnaeth yn bosibl i gynnal y prawf maes. Diolch i Lisa Roberts am alluogi’r prawf i ddod yn realiti. 

Diolch i Mr. R Morris, Maestanyglwyden, am gymryd rhan yn y prawf maes, ac am barhau i gasglu data drwy gydol y prawf. 

Diolch i gyfarwyddwyr cwmni milfeddygon Cain Farm Vets, Robert Edwards a Simon Wilson, am roi amser ac adnoddau i’r awdur gasglu’r data. Diolch i’m cydweithiwr Lucy Tubbs am helpu i gasglu’r data tymheredd.

Diolch i Joseph Angell am gymorth gyda’r dadansoddiad ystadegol a’r gwaith ysgrifennu. 

 
Cyfeiriadau: 

1.    AHDB (2019) ‘Managing ewes for Better Returns’, Better Returns Programme. Ar gael yn: https://projectblue.blob.core.windows.net/media/Default/Beef%20&%20Lamb/BRP_Managing_Ewes_BR_190215_WEB.pdf. (Cyrchwyd: 2 Medi 2021). 

2.    Better Returns Program - Plus (2016) ‘Understanding mastitis in sheep’, Better Returns Programme. Ar gael yn: https://projectblue.blob.core.windows.net/media/Default/Imported%20Publication%20Docs/BRP-plus-Understanding-mastitis-in-sheep-180716.pdf. (Cyrchwyd: 2 Medi 2021). 

3.    Cooper, S., Huntley, S.J., Crump, R., Lovatt, F., Green, L.E. (2016) ‘A cross-sectional study of 329 farms in England to identify risk factors for ovine clinical mastitis’, Preventative Veterinary Medicine, Cyf 125, tt. 89-98. doi: 10.1016/j.preventmed.2016.01.012. 

4.    Better Returns Program () ‘Reducing lamb losses for Better Returns’, Better Returns Programme. Ar gael yn: https://farmantibiotics.org/wp-content/uploads/2018/01/BRP-Reducing-lamb-losses-for-better-returns-manual-14-231115.pdf. (Cyrchwyd: 2 Medi 2021). 

5.    Gelasakis, A.I., Mavrogianni, V.S., Petridis, I.G., Vasileiou, N.G.C., Fthenakis, G.C. (2015) ‘Mastitis in sheep – the last 10 years and the future of research’, Veterinary Microbiology,  Cyf. 181 (1-2), tt. 136-146. doi: 10.1016/j.vetmic.2015.07.009. 

6.    Grant, C., Smith, E.M., Green, L.E. (2016) ‘A longitudinal study of factors associated with acute and chronic mastitis and their impact on lamb growth rate in 10 suckler sheep flocks in Great Britain’, Preventative Veterinary Medicine, Cyf 127, tt. 27-36. doi: 10.1016/j.preventmed.2016.03.002. 

7.    Ratanapob, N., VanLeeuwen, J., McKenna, S., Wichtel, M., Rodriguez-Lecompte, J.C., Menzies, P., Wichtel, J. (2018) ‘The associated of serum β-hydroxybutyrate concentration with fetal number and health indicators in late-gestation ewes in commercial meat flocks in Price Edward Island’, Preventative Veterinary Medicine, Cyfrol 154, tt. 18-22. doi: 10.1016/j.prevetmed.2018.03.009.

8.    Kalyesubula, M., Rosov, A., Alon, T., Moallem, U., Dvir, H. (2019) ‘Intravenous infusions of glycerol versis propylene glycol for the regulation of negative energy balance in sheep: a randomized trial’, Animals (Basel), Cyfrol 9(10). doi: 10.3390/ani9100731.

9.    Sarginson, N.D. (2007) ‘Pregnancy toxaemia’, Diseases of sheep, Cyfrol 7, tt. 359-362.

10.    Karagiannis, I., Panousis, N., Kiossis, E., Tsakmakidis, I., Lafi, S., Arsenos, G., Boscos, C., Brozos, Ch. (2014) ‘Associations of pre-lambing body condition score and serum β-hydroxybutyric acid and non-esterified fatty acids concentrations with periparturient health of Chios dairy ewes’, Small Ruminant Research, Cyf. 120 (1), tt. 164-173. doi: 10.1016/j.smallrumres.2014.05.001. 

11.    Fragkou, I.A., Papaioannou, N., Cripps, P.J., Boscos, C.M., Fthenakis, G.C. (2007) ‘Teat lesions predispose to invasion of the ovine mammary gland by Mannheimia haemolytica’, Journal of comparative pathology, Cyf. 137(4), tt. 239-244. doi: 10.1016/j.jcpa.2007.08.002. 

12.    Grant, C., Smith, E.M., Green, L.E. (2016) ‘A longitudinal study of factors associated with acure and chronic mastitis and their impact on lamb growth rate in 10 suckler sheep flocks in Great Britain’, Preventative Veterinary Medicine, Cyf. 127, tt. 27-36. doi: 10.1016/j.preventmed.2016.03.002. 

13.    Cooper, S., Huntley, SJ., Green, L.E. (2012) ‘A longitudinal study of risk factors for teat lesions in 67 suckler ewes in a single flock in England’, Preventative Veterinary Medicine, Cyf. 110, tt. 232-241

14.    Vasileiou, N.G.C., Mavroginni, V.S., Petinaki, E., Fthenakis, G.C. (2019) ‘Predisposing factors for bacterial mastitis in ewes’, Reproduction in domestic animals, Cyf. 54(10), tt. 1424-1431. doi: 10.1111/rda.13541.

15.    Mork, T., Kvitle, B., Jorgensen, H.J. (2012) ‘Reservoirs of Staphylococcus aureus in meat sheep and dairy cattle’, Veterinary Microbiology, Cyf 155(1), tt. 81-87. doi: 10.1016/j.vetmic.2011.08.010. 

16.    Menzies, P.I., Ramanoon, S.Z. (2001) ‘Mastitis of sheep and goats’, Veterinary Clinics of North America: food animal practice, Cyf 17(2), tt. 333-358. doi: 10.1016/S0749-0720(15)30032-3. 

17.    Omaleki, L., Browning, G.F., Allen, J.L., Barber, S.R. (2011) ‘The role of mannheimia species in ovine mastitis’, Veterinary Microbiology, Cyf 153, tt. 67-72. doi: 10.1016/j.vetmic.2011.03.024. 

18.    Smith, E.M., Willis, Z.N., Blakeley, M., Lovatt, F., Purdy, K.J., Green, L.E. (2015) ‘Bacterial species and their associations with acute and chronic mastitis in suckler ewes’, Journal Dairy Science, Cyf 98(10), tt. 7025-7033. doi: 10.3168/jds.2015-9702. 

19.    Katsafadou, A.I., Politis, A.P., Mavrogianni, V.S., Barbagianni, M.S., Vasileiou, N.G.C., Fthenakis, G.C., Fragkou, I.A. (2019) ‘Mammary defences and immunity against mastitis in sheep’, Animals: an open access journal from MDPII, Cyf 9 (10), tt. 726. doi: 10.3390/ani9100726. 

20.    Melchior, M.B., Vaarkamp, H., Fink-Gremmels, J. (2006) ‘Biofilms: a role in recurrent mastitis infections?’, The veterinary journal, Cyf 171(3), tt. 398-407. doi: 10.1016/j.tvjl.2005.01.006. 

21.    HIPRA (2021) ‘VIMCO’. Ar gael yn: https://www.hipra.com/wcm/connect/hipra/fa85e4d9-ebb2-458e-8645-eed9dbeee865/VIMCO-EU-GB-IE-715906-01.0%281%29.pdf?MOD=AJPERES&CACHEID=ROOTWORKSPACE.Z18_L26A0J40OGJR60QGTTTS0N3067-fa85e4d9-ebb2-458e-8645-eed9dbeee865-m-Fq8cO (Cyrchwyd: 23 Hydref 2021). 

22.    Ballingall, K.T., Tassi, R., Schiavo, M., Filipe, J.F.S., Todd, H., Ewing, D. (2021) ‘Intramammary immunisation provides short term protection against Mannheimia haemolytica mastitis in sheep’, Frontiers in Veterinary Science. doi: 10.3389/fvets.2021.659803. 

23.    Mavrogianni, V.S., Papadopoulos, E., Gougoulis, D.A., Gallidis, E., Ptochos, S., Fragkou, I.A., Orfanou, D.C., Fthenakis, G.C. (2017) ‘Gastrointestinal trichonstrongylosis can predispose ewes to clinical mastitis after experimental mammary infection’, Veterinary parasitology, Cyf 245, tt. 71-77. doi: 10.1016/j.vetpar.2017.08.013. 

24.    Waage, S., Vatn, S. (2008) ‘Individual animal risk factors for clinical mastitis in meat sheep in Norway’, Preventative Veterinary Medicine, Cyf 87(3-4), tt. 229-243. doi: 10.1016/j.preventmed.2008.04.002. 

25.    McLaren, A., Kaseja, K., Yates, J., Mucha, S., Lambe, N.R., Conington, J. (2018) ‘New mastitis phenotypes suitable for genomic selection in meat sheep and their genetc relationships with udder conformation and lamb liveweights’, Animal: an internation journal of animal bioscience, Cyf 12(12), tt. 2470-2479. doi: 10.1017/S1751731118000393. 

26.    Huntley, S.J., Cooper, S., Bradley, A.J., Green, L.E. (2012) ‘A cohort study of the associations between udder conformation, milk somatic cell count, and live weight in suckler ewes’, Journal Dairy Science, Cyf 95(9), tt. 5001-5010. doi: 10.3168/jds.2012-5369.