Cyflwyniad Prosiect - Clawdd y Mynach
Mae ar yr holl gilgnowyr (gan gynnwys defaid, gwartheg a geifr) angen cobalt yn eu diet er mwyn creu fitamin B12. Mae fitamin B12 yn hanfodol mewn anifeiliaid sy’n tyfu yn arbennig o ran metaboleiddio ynni, cynhyrchu celloedd gwaed coch ac mae ar ficrobau’r perfedd ei angen i drosi cynnwys y stumog yn elfennau bwyd y gall yr anifail eu treulio. Gall diffyg cobalt mewn priddoedd achosi diffyg fitamin B12 mewn da byw. Gwelir arwyddion diffyg cobalt yn fwyaf cyffredin mewn ŵyn wedi eu diddyfnu ar borfa yn ystod yr haf hwyr/hydref; mae’r arwyddion hyn yn cynnwys bod yn ddifywyd, llai o awch bwyd, a gwlân gwael â chnu agored, bychan o ran maint a chyflwr corff gwael er gwaethaf digon o faethiad.
Er mwyn atal diffyg cobalt, mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn awr yn defnyddio gwahanol ddulliau o ategu cobalt, mae’r rhain yn cynnwys y canlynol;
- ategu dwysfwyd
- ategu cobalt mewn blociau llyfu
- rhoi bolysau rhyddhau cobalt yn araf trwy’r geg
- fitamin B12 trwy chwistrell
- dosio gyda chobalt yn achlysurol
- chwalu sylffad cobalt yn uniongyrchol ar y borfa
Mae angen ystyried yn ofalus wrth ddewis y dull mwyaf priodol o ategu cobalt. Yn aml fe welir mai’r ategolyn mwyaf effeithiol yw un sy’n cael ei roi yn uniongyrchol i’r anifail e.e. bolws neu chwistrelliad; ond mae’r canlyniadau yn amrywiol o ran effaith pob cynnyrch ar perfformiad ŵyn, felly mae’n anodd gwybod pa ddull o ategu cobalt yw’r un gorau i’w ddefnyddio. Os bydd angen ategolion, mae bob amser yn werth cymharu triniaethau i weld beth sy’n gweithio orau i ffermydd amrywiol a’u hanifeiliaid.
Beth fydd yn cael ei wneud:
Dewiswyd tair fferm sy’n cynnwys amrywiaeth o fentrau mewn lleoliadau daearyddol gwahanol, er mwyn trafod nifer o wahanol fathau o briddoedd. Mae’r ffermydd hyn yn gwybod bod diffyg cobalt wedi bod yn eu defaid sydd wedi effeithio ar gynhyrchiant ŵyn, trwy gynnydd pwysau. Maent felly yn ategu cobalt i’r ŵyn sy’n tyfu.
Ein nod gyda’r prosiect hwn yw pennu effaith y dull o ategu cobalt ar y cynnydd ym mhwysau’r ŵyn ar ôl eu diddyfnu. Mae’r dulliau o ategu cobalt yn cynnwys bolws trwy’r geg i’r rwmen sy’n rhyddhau yn araf ac ar ffurf chwistrelliad.
Bydd 140 o ŵyn yn cael eu dethol o efeilliaid pob fferm yn 2019, a byddant yn cael eu tagio a’u pwyso. Bydd yr holl efeilliaid yn derbyn bolws seleniwm ac ïodin i sicrhau cysondeb. Bydd un efaill yn mynd i’r grŵp bolws a’r llall i’r grŵp fydd yn cael chwistrelliad. Bydd y grŵp bolws yn cael bolws cobalt. Bydd y grŵp chwistrelliad yn cael 0.5ml o SmartShot trwy chwistrell yn y cyhyrau. Cymerir sampl gwaed gan 10 oen o bob grŵp (h.y. 20 ar bob fferm) i gael lefel gwaelodlin fitamin B12 (cobalt).
Bydd pob oen wedyn yn cael ei bwyso bob pythefnos nes byddant yn 20 wythnos oed. Cymerir sampl gwaed o’r un 20 oen o bob fferm am fitamin B12.
Bydd yr ŵyn yn cael eu magu fel y byddent ar y fferm fel arfer.