Cyflwyniad Prosiect Fferm Pentre

Mae pwysau mawr i besgi ŵyn yn barod i’r farchnad ac mae nifer o ffactorau sy’n gallu achosi oedi. Un agwedd na ddylid ei hanwybyddu yw lefelau elfennau hybrin mewn ŵyn sy’n tyfu oherwydd bydd diffygion a gwenwyndra yn arwain at gynhyrchiant is.  

Cyn ystyried atchwanegion, bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd i brofi lefelau copr (Cu), cobalt (Co) a seleniwm (Se) er mwyn sicrhau bod angen trin yr ŵyn. Os daw diffyg i’r amlwg, mae angen ystyried yn ofalus cyn dewis y ffordd fwyaf priodol o roi’r atchwanegyn sy’n cynnwys yr elfennau hybrin i ŵyn sy’n tyfu. Yn aml, yr atchwanegyn mwyaf cost-effeithiol yw un sy’n cael ei roi i’r anifail yn uniongyrchol, e.e. bolws neu drensh; fodd bynnag, mae’r canlyniadau o ran effaith y cynhyrchion hyn ar berfformiad ŵyn yn amrywio, felly mae’n anodd gwybod pa ddull sydd orau wrth roi atchwanegion elfennau hybrin i’r anifeiliaid. Os oes angen rhoi atchwanegion, mae bob amser yn werth cymharu’r triniaethau i weld beth sy’n gweithio orau i wahanol ffermydd a’u hanifeiliaid.  

Mae’r teulu Parry o Fferm Pentre, Llan-soe, yn prynu cannoedd o ŵyn stôr bob blwyddyn i’w pesgi. Gan eu bod yn prynu ŵyn o ffermydd a lleoliadau gwahanol, gall lefelau elfennau hybrin yr ŵyn amrywio’n sylweddol. Byddai dod o hyd i’r dull mwyaf effeithiol a chost-effeithlon o roi atchwanegion elfennau hybrin yn werthfawr i berfformiad a lles yr ŵyn yn y tymor hir, yn ogystal â pherfformiad ariannol cyffredinol y busnes.

 

Llinell amser a Cherrig milltir: 

 

Tachwedd 2019

Rhannu 150 o ŵyn stôr yn dri grŵp o 50 (gan ddefnyddio generadur haprifau).

Tachwedd 2019

Cymryd samplau gwaed o 5 oen ym mhob grŵp i brofi eu lefelau copr (Cu), cobalt (Co) a seleniwm (Se).

Tachwedd 2019 

  • Grŵp 1 yn derbyn atchwanegyn elfen hybrin geneuol misol sydd ar gael ar y farchnad.
  • Grŵp 2 yn derbyn bolws ŵyn Download Essential.
  • Grŵp 3 yn derbyn bolws ŵyn Carrs Billington Ovi-trace.

Ionawr 2020

Cymryd samplau gwaed o’r un 5 oen ym mhob grŵp i weld a yw’r lefelau elfennau hybrin wedi cynyddu/aros yr un fath gan gefnogi honiadau’r cynhyrchwyr.

Tachwedd 2019-Mawrth 2020

Monitro pwysau byw yr holl ŵyn yn y grwpiau bob pythefnos.

Mawrth 2020

Cymryd samplau gwaed o’r un 5 oen ym mhob grŵp i weld a yw’r lefelau elfennau hybrin wedi cynyddu/aros yr un fath gan gefnogi honiadau’r cynhyrchwyr.

Tachwedd 2019-Mawrth 2020

Monitro’r ŵyn yn agos yn ystod y treial am unrhyw broblemau iechyd a lles cysylltiedig neu anghysylltiedig.

Ebrill 2020

Dadansoddi’r holl ddata a gesglir yn ystod y treial, a chymharu cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) yr holl ŵyn.

28 Mai 2020 

Cynnal diwrnod agored ar Fferm Pentre i rannu canlyniadau’r treial