Cyflwyniad Prosiect Court Farm: Sut i adnabod, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn mewn defaid.

Safle: Court Farm

Cyfeiriad: Llanddewi Nant Honddu, Y Fenni, Sir Fynwy

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Sut i adnabod, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn mewn defaid.

 

Cyflwyniad i’r prosiect:

Mae clefydau rhewfryn, megis OPA (adenomadedd ysgyfaint defaid), clefyd Johne, MV (Maedi Visna), CLA (lymffadenitis crawnllyd) a Chlefyd y Ffin, yn arwyddocaol dros ben i ddiwydiant defaid y DU. Mae’r rhain yn glefydau sy’n dod i’r amlwg fel nifer fechan o achosion wedi’u heffeithio’n glinigol, a cheir nifer fwy o achosion is-glinigol yng ngweddill y ddiadell.

Mae’r clefydau hyn yn arwyddocaol iawn oherwydd y canlynol:

  1. Lles anifeiliaid- ar ôl dal y clefydau hyn, byddant yn farwol maes o law, er enghraifft, mae OPA yn arwain at gynhyrchu gormod o hylif yr ysgyfaint.
  2. Effeithiau ar gynhyrchedd yn sgil magu gwael, twf gwael ymhlith ŵyn, ac ŵyn yn pwyso llai ar adeg eu geni.
  3. Defnydd amhriodol o wrthfiotigau – yn aml iawn, rhagdybir fod niwmonia bacteriol cronig ar famogiaid tenau, a chânt eu trin â gwrthfiotigau.

Cafwyd sawl astudiaeth ynghylch mynychder y clefydau rhewfryn hyn, ond ychydig o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ynghylch buddion (o safbwynt costau) nodi a chael gwared ar y clefydau hyn ar ffermydd masnachol.

Yn ychwanegol, mae tagiau EID a meddalwedd electronig sy'n caniatáu i ddata defnyddiol gael eu cofnodi a’u defnyddio i wneud penderfyniadau rheolaidd am fridio yn adnoddau sydd ddim yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Yn y prosiect hwn, rydym ni’n gobeithio amlygu buddion gwirioneddol defnyddio’r dechnoleg hon o safbwynt y fferm trwy gynorthwyo â phenderfyniadau bridio a monitro cynhyrchedd. 

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cafwyd anawsterau o safbwynt sgôr cyflwr corff gwael mewn mamogiaid yn eu llawn dwf; fodd bynnag, ni nodwyd marwolaethau gormodol. Ymchwiliwyd i hyn, a chanfuwyd rhywfaint o ganfyddiadau arwyddocaol a gafodd eu datrys (diffyg cobalt), ond fel arall, ni chanfuwyd tystiolaeth o glefyd Johne, MV na llyngyr yr iau. Er gwaethaf hyn, roedd cyflwr gwael mamogiaid yn broblem sylfaenol reolaidd ar y fferm. Yn ystod ymweliad ym mis Tachwedd 2020, gwelwyd fod nifer o famogiaid yn anadlu’n drwm a sylwyd ar redlif gormodol o’r trwyn yn achos ychydig o famogiaid tenau yn y grŵp. Cafodd un o’r rhain ei difa at ddiben post-mortem ar y fferm, a chanfuwyd niwed helaeth a ddoluriau yn sgil OPA. Nid oedd y clefyd hwn wedi cael ei ganfod yn y ddiadell hon yn flaenorol.

 

Amcanion y Prosiect: 

Prif amcan y prosiect yw sefydlu gwir fynychder OPA yn y ddiadell gan ddefnyddio uwchsain thorasig. Mae’r ddiadell yn cynrychioli nifer sydd wedi’u heintio â’r math hwn o glefyd. Rydym ni hefyd yn dymuno canfod a yw difa mamogiaid sydd wedi’u heffeithio dros amser yn sicrhau perthynas costau-buddion wirioneddol rhwng cost canfod y clefyd a buddion nodi unigolion sydd wedi’u heffeithio a’u tynnu o’r ddiadell. Bydd hyn yn ystyried y costau sy’n gysylltiedig â ffioedd milfeddygon a mamogiaid tenau yn marw ar y fferm o gymharu â chostau difa mamogiaid, cyn iddynt gyrraedd cam terfynol y clefyd. Rydym ni’n bwriadu ystyried paramedrau gwelliant eraill yn ystod oes y prosiect, e.e. cynnydd o ran ffigyrau sganio a chynnydd yng nghyfraddau goroesi ŵyn.  

Trwy wella statws iechyd y ddiadell hon, gobeithir y gwnaiff cynhyrchedd ac effeithlonrwydd gynyddu. Un nod tymor hir, ar y cyd â’r milfeddygon lleol, fydd ystyried cynlluniau iechyd y dyfodol a lleihau’r perygl o ailgyflwyno’r clefyd a monitro’r clefyd yn y tymor hir. Mae hyn hefyd yn cynnig cyfle i wneud y defnydd gorau posibl o gofnodion gwell a thagiau electronig.  Mae’r fferm yn defnyddio EID ar hyn o bryd, ond ni fanteisir yn llawn arno.  Dylai newidiadau yn y dull o reoli’r defnydd o dagiau gynorthwyo i wella cofnodion a phenderfyniadau bridio yn y dyfodol i helpu i gael gwared ar glefydau.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Bennwyd:

Oherwydd natur y prosiect hwn, mae nodi dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y tymor byr yn anodd. Ar y cyfan, gwella cynhyrchedd a hirhoedledd fyddai buddion tymor hir gwaith i nodi, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn o’r ddiadell. Fodd bynnag, efallai na fyddai hynny’n amlwg am flynyddoedd lawer yn dilyn y gwaith hwn.

 

Llinell Amser a Cherrig Milltir: