Cyflwyniad Prosiect Maestanyglwyden

Safle: Maestanyglwyden, Penybont, Croesoswallt, SY10 9JG

Swyddog Technegol: Lisa Roberts

Teitl y prosiect: Mynd i'r afael â mastitis mewn mamogiaid

 

Cyflwyniad i'r prosiect: 

Mae mastitis yn broblem ar ffermydd defaid, yn bennaf ar frig y cyfnod llaetha neu wrth ddiddyfnu. Mae mastitis yn effeithio ar wahanol ffermydd i wahanol raddau. Mae rhai ffermydd yn profi colledion uchel (10-20%) oherwydd mastitis, wrth i famogiaid farw o fastitis gwenwynig a/neu wrth ddifa mamogiaid ifanc sydd wedi’u heffeithio. Mae hyn, ynghyd â chyfraddau twf arafach o ganlyniad i lai o laeth a mwy o gostau ar gyfer triniaeth, yn ei wneud yn broblem gostus ac yn fater lles anifeiliaid.

Nod y prosiect yw deall yr hyn sy’n achosi mastitis o fewn diadell Maestanyglwyden, gan hefyd ddefnyddio arferion hylendid da yn ystod y cyfnod ŵyna ac edrych i ddefnyddio brechlyn newydd i leihau faint o wrthfiotigau a ddefnyddir ar y fferm. 

Mae Maestanyglwyden wedi bod yn dilyn polisi difa llym dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â monitro sgôr cyflwr corff (BCS) mamogiaid yn fanwl i sicrhau digon o golostrwm ar gyfer ŵyna. Maent yn gweithio'n agos gyda'u milfeddyg i fynd i'r afael ag achosion o glefydau ac i sicrhau bod y ddiadell yn iach.

 

Nodau ac amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect yw canfod beth yw’r ffactorau sy’n gyfrifol am yr achosion mastitis ar fferm Maestanyglwyden; gan edrych yn benodol sut mae BCS a’r tywydd (tymheredd yr aer a glawiad) yn effeithio ar nifer yr achosion mastitis. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio arferion hylendid da yn y sied ŵyna, sicrhau maeth digonol a gwella imiwnedd mamogiaid drwy frechu gyda brechlyn mastitis (Vimco), gyda’r nod o leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm. 

 

Dangosyddion perfformiad allweddol a osodwyd:

  • Sicrhau lleihad o 15% yn nifer yr achosion o fastitis.
  • Sicrhau lleihad o 30% yn nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir.
  • Sicrhau bod mamogiaid yn cynnal sgôr cyflwr corff (BCS) o 2.5-3.