Cyflwyniad Prosiect Forest Coalpit: Pa effaith gaiff diet gwahanol ar ansawdd porc?

Safle: Forest Coalpit, Y Fenni

Swyddog Technegol: Dafydd Owen

Teitl y prosiect: Pa effaith gaiff diet gwahanol ar ansawdd porc?

 

Cyflwyniad i’r prosiect:

Mae ansawdd porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith, sy’n rhedeg eu cenfaint 20 hwch bwrw perchyll hyd eu gorffen o’u brid eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ (Du Mawr x Duroc) ar borfa a choetir ar eu fferm ym Mannau Brycheiniog. Maent yn cigydda a gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai blaenllaw a chigyddion. Fodd bynnag, ers i’r pandemig COVID-19 ddechrau, mae eu porc yn cael ei werthu yn bennaf mewn blychau a thrwy gigyddion. 

Gyda chynnydd yn y ffermwyr sy'n gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i'r defnyddiwr, mae'n holl bwysig bod y cynnyrch a werthir o'r safon uchaf. Mae'r prosiect hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd a’r gallu i’w olrhain yn eu cynnyrch, yn enwedig tuag at ddulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy trwy ddadansoddi a chymharu ansawdd porc o ddau grŵp: un grŵp wedi'i fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a'r llall ar ddwysfwyd yn unig. Bydd cost a chynhyrchiant y ddau ddiet hefyd yn cael eu cymharu.

 

Nod y prosiect:

Y prif amcan yw nodi effaith y diet ar ansawdd y porc a gynhyrchir. Wrth i agweddau defnyddwyr newid, ac mae wyth o bob deg defnyddiwr bellach yn debygol o wirio tarddiad eu bwyd, mae cael proffil o'r porc a chael gwybod am yr effeithiau y gall dietau gwahanol eu cael ar yr ansawdd ychwanegu gwerth i'r cynnyrch a darparu cynhyrchwyr moch gyda phwynt gwerthu unigryw arall. Gallai dadansoddiad cemegol y porc fod yn ddefnyddiol ar gyfer hysbysebu buddion iechyd neu anfanteision posibl o un driniaeth o'i gymharu â'r llall. Gallai canfyddiadau'r prosiect hwn ddarparu ffynhonnell o wybodaeth ddefnyddiol i gynhyrchwyr moch eraill sy'n ystyried neu eisoes yn magu/bridio moch mewn modd tebyg. 

Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd y moch, gall magu/bridio moch yn yr awyr agored ar laswelltir gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac economi’r fferm, megis:

  • costau bwydo is
  • costau ynni is (trydan, dŵr ac ati)
  • hyrwyddo aildyfiant naturiol trwy bori mewn ffordd sydd ddim yn amharu’n ormodol ar y pridd ac sy’n creu gwelyau hadau. 

 

Beth fydd yn cael ei wneud:

Bydd cyfanswm o 18 hesbinychod yn cael eu rhannu'n ddau grŵp, dri mis cyn eu dyddiad lladd. Bydd mamau'r hesbinychod yn chwiorydd a bydd pob hesbinwch yn dod o’r un baedd er mwyn lleihau effaith y tad. 

Bydd un grŵp ar bridd noeth (dim tyfiant glaswelltir) a bydd y llall ar laswelltir.

Bydd pedair corlan (pob un o gwmpas 0.1 hectar (ha) o faint), dwy gyda glaswelltir a dwy heb. Bydd gan y ddau grŵp ddwy gorlan a byddant yn cylchdroi rhwng y ddwy bob pythefnos.  

Mae'r padogau glaswelltir yn cynnwys rhygwellt, meillion, ffawlys, ysgellog, cêl a rêp porthiant.

Ar ôl 12 wythnos, bydd pob mochyn (yn y ddau grŵp) yn derbyn 1.8kg o ddwysfwyd y dydd. 

Bydd pob mochyn yn cael ei bwyso bob pythefnos i fonitro cynnydd pwysau byw dyddiol ac i gymharu perfformiad o wahanol ddietau. Yn ogystal â hyn, mesurir faint o laswellt mae’r moch yn ei fwyta er mwyn cyfrifo’r swm o ddeunydd sych (DM) mae pob mochyn yn ei fwyta/pori.

Ar ôl eu lladd ddiwedd mis Awst, bydd hanner lwyn o bob mochyn unigol yn cael ei anfon i'w ddadansoddi. Bydd pob sampl a gesglir yn cael ei labelu a gellir ei olrhain i bob mochyn unigol.

Gan weithio gyda Caroline Mitchell o FQM Global a’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni, bydd y prosiect ar y cyd â Menter Moch Cymru yn cynnal asesiadau unigol fydd yn cynnwys:

  • Grym pur Warner Bratzler
  • EZ-Drip loss
  • Sgorio lliw CEILAB
  • Sgôr lliw a brithder NPPC (USDA)
  • Asesiad NIR (sy’n rhoi gwerth braster, protein, a lleithder ymhlith pethau eraill)

Bydd adroddiad manwl yn dilyn yr asesiadau yn caniatáu i ni weld a deall yr effaith y mae pob diet yn ei gael ar ansawdd y porc.

 

Pa wybodaeth fydd yn cael ei gofnodi:

  • Cynnydd pwysau byw dyddiol
  • Y defnydd sych (DM) a fwyteir/pori’r fesul mochyn.
  • Grym pur Warner Bratzler 
  • Asesiad NIRS ar gyfer lleithder, cynnwys mwynol, alcohol a echdynnir o’r braster, hydrocsiprolin a cholagen
  • Asesiad NIRS ar gyfer Proffil Asidau Brasterog
  • Colledion trwy ddiferu
  • Sgôr lliw

Pwy fydd yn cofnodi a thros ba gyfnod o amser?

Bydd yr holl ddata ar y fferm yn cael ei gasglu gan y ffermwr a Dafydd Owen. Bydd yr holl ddata arall yn cael ei gasglu gan y Ganolfan Technoleg Bwyd a Caroline Mitchell o FQM Global.

 

Sut fydd y data'n cael ei ddadansoddi?

Bydd y data ar y fferm yn cael ei gofnodi, ei ddadansoddi a'i drefnu ar daenlenni. 

Bydd y data o'r profion labordy yn cael eu dadansoddi a'u cynnwys mewn adroddiad gan y Ganolfan Technoleg Bwyd a Caroline Mitchell o FQM Global.