Cyflwyniad Prosiect Pantyderi: Tyfu cnwd protein 

Safle: Pantyderi

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Tyfu cnwd protein 

 

Cyflwyniad i’r prosiect

Mae’r cnydau sy’n cael eu tyfu ar fferm Pantyderi yn cynhyrchu digon o egni starts i dyfu a phesgi’r 350 o wartheg bîff ar y safle bob blwyddyn, ond mae cymysgedd dwysfwyd protein 36% yn cael ei brynu i wneud iawn am y diffyg protein yn y ddogn. Canolbwyntiodd gwaith y prosiect yn ystod y flwyddyn gyntaf ar wneud y mwyaf o’r protein yn y silwair drwy dorri’r silwair yn gynharach o wyndonnydd wedi’u hailhau a chynnwys meillion yn y cymysgedd glaswellt. Mae barlys hefyd yn cael ei grychu wrth gael ei gynaeafu a’i drin â Home n’ Dry sy’n cynnwys wrea a soia i gynhyrchu Alkagrain yr honnir ei fod yn cynyddu cynnwys protein y barlys hyd at 4%.

Fodd bynnag, roedd y dognau a gyfrifwyd ar gyfer y gwartheg dros y gaeaf 2020-21 yn dal i ddangos bod angen cynnwys rhwng 1.0 a 1.5kg/y pen/y dydd o ddwysfwyd protein er mwyn codi lefel protein y ddogn gyffredinol i’r 15-16% a oedd yn ofynnol i gynnal targedau twf o 1.3kg/y pen/y dydd ac uwch. Roedd y cymysgedd a gafodd ei brynu i mewn yn seiliedig ar flawd hadau rêp a grawn india-corn distyllwyr. 

Gan fod Pantyderi yn tyfu 60 hectar (ha) o rawnfwyd yn flynyddol, byddai cyflwyno cnydau codlysiau seibiannol fel ffa’r gerddi (Vicia faba) yn addas iawn i’r system gylchdro, gan eu bod yn godlysiau sy’n cloi nitrogen yn y tir gan fod o fudd i’r cnwd grawnfwyd nesaf. Does dim angen gwrtaith nitrogen ar gyfer tyfu’r cnwd, a gan fod prif wreiddyn y ffa yn datblygu mewn ffordd wahanol mae’n bosibl bydd hyn o fudd i strwythur y pridd.

O ran maeth, mae ffa yn cystadlu’n ffafriol iawn ag unrhyw ffynonellau protein a fewnforir; mae eu nodweddion protein ac egni (29% protein ac 13.3MJ/kg ME) yn debyg i flawd india-corn distyllwyr ac, ar bris gwahaniaethol priodol, gallant gystadlu’n ffafriol â soia. Gellir rhoi ffa i anifeiliaid cnoi cil, moch a dofednod hefyd.

Yn hanesyddol, mae’r amrywiad canfyddiedig o ran cynhyrchiant, datblygiad amrywiaethol cyfyngedig a gwybodaeth agronomeg benodol gyfyngedig (gan gynnwys rheoli afiechydion) wedi codi nifer o faterion roedd angen rhoi sylw iddynt, ynghyd â ffiniau elw gros llai o’u cymharu â chnydau âr eraill. Fodd bynnag, mae’r cyfle i ddisodli soia a blawd india-corn distyllwyr wedi’u mewnforio mewn porthiant da byw yn golygu bod ffa sydd wedi cael eu tyfu ar gaeau’r fferm yn ddewis cynaliadwy iawn, y gellir ei olrhain yn llwyr, a all wella gwytnwch cynhyrchu cig eidion a lleihau ei ôl-troed carbon. 

 

Nod y prosiect
 
Nod y prosiect yw archwilio’r posibilrwydd o dyfu ffa fel ffynhonnell protein crynodedig a fydd yn addas ar gyfer system gynhyrchu a chyfleusterau presennol Pantyderi. 

Gall cynaeafu cnwd ffa sych fod yn anodd mewn tywydd garw, felly er mwyn hwyluso cynhaeaf cynharach, bydd y ffa yn cael eu cynaeafu ar lefel lleithder uwch (25-45%), eu pasio drwy beiriant crychu grawn a’u trin â chadwolyn. Mae hyn yn golygu y gellir eu storio mewn clamp â llen drosto, ac yn yr awyr agored os oes angen, gyda’r barlys ar gyfer bwydo’r gwartheg bîff eisoes wedi’i gynaeafu a’i storio fel hyn. Un o fanteision eraill y system hon yw bod y cynnyrch yn barod i gael ei ddefnyddio heb fod angen unrhyw brosesu pellach ar adeg bwydo’r anifeiliaid. Trwy gynaeafu’r cnwd 3-6 wythnos yn gynharach mae cyfle hefyd i drin y tir yn yr hydref yn barod am gnwd grawn yn y gaeaf.

Fodd bynnag, un broblem sy’n gysylltiedig â ffa wedi’u crychu yw y gall fod yn anodd cau allan yr aer a chreu’r amodau anaerobig yn y clamp oherwydd bod y gronynnau ffa yn eithaf mawr. Mae’r PGRO (Processors and Growers Organisation) yn awgrymu mai un ffordd o ddatrys y broblem hon yw tyfu ffa a phys gyda’i gilydd. Mae pys hefyd yn rhoi gorchudd daear cynharach na’r ffa, sy’n helpu i atal chwyn. Mae eu harferion tyfu hefyd yn golygu eu bod yn addas i’w tyfu gyda’i gilydd gan fod y ffa yn cynnig sgaffald cryf sy’n helpu i gynnal y pys yn hwyrach yn y tymor; maent hefyd yn elwa ar yr un dull agronomeg. Mae tyfu dau gnwd hefyd yn tueddu i gysoni unrhyw wahaniaethau yn yr amrywogaethau o ran yr amser maent yn eu gymryd i aeddfedu.

Mae treialon hefyd wedi dangos bod cnydau cymysg yn rheolaidd yn cynhyrchu mwy o gnydau na chnydau sy’n cael eu tyfu ar eu pen eu hunain, o tua 3.5-3.7 tunnell/ha ar gyfer y cnydau unigol i tua 5 t/ha pan fyddant yn cael eu tyfu gyda’i gilydd.

Mae’r PGRO yn cynnal treialon blynyddol ar draws y Deyrnas Unedig ac yn llunio Rhestr Ddisgrifiadol o amrywogaethau a chanllaw agronomeg:

https://www.pgro.org/choice-of-varieties-and-pgro-recommended1/

https://www.pgro.org/pulse-agronomy-guide/

Mae cae 8ha sy’n draenio’n dda wedi cael ei adnabod ar gyfer hau cymysgedd o ffa a phys y gwanwyn pan fydd yr amodau daear yn caniatáu o ddiwedd mis Chwefror ymlaen. Gan ddefnyddio’r rhestr ddisgrifiadol a’r amrywogaethau hadau fydd ar werth, byddwn yn dewis y pys â’r lefel cynhyrchiant uchaf a’r ffa â’r cynnwys protein uchaf.

Bydd yr holl gostau tyfu a phrosesu yn cael eu cofnodi a’u costio o’r had i’r porthiant fesul tunnell. Bydd y cnwd yn cael ei gynnwys yn nogn y gwartheg bîff ar gyfer y gaeaf 2021-22, i greu dognau sy’n cynnwys yr un faint o startsh a phrotein â’r ddau aeaf blaenorol, a bydd y cynnydd mewn pwysau byw dyddiol yn cael ei fonitro.