Cyflwyniad Prosiect Graig Olway: Ystyriaethau technegol wrth wella isadeiledd

Safle Arddangos: Graig Olway, Brynbuga 

Swyddog Technegol: Gwenan Evans 

Teitl y Prosiect: Ystyriaethau technegol wrth wella isadeiledd 

 

Cyflwyniad:

Mae nifer o ffactorau i’w hystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau busnes megis ehangu neu arallgyfeirio i fenter arall. Bydd cynllun busnes wedi ei ddiweddaru yn cynorthwyo i adnabod rhwystrau, a hefyd egluro beth all gael ei wneud er mwyn eu goresgyn. Mae’r uned laeth yn cynnwys 160 o fuchod godro gyda thri robot, a 70 o fuchod magu ar giwbyclau gyda thywod â’r stoc ifanc yn cael eu cadw ar wellt dwfn. Nod Russell Morgan yw cynyddu’r fuches i tua 250 o bennau a gosod robot arall. Un o’r prif rwystrau a nodwyd oedd cyfaint y lagŵn slyri na fydd yn ddigon i ddal y slyri dros ben, felly, mae hynny’n atal cynllun Russell i gynyddu ei fuches odro. 

Bydd cael storfa slyri ddigonol ac wedi ei chynnal yn dda ar y fferm gyda’r lle i ddal gwerth chwe mis o slyri yn galluogi ffermwyr i dargedu chwalu tail naturiol i gyfateb â gofynion y cnydau o ran maetholion, yn hytrach na phan fydd y storfeydd yn llawn. Trwy ganolbwyntio ar chwalu yn ôl gofynion y cnwd, gall y nitrogen a gymerir i mewn gael ei gynyddu a’r ddibyniaeth ar wrtaith artiffisial leihau. 

 

Nod:

Gyda llygredd amaethyddol yn ymddangos yn amlach yn y newyddion a rheoliadau newydd arfaethedig yn cael eu cyflwyno ar gyfer Cymru gyfan i warchod ansawdd dŵr rhag llygredd amaethyddol, mae’n amlwg bod yn rhaid cymryd camau i wella rheolaeth slyri ar-fferm. Amcan allweddol y prosiect hwn yw ymchwilio i’r dewisiadau a chamau i’w hystyried wrth gynyddu cyfaint storio slyri. Bydd ADAS yn rhoi argymhellion o ran gwaith gwella i’r isadeiledd presennol a fydd yn diogelu unrhyw gyrsiau dŵr gerllaw a chynnig rhaglen o ddatrysiadau economaidd ymarferol i’r sefyllfa bresennol. Bydd Eoin Murphy o ADAS yn ymweld â’r fferm i archwilio beth yw’r ffordd orau i wella’r cyfaint storio slyri, gan ganolbwyntio ar: 

  • Leihau faint o ddŵr glân sy’n rhedeg i’r storfa slyri 
  • Ystyriaethau wrth ddewis safle 
  • Bodloni rheoliadau cynllunio a gwarantu adeiladau 

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth o’r broses o gynyddu cyfaint storio slyri, o reoli dŵr i addasrwydd y safle. Yn ôl ffigyrau AHDB, mae’r glawiad blynyddol tua 1,059mm yn yr ardal, a byddai disgwyl i 524mm ddisgyn yn ystod y pum mis gwaethaf yn y gaeaf. Mae llawer iawn o ddŵr yn cyrraedd y lagŵn slyri presennol gan gynnwys dŵr o olchi’r parlwr a iardiau budr sydd yn cynyddu’r cyfaint o slyri yn ddiangen. Mae cael storfa slyri ddigonol ar y fferm, sy’n cael ei chynnal yn dda ac sy’n ddigon mawr i storio gwerth chwe mis o slyri, yn galluogi ffermwyr i dargedu’r defnydd o fathau naturiol o dail sy’n cyfateb ag anghenion maeth y cnwd, yn hytrach na phan fydd y storfa yn llawn.

 

Dangosydd Perfformiad Allweddol:

Cynyddu’r fuches odro o 50 buwch a stoc cyfnewid yn ychwanegol