Cyflwyniad Prosiect: Gwerthuso manteision technoleg synhwyro pan fo buwch yn gofyn tarw er mwyn sicrhau enillion o ran ffrwythlondeb y fuches laeth

Safle: Rhiwaedog, Rhos-y-Gwaliau, Bala, LL23 7EU

Swyddog Technegol: Gwawr Hughes

Teitl y prosiect: Gwerthuso manteision technoleg synhwyro pan fo buwch yn gofyn tarw er mwyn sicrhau enillion o ran ffrwythlondeb y fuches laeth

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Prif nod y prosiect yw gwella ffrwythlondeb a chyfraddau beichiogi o fewn y fuches sugno ar fferm Rhiwaedog. Ychydig flynyddoedd yn ôl, arweiniodd problemau gyda ffrwythlondeb y tarw at newidiadau yn y patrwm lloia ar fferm Rhiwaedog, gan arwain at lai o allbwn o’r fuches bîff. Mae’r prosiect hwn yn anelu at wella perfformiad gwartheg sugno gan ganolbwyntio ar ffrwythlondeb. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at dynhau’r patrwm lloia yn ogystal â chynyddu cyfraddau beichiogi, gan arwain at fuches fwy cynhyrchiol ac effeithlon. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gyfuno technoleg synhwyro pan fo buwch yn gofyn tarw, a hwsmonaeth a rheolaeth dda. Mae’r prosiect yn anelu at ganfod y gwartheg nad ydynt yn perfformio i’w llawn botensial yn ogystal â monitro iechyd a ffrwythlondeb cyffredinol y fuches i leihau’r risg o wartheg gwag.

 

Amcanion y prosiect:

  • Lleihau’r bwlch lloia.
  • Tynhau’r patrwm lloia.
  • Cynyddu cyfraddau beichiogi.
  • Asesu effeithiolrwydd technolegau newydd i ganfod pan fo buwch yn gofyn tarw er mwyn gwella perfformiad y fuches.

Prif Ddangosyddion Perfformiad a osodwyd:

  • Tynhau’r cyfnod lloia er mwyn sicrhau cyfradd lloia o 90% o fewn cyfnod o 6 wythnos ar gyfer y gwartheg yn y ddau floc lloi.
  • Lleihau’r bwlch lloia i gydfynd â chyfartaledd y DU o ‘un llo byw’ fesul 365-375 diwrnod.
  • Cynyddu cyfraddau beichiogi i >95% o’r fuches yn gyflo ar y diagnosis beichiogrwydd cyntaf.