Cyflwyniad Prosiect College Farm

Mae llawer o gyflyrau all achosi cyflwr gwael mewn diadelloedd, megis llyngyr yr iau, baich llyngyr a diffyg elfennau hybrin. Gall y cyflwr gwael hefyd gael ei achosi gan bresenoldeb y clefydau canlynol:

  • OPA (Ovine Pulmonary Adenocarcinoma/Jaagsiekte)
  • Maedi Visna (MV)
  • Caseous Lymphadenitis (CLA)
  • Paratuberculosis defeidiol / Clefyd Johne (OJD)
  • Clefyd y Ffîn (BD)

Gelwir y clefydau hyn yn ‘glefydau rhewfryn’ am fod llawer llai’n cael eu cofnodi nag sydd yn bodoli mewn gwirionedd. Dim ond brig y rhewfryn sy’n amlwg, sef y rhai sy’n dangos arwyddion clinigol, ond mae’n bosibl y byddai gwir raddfa’r broblem yn llai amlwg. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y clefydau yn anodd iawn i’w canfod a gallant fodoli mewn diadell am flynyddoedd lawer cyn i unrhyw arwyddion clinigol ddod yn amlwg. Mae’r clefydau rhewfryn yma yn creu sialensiau sylweddol i gynhyrchiad diadelloedd defaid (cyfradd marwolaeth a marwoldeb uwch mewn ŵyn o ganlyniad i lai o gynhyrchiant llaeth a cholostrwm o ansawdd isel) a gallant fod yn gostus i’r ffermwr.   Mae hyn yn golygu y gall y clefydau ymledu yn sylweddol cyn iddynt gael eu canfod, ac felly, gall fod yn anodd rheoli’r clefydau. Ni welir yr arwyddion clinigol yn aml nes bydd tua 50% o’r ddiadell wedi ei heintio ac ar y cam hwnnw mae’n anodd iawn cael gwared â’r clefyd, os nad yn amhosibl. Mae’n bwysig iawn gwybod pa rai sy’n bresennol fel y gellir ymdrin yn briodol â nhw.

Yn dilyn arolwg a gwblhawyd gan y milfeddyg a’r ymchwilydd, Fiona Lovatt yn 2016, a fu’n edrych ar dros 800 o ffermydd yn y DU (a oedd yn pesgi 670 o ŵyn y flwyddyn ar gyfartaledd), roedd 94% o’r ffermwyr yn honni nad oeddent wedi gweld y pump ‘clefyd rhewfryn’, ond mae tystiolaeth o ganolfannau stoc marw yn dangos gwir raddfa’r clefydau hyn. Mae’r clefydau hyn yn dod yn fwy amlwg, gydag oddeutu 37,000 o famogiaid yn y DU wedi cael Maedi Visna yn 1995 mewn diadelloedd masnachol.  Mae hyn wedi cynyddu i 109,000 erbyn 2011.  Rhan o’r broblem yw’r system fridio haenedig yn y DU gyda mamogiaid dethol a mamogiaid croes yn cael eu gwerthu’n eang i ffermwyr fel anifeiliaid cyfnewid, sydd hefyd yn prynu hyrddod.

Yn dilyn marwolaeth sydyn mamog 3 blwydd oed mewn cyflwr da yn 2017 ar fferm College Farm, cynhaliwyd archwiliad post mortem i ganfod y rheswm dros ei marwolaeth.  Canfuwyd mai niwmonia pliwrisi difrifol a arweiniodd at ei marwolaeth, ond gwelwyd hefyd friwiau tiwmor solet yn yr ysgyfaint.  Roedd samplau a anfonwyd i’r labordy am brofion yn cadarnhau presenoldeb OPA (Ovine Pulmonary Adenocarcinoma/Jaagsiekte) a fyddai wedi arwain at niwmonia.  Er bod OPA wedi cael ei ganfod yn y ddiadell ar fferm College Farm yn flaenorol, mae graddfa’r clefyd yn dal i fod yn gymharol anhysbys.

 

Beth fydd yn cael ei wneud-

 

Cynllun Iechyd y Ddiadell

Bydd y ffermwr a’r milfeddyg yn adolygu ac yn diweddaru cynllun iechyd presennol y fferm ar gyfer y ddiadell. Bydd hyn yn hanfodol i sicrhau’r safonau iechyd a lles gorau posibl ar gyfer y ddiadell, yn ogystal â datblygu perthynas weithio gydweithredol rhwng y milfeddyg a’r ffermwr.

 

Samplau Gwaed

Bydd statws iechyd y ddiadell gyfan yn cael ei fonitro a’i fesur gan ddefnyddio samplau gwaed. Ar ôl sgorio cyflwr corff mamogiaid ar gyfer troi grwpiau ar yr hwrdd, mae grŵp o’r 28 mamogiaid teneuaf wedi cael ei dynnu allan i grŵp ar wahân.

Bydd samplau gwaed gan 12 o’r mamogiaid hyn yn cael eu samplu ar gyfer  y clefydau canlynol: MV, Johnes, CLA, Clefyd y Ffîn.

 

Samplau ysgarthion

Bydd prawf Coproantigen grŵp yn cael ei wneud ar y 12 mamog er mwyn profi am bresenoldeb llyngyr. Er bod y prosiect hwn yn gobeithio canolbwyntio ar ganfod ‘clefydau rhewfryn’, bydd profi ar gyfer llyngyr yn y modd hwn yn ein galluogi i weld a yw llyngyr yn broblem wirioneddol sy’n achosi i’r mamogiaid fod yn deneuach.

 

Biopsi o’r iau

Bydd biopsi o’r iau yn cael ei gymryd o unrhyw archwiliadau post mortem a gynhelir ar famogiaid marw. Bydd hyn yn cael ei wneud er mwyn profi am broblemau elfennau hybrin a allai hefyd fod yn rheswm pam fod y mamogiaid yma wedi tanberfformio.

 

Post Mortem

O’r grŵp mamogiaid a dynnwyd allan yn dilyn sgorio cyflwr corff wrth droi at yr hwrdd, bydd dwy o’r mamogiaid teneuaf yn cael eu difa a’u hanfon am archwiliad post mortem i Ganolfan Milfeddygol Cymru.

Bydd archwiliadau post mortem manwl yn cael eu cynnal a fydd yn rhoi man cychwyn da i ni ddeall yr hyn sy’n ein hwynebu. Wedi hynny, bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar unrhyw famogiaid sy’n marw heb unrhyw reswm amlwg.

 

Sganio Uwchsain

Sganio uwchsain yw’r ffordd orau o reoli ac adnabod y clefyd marwol ar yr ysgyfaint, Ovine Pulmonary Adenocarcinoma (OPA). Mae’r dechnoleg, sy’n debyg i sganio beichiogrwydd, yn gweithio drwy ganfod tyfiannau (2cm neu fwy) ac mae’n gallu canfod 98% o achosion. Bydd y grŵp o 28 mamog a nodwyd gyda BCS llai na’r delfrydol cyn troi at yr hwrdd yn cael eu sganio i chwilio am glwyfau ar yr ysgyfaint.

Yn dilyn canfyddiadau’r sganiau, bydd pob mamog yn y ddiadell yn cael ei sganio pryd bynnag fydd yr holl famogiaid yn cael eu trin fel sy’n gyfleus i’r ffermwr (e.e. amser sganio beichiogrwydd/diddyfnu ayb).

 

Difa

Yn dilyn y profion a’r canlyniadau uchod, bydd protocol difa llym yn

cael ei ddatblygu i leihau nifer yr unigolion sydd wedi’u heintio’n barhaus (PI) a ganfuwyd o fewn y ddiadell.