Cyflwyniad Prosiect Glanmynys

Safle: Glanmynys, Llanymddyfri, Sir Gâr, SA20 0ET

Swyddog Technegol: Llifon Davies

Teitl y prosiect: Iechyd defaid, perfformiad a rheoli’r borfa. 

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae strwythur y ddiadell ar fferm Glanmynys yn newid ar hyn o bryd er mwyn adlewyrchu’r angen ar gyfer systemau symlach sy’n canolbwyntio mwy ar y farchnad. Y strategaeth hirdymor yw cynnal diadell o 1,500 o famogiaid EasyCare croes a 350 o anifeiliaid cyfnewid bob blwyddyn, a fydd yn ŵyna yn yr awyr agored yn ystod mis Ebrill. Mae safle arddangos Glanmynys yn anelu at ddefnyddio system gyda mewnbwn uchel o ran glaswellt a mewnbwn isel o ran llafur, gan ddefnyddio cyn lleied o ddwysfwyd â phosibl.

Felly, mae gwaith yn cael ei wneud ar y safle arddangos ar hyn o bryd i asesu dichonolrwydd cysyniadau mewnbwn isel gan gasglu data ar amrywiaeth o agweddau o berfformiad y ddiadell a chynhyrchiant glaswellt ar lefel y fferm er mwyn sicrhau system effeithlon ar gyfer cynhyrchu defaid 


Amcanion y prosiect:

  • Gwella effeithlonrwydd y ddiadell drwy gael mynediad at wybodaeth fodern ynglŷn â pherfformiad genetig a chofnodion rheolaeth.
  • Monitro perfformiad y ddiadell - gan gynnwys perfformiad ŵyn.
  • Monitro iechyd y ddiadell a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau a allai godi.
  • Mesur ansawdd y borfa a gwella’r defnydd ohoni i gynyddu cynhyrchiant oddi ar y borfa. 

Prif Ddangosyddion Perfformiad a osodwyd:

  • Lleihau costau amrywiol (c/kg) o £47 y famog i £42 y famog
  • Cynyddu allbynnau (kg/ha) 
  • Gwella cynnydd pwysau byw dyddiol ŵyn o 270g i 300g
  • Lleihau nifer cyfartalog y dyddiau hyd lladd o 164 diwrnod i 150 diwrnod