Cyflwyniad Prosiect Pantyderi - Meincnodi Maetholion Grawn YEN

Safle: Pantyderi

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Meincnodi Maetholion Grawn YEN

 

Cyflwyniad i’r prosiect:

Mae’r Rhwydwaith Gwella Cynnyrch (YEN) yn cysylltu sefydliadau amaethyddol a ffermwyr sy’n ymdrechu i wella cynnyrch cnydau gyda’r nod o gau’r bwlch rhwng y cynnyrch presennol a’r potensial o ran cynnyrch.

Mae’r angen am ddadansoddi grawn fel rhan o’r patrwm arferol wedi dod yn gynyddol amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Datgelodd profi grawn o dros 900 sampl o ffermwyr sy’n rhan o YEN dros y pedair blynedd ddiwethaf bod 74% o gnydau grawn yn ddiffygiol o ran o leiaf un maetholyn. Mae hyn yn dynodi, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o dyfwyr, bod maetholion yn cyfyngu ar botensial llawn eu cnydau.

Er y gall dadansoddi pridd ddynodi i ba raddau y mae P, K ac Mg ar gael, ac y gall dadansoddi dail ddatgelu prinder maetholion yn y fan a’r lle, mae dadansoddi grawn yn rhoi gwybodaeth a yw cnwd wedi cael digon o faetholion hanfodol ar hyd ei oes gyfan.

Dyna’r rheswm pam y bydd Canllaw Rheoli Maetholion AHDB (RB209) yn awr yn argymell dadansoddi arferol ar rawn a deunyddiau eraill sy’n cael eu cynaeafu ochr yn ochr â dadansoddi arferol ar faetholion yn y pridd. Bydd hyn yn golygu mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad gyntaf i sylweddoli bod dadansoddi grawn yn rhoi amcangyfrif cywir o’r maetholion a dynnwyd i mewn, ond ei fod hefyd yn rhoi post mortem llawn a therfynol o lefelau’r cnwd o’r 12 maetholyn hanfodol i gyd.

Gyda gwell dealltwriaeth o allu eu cnwd i gymryd maeth i mewn, cred arbenigwyr y gall ffermwyr ac agronomegwyr chwalu maetholion (P a K yn arbennig) yn fwy cywir yn fuan, a bydd y canlyniadau gwell i chwalu maetholion yn lleihau costau ac effeithiau amgylcheddol.

 

Amcanion y prosiect

Nod y prosiect fydd meincnodi maetholion mewn samplau o rawn wrth gynaeafu cnydau barlys y gaeaf, gwenith gaeaf a barlys gwanwyn ym Mhantyderi, gyda’r amcan o gywiro’r maeth o ran unrhyw faetholion sy’n ddiffygiol i wella cynnyrch ac ansawdd y cnwd yn y dyfodol.

Mae Meincnodi Maetholion Grawn YEN yn eich galluogi i:

1. Amcangyfrif P a K yn gywir gan arbed ~£50 i bob cae ar gyfartaledd
2. Gwirio mewn cymhariaeth â chanlyniadau unrhyw ddadansoddiad pridd a dail
3. Gwirio a oedd y gwreiddio ac ati yn ddigonol
4. Gwirio a oedd y chwistrellu maetholion wedi gweithio
5. Gweld achosion tebygol cynnyrch isel o ran cnydau
6. Cadarnhau’r prif broblemau maeth at y dyfodol.

Amcangyfrifir y byddai cnwd YEN ar gyfartaledd wedi cael mantais o £500 o leiaf ym mhob cae petai wedi derbyn y maethiad gorau.

 

Beth fydd yn cael ei wneud:

Bydd samplau o rawn yn cael eu cyflwyno i’r labordy wrth gynaeafu o chwe chae ym Mhantyderi. Er mwyn cynyddu cyfanswm y data a hwyluso meincnodi mewn cymhariaeth â chnydau a dyfir ar yr un pryd yn yr ardal, bydd chwe chae grawn hefyd yn cael eu samplo o bum fferm arall yng ngogledd Sir Benfro.

Bydd y grawn yn cael ei ddadansoddi i roi lefelau’r 12 maetholyn hanfodol i gyd: nitrogen (N), potasiwm (K), ffosfforws (P), sylffwr (S), calsiwm (Ca), magnesiwm (Mg), manganîs (Mn), sinc (Zn), copr (Cu), haearn (Fe), boron (B) a molybdenwm (Mo).

Bydd y canlyniadau yn cael eu meincnodi trwy’r offeryn Maeth Grawn YEN, ar gyfer y chwe fferm sy’n cymryd rhan i gychwyn, ac yna mewn cymhariaeth â samplau o rawn sydd wedi eu cynaeafu ar sail genedlaethol. Rhoddir adborth i’r chwe fferm am statws maetholion eu cnydau ynghyd ag argymhellion ar gyfer cywiro unrhyw ddiffygion ar gyfer tyfu cnydau grawn yn y dyfodol.

 

Llinell amser:

2020

Gorffennaf - Medi - Casglu samplau grawn wrth gynaeafu a’u cyflwyno i’r labordy

Hydref - Adborth am ganlyniadau’r grŵp wedi eu meincnodi

Rhagfyr - Adborth am ganlyniadau’r grŵp wedi eu meincnodi mewn cymhariaeth â chanlyniadau cenedlaethol