Cornwal Uchaf Project Update - May 2024
Diweddariad ar y prosiect – Mai 2024
- Ym mis Chwefror 2024, cafodd yr holl heffrod brawf gwaed er mwyn sgrinio am glefydau a diffygion mwynau
- Mae’r canlyniadau i’w gweld yn Nhabl 1. Yn dilyn cyngor gan y milfeddyg, derbyniodd yr holl heffrod folysau mwynau a oedd yn rhyddhau'n araf.
Tabl 1. Canlyniadau profion gwaed yr heffrod
Cafodd yr holl heffrod eu cydamseru yn dilyn protocol PRID ac Estrumate 10 diwrnod, a amlygir yn Nhabl 2.
Tabl. 2 – Amserlen ar gyfer cydamseru
- Cynhaliwyd DIY Ffrwythloni Artiffisial gan dechnegydd Ffrwythloni Artiffisial lleol a chafodd yr holl heffrod eu sganio tua 5 wythnos ar ôl ffrwythloni er mwyn pennu’r gyfradd beichiogi a llwyddiant y prosiect.
- Ar ôl sganio’r heffrod, allan o 13 o wartheg a gydamserwyd, roedd 7 yn feichiog a 6 yn wag sy'n golygu cyfradd beichiogi o 54%, sy'n gyfartaledd ar gyfer buches sugno bîff.
Darganfyddwch ragor ar y pwnc hwn:
Adolygiad Prosiect Safle Ffocws | Busnes Cymru