Cyflwyniad i'r prosiect - Cynllun Rheoli Mastitis

Yn nodweddiadol mastitis yw un o’r problemau iechyd mwyaf ar ffermydd llaeth. Bydd y llid yn y chwarren laeth a meinwe’r gadair/pwrs yn digwydd fel ymateb i ymosodiad gan facteria ar bibell y deth. Gall tocsinau bacteria greu difrod difrifol i’r gader/pwrs a gall difrod parhaol ddigwydd weithiau. Gall achosion difrifol fod yn angheuol, ond hyd yn oed mewn buchod sy’n gwella, gellir gweld canlyniadau am weddill y llaethiad a llaethiadau dilynol. Trin a rheoli mastitis yw un o’r costau mwyaf i’r diwydiant llaeth yn y Deyrnas Unedig, ac mae hefyd yn ffactor o bwys o ran lles buchod llaeth. Bydd colledion yn deillio o:

  • Orfod taflu llaeth oherwydd ei fod wedi ei halogi gan feddyginiaethau neu nad yw’n addas i’w yfed
  • Gostyngiad mewn cynnyrch
  • Y llafur ychwanegol sy’n ofynnol i ofalu am y buchod sydd wedi dioddef
  • Costau gofal milfeddygol a meddyginiaethau
  • Cost byrhau eu hoes oherwydd eu bod yn cael eu gwaredu yn gynamserol

Felly, mae sicrhau bod mastitis yn cael ei reoli yn hanfodol i sicrhau iechyd a chynhyrchiant y fuwch. 

Dangosodd gwaith hanesyddol a wnaed gan AHDB bod mastitis yn fater allweddol ar ffermydd llaeth gyda’r cyfraddau clinigol yn uwch nag oedd pobl yn ei feddwl i gychwyn. Oherwydd hyn cyflwynwyd Cynllun Rheoli Mastitis DairyCo yn genedlaethol yn 2009. Gostyngodd cyfradd gyfartalog mastitis clinigol o 20% mewn buchesi wnaeth fabwysiadu’r cynllun, o 44 achos i bob 100 o fuchod/y flwyddyn i 35 achos i bob 100 o fuchod/y flwyddyn. Mae’n amlwg y gall cynllun wedi ei strwythuro, penodol i’r fferm o argymhellion ymarferol fod o fudd sylweddol i ffermydd llaeth. Yn ychwanegol, gyda’r pryder cynyddol am ddefnyddio gwrthfiotig ac iechyd anifeiliaid, mae’n hanfodol i ffermwyr edrych ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â mastitis ac ymdrin â nhw. Lansiodd AHDB a Phrifysgol Nottingham Adnodd Patrwm Mastitis newydd. Mae’n cynnig dull hollol awtomataidd o asesu’r patrymau heintiadau mastitis amlwg ar y fferm, gan ddefnyddio cyfrif celloedd somatig a chofnodion clinigol mastitis. Mae’n cynhyrchu adroddiad patrwm mastitis sy’n gadael i ffermwyr a milfeddygon asesu a blaenoriaethu meysydd rheoli allweddol ac o bosibl canfod problemau sy’n dod i’r amlwg yn y cyfnod sych a/neu’r cyfnod llaetha.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio Cynllun Rheoli Mastitis Cenedlaethol AHDB Dairy yn ogystal ag adnodd Patrwm Mastitis newydd yr AHDB ar fferm Longlands, lle bydd asesiad cychwynnol yn cael ei gynnal gan Dr James Breen (QMMS) i amlygu’r meysydd risg mwyaf yn y fuches laeth.  Bydd strategaeth reoli yn cael ei llunio a’i gweithredu gyda’r nod o leihau’r achosion mastitis clinigol newydd, cyfrif celloedd somatig a’r defnydd dilynol o wrthfiotig ar draws y fuches odro. Trwy weithredu ac arddangos strategaeth reoli mastitis ar y fferm rydym yn anelu at roi gwybodaeth i eraill am sut y gellir cyflawni hyn a’r gwir fanteision.

 

Bydd y meysydd canlynol yn cael eu hasesu;

  • Manteision therapi dethol buchod sych (SDCT), selwyr tethi ar achosion mastitis a’r cyfrif celloedd somatig.
  • Technegau trwytho gwrthfiotig, SDCT a selwyr tethi.
  • Costau ariannol mastitis i’r fferm a manteision gweithredu’r cynllun rheoli mastitis a’r adnodd patrwm mastitis.
  • Defnyddio deunydd gwrthficrobaidd a meincnodi o flwyddyn i flwyddyn.
  • Rheoli amgylchedd y fuwch sych a’r fuwch sy’n llaetha, manteision y tiwb awyru pwysedd newydd a blaengar yn y sied wartheg.

Mae’r prosiect hwn yn gobeithio lleihau effaith mastitis ar fferm Longlands yn sylweddol a gwella’r cynhyrchiant ar y fferm.