Cwmcowddu Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Cynhaliwyd dadansoddiad trylwyr o samplau pridd o gaeau pori a silwair. Bydd y dadansoddiad hwn yn rhoi gwybodaeth hanfodol am broffiliau maethol y caeau hyn, gan ganiatáu ar gyfer gwasgariad tail sydd wedi'i dargedu ac yn effeithlon. Ochr yn ochr â hyn, mae samplau o’r tail dofednod wedi'u dadansoddi i bennu eu cynnwys maethol a'u gwerth posibl fel gwrtaith.
Y Camau Nesaf?
Mae'r prosiect yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd, gyda'r ffocws ar drosi'r data a gasglwyd yn gynlluniau gweithredu. Mae hyn yn cynnwys creu Cynlluniau Rheoli Maetholion (NMP) pwrpasol ar gyfer dwy fferm sy’n cymryd rhan. Bydd y Cynlluniau Rheoli Maetholion hyn yn amlinellu dull wedi’i deilwra ar gyfer pob fferm, gan ystyried eu nodweddion pridd unigryw, cyfraddau stocio, ac argaeledd tail. Bydd y cynlluniau’n cael eu rhannu â’r ffermwyr ym mis Mehefin 2024, a fydd wedyn yn cael y cyfle i roi adborth a sicrhau bod yr argymhellion yn cyd-fynd â’u gweithrediadau ymarferol.
Y tu hwnt i greu cynlluniau wedi’u teilwra, nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael ag ystod ehangach o gwestiynau sy’n ymwneud ag integreiddio tail dofednod i systemau glaswelltir. Mae hyn yn cynnwys:
- Datblygu cynllun hirdymor ar gyfer gwasgaru tail dofednod, ei amseriad a’i leoliad, er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o faetholion yn cael eu cymryd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
- Llunio cynllun diwygiedig ar wasgaru slyri gwartheg llaeth yng Nghwmcowddu, gan ystyried y rheoliadau CoAP newydd a mynegeion pridd y caeau gerllaw buarth y fferm.
- Nodi'r opsiynau gwrtaith mwyaf cost-effeithiol i ychwanegu at unrhyw ddiffygion maeth sy'n weddill ar ôl defnyddio tail a gynhyrchir gartref.
- Adolygu’r arferion presennol o storio tail dofednod a nodi arferion gorau sy'n cyd-fynd â rheoliadau CoAP.
- Cynnal dadansoddiad cost a budd o sychu a chompostio tail dofednod fel strategaethau rheoli amgen posibl.