Cyflwyniad Prosiect Plas yn Iâl

Safle: Plas yn Iâl, Llandegla, Wrecsam, Sir Ddinbych

Swyddog Technegol: Dafydd Owen

Teitl y prosiect: Coedwigaeth Gorchudd Parhaus mewn Coetiroedd Fferm

 

Cyflwyniad i'r prosiect: 

Cefndir Plas yn Iâl

Fferm ddefaid 75 hectar (ha) yw Plas yn Iâl sy’n cynnwys 12.5ha o goed llydanddail cymysg yn bennaf (>90%) ac ychydig o larwydd a ffynidwydd. Mae’r coetir ym Mhlas yn Iâl yn rhan o Goetir a Pharcdir Hanesyddol Cofrestredig gan CADW sydd newydd ei ddynodi (2015) ac mae wedi ei adael heb ei reoli am 65 mlynedd. Plannwyd mwyafrif y coed yn fferm Plas yn Iâl yn ystod yr 1800au a’r 1900au, yn rhan o gynllun tirlunio mae’n debyg. Mae felly yn gyfuniad o goetir naturiol a choed wedi eu plannu gyda ffawydd, masarn ac ynn yn rhywogaethau amlycaf.

Mae’r holl goed a dynnir o’r coetir yn cael eu troi yn sglodion (contractwr allanol) a’u defnyddio ar gyfer y bwyler biomas 70kw sy’n cynhesu cartref y teulu a’r uned hunanarlwyo sydd yno.

Rhesymeg ar gyfer y prosiect

Mae’r dirwedd ddiwylliannol a chadwraeth yn bwysig iawn i Huw Beech sy’n ffermio Plas yn Iâl ac felly nid enillion ariannol yw prif nod rheoli coetir ym Mhlas yn Iâl.

Bwriad Huw yw cyfuno creu incwm a gwella ac ychwanegu at y buddion amgylcheddol ac o ran bioamrywiaeth trwy gynyddu gwerth cyfalaf y coetir ar y fferm a darparu nifer o fanteision mewn modd cost effeithiol. Mae coedwigaeth gorchudd parhaus felly yn ddull rheoli addas iawn.

Pam mai Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (CCF) yw’r dull coedwriaeth gorau ar gyfer y prosiect?

Coedwigaeth gorchudd parhaol yw pan fydd coed unigol yn cael eu torri i gynnal gorchudd coetir parhaol gan alluogi cynhyrchu coed masnachol, law yn llaw â bioamrywiaeth fel cynnyrch. Mae’n ddull rheoli effeithlon i gynnig manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae coedwigaeth gorchudd parhaol hefyd yn system rheoli coetir mwy effeithlon o ran carbon, yn arbennig pan fydd cael coed newydd trwy ail-dyfiant yn brif ddull o gael coed.

Mae coedwigaeth gorchudd parhaus yn cyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mae dewis un goeden neu grŵp bychan yn agor y canopi ac yna gellir plannu coed i gyfoethogi a chyflwyno mwy o amrywiaeth ac ystod o rywogaethau all wrthsefyll newid hinsawdd yn well.

Cynnwys y prosiect

Bydd y prosiect yn edrych ar asesu hanes a chyflwr y coetir, cynllunio’r trosglwyddo i goedwigaeth gorchudd parhaus a monitro cynnydd y trawsnewidiad.

Fe wneir hyn trwy;

  • Gynnal arolygon ar y tir a gyda drôn.
  • Bydd data o’r arolwg drôn yn cael ei roi mewn model prosesu data.
  • Bydd y canlyniadau o’r arolygon tir a drôn yn cael eu cyfuno i greu un cynllun rheoli coedwigaeth gorchudd parhaus.
  • Bydd cwmpas gwallau yn cael ei ddadansoddi i weld a yw’r model drôn a phrosesu data yn addas i’w hehangu ar gyfer ardaloedd mwy i leihau’r angen am arolygon ar y tir gyda’r amcan o leihau costau.

Bydd y cynllun rheoli yn gweithredu fel adnodd rheoli i arwain perchennog y coetir o ran dulliau i weithredu presgripsiynau i drawsnewid y coetir i goedwigaeth gorchudd parhaus.

Bydd y modelu a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol a ymgorfforir yn y cynllun yn rhoi eglurder a chymhelliant i ffermwyr eraill wella eu rheolaeth ar goetir i gael gwerthoedd economaidd ac amgylcheddol posibl o’u ‘hasedau anghofiedig’.

Bydd adroddiadau ac erthyglau yn gysylltiedig â’r prosiect yn rhan o’r broses drosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyfarwyddyd i ffermwyr ei ddilyn.

Bydd yr holl bren a dynnir o’r coetir yn ystod y prosiect yn cael ei brisio yn unol â gwerth y farchnad ar y diwrnod ar gyfer yr ansawdd a’r categori graddio. Yn yr un modd bydd costau torri a thynnu’r coed o’r coetir yn cael eu cyfrifo i bennu costau’r prosiect wrth weithredu trefn gynaeafu ar raddfa fach. Bydd yr holl gyfrifiadau a gysylltir ag elfennau ariannol y prosiect yn cael eu gosod mewn tablau a’u cyflwyno yn yr adroddiadau cysylltiedig.

Bydd Phil Morgan, cyfarwyddwr Sustainable Forest Management a SelectFor yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i baratoi’r plotiau treialu coedwigaeth gorchudd parhaus a chynllun rheoli cynaliadwy fel arweiniad i reoli yn y dyfodol.

 

Nod y prosiect:

  • Gwella’r rheolaeth coetir yn gyffredinol yn fferm Plas yn Iâl a fydd yn cyfrannu at gyflenwad coed cynaliadwy tuag at anghenion ynni’r fferm. Fe wneir hyn trwy baratoi a gweithredu cynllun rheolaeth coetir Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (CCF), gan gyfuno canlyniadau arolygon ar y tir a drôn.
  • Wrth roi’r dosbarth cynnyrch a’r cynnydd blynyddol posibl yng nghyfanswm y coed ar gyfer torri wedi ei dargedu yn y blynyddoedd i ddod, bydd gwerth posibl yn cael ei gyfrifo a bydd ffigwr ar gyfer refeniw yn cael ei bennu.
  • Bydd y dull samplo/arolwg ar y tir yn casglu data masnachol ac am y coed o’r coetir gan roi cofnodion o newidiadau yn nodweddion y coetir a’i strwythur dros amser i fonitro cynnydd y trawsnewidiad. Gall effeithiau rheoli gorchudd parhaus wrth wella deilliannau buddiol fel cadwraeth, bioamrywiaeth, storio carbon a ffactorau eraill gael eu cynnwys yn y dull samplo yn rhwydd.
  • Bydd y weledigaeth ar gyfer y coetir yn ganolog i’r cynllun rheoli. Bydd y weledigaeth yn arwain yr holl weithrediadau gofynnol i gael y deilliannau a ddymunir gan wynebu cyfyngiadau’r safle ac unrhyw ddynodiadau sy’n gysylltiedig â’r safle. Defnyddir coedwigaeth gorchudd parhaus fel y dull rheoli i gyflawni buddion niferus ac integredig y trawsnewidiad.
  • Bydd cynnig enghraifft o gynnwys coetir fferm ym musnes y fferm, trwy hyrwyddo’r enillion economaidd posibl sydd i ‘asedau anghofiedig’ yn gymhelliant da i ffermwyr ddilyn llwybr tebyg. 
  • Mae defnyddio drôn a’r model prosesu data yn ffordd newydd flaengar o gynllunio i reoli coetir. Gall hyn gynnig manteision i ffermwyr a choedwigwyr petai’r drôn a’r meddalwedd yn cael eu hehangu ymhellach dros goetiroedd mwy.

Beth fydd yn cael ei wneud:

Cynhelir arolwg ffisegol o’r coetir yn gyntaf yn fferm Plas yn Iâl, ac yna arolwg drôn. 

  • Bydd y ddau arolwg yn cael eu cynnal yn agos at yr un amser fel bod y gymhariaeth yn agos yn ystod y tymor tyfu.
  • Bydd y gweithredwr drôn wedi ei gymeradwyo gan CAA a bydd yn gallu ei ddefnyddio ar gyfer yr enghraifft.
  • Bydd y data a gesglir gan y drôn yn cael ei gofnodi mewn model prosesu data a bydd y canlyniadau yn cael eu cyfuno gyda’r arolwg ffisegol i greu un cynllun rheoli coetir coedwigaeth gorchudd parhaus.
  • Bydd cwmpas y gwallau rhwng y drôn a’r arolwg ffisegol hefyd yn cael ei ddadansoddi.
  • Bydd y torri coed/ail stocio yn unol â’r cynllun rheoli coedwigaeth gorchudd parhaus.
  • Bydd yr holl weithrediadau cynaeafu yn cael eu monitro.
  • Bydd yr holl goed fydd yn cael eu hasesu ar gyfer eu torri yn cael eu prisio a bydd y costau yn gysylltiedig â thorri a thynnu’r coed o’r coetir yn cael eu cyfrifo i bennu gwerth yr adnodd i fusnes y fferm y gellir ei fodelu am gyfnod o flynyddoedd i ddod.
  • Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnig eglurder o ran yr hyn y gellir ei gyflawni ar yr amod bod y dewisiadau cywir yn cael eu dilyn o ran unrhyw ymyrraeth.

Pa wybodaeth fydd yn cael ei chofnodi:

Bydd yr arolwg ffisegol yn fwy manwl na’r ffotogrametreg drôn; bydd yn cofnodi maint y coed, y cyfansoddiad o ran rhywogaethau, adfywio, haenau cae a choed yr un faint â pholion na fydd y drôn yn gallu eu canfod.

Bydd yr arolwg drôn yn rhoi llai o fanylion ond bydd yn fanwl gywir o ran amcangyfrif cyfanswm y coed a’r camau wrth drosglwyddo i goedwigaeth gorchudd parhaus.

Y fantais i’r prosiect yw y gellir ehangu’r data dros ardaloedd mwy h.y. trwy fodelu canlyniadau’r arolwg ar y tir, gall data’r drôn gael ei gymhwyso i ardaloedd eang gan leihau faint o arolygon ar y tir sydd ei angen, gan leihau’r costau.

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi hedfan dros Gymru gyfan gyda LiDAR (Canfod a Mesur Golau). Y bwriad yw y bydd y wybodaeth yma ar gael heb unrhyw gost, ond, efallai na fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth yn cyd-fynd â’r prosiect Cyswllt Ffermio.

Y rheswm dros gael arolwg ar y tir ac arolwg drôn yw oherwydd bod angen y ddau i sefydlu manylion ar raddfa fwy. Mae’r arolwg drôn angen ei chalibradu trwy ddefnyddio technegau llunio rhestrau ar y ddaear ond mae’n lleihau’r cyfanswm o waith ar y ddaear pan fydd y data o’r drôn yn cael ei roi mewn haenau. Yn achos y prosiect hwn, rydym yn cynnal arolwg manwl o goetir fferm eithaf amrywiol sy’n cynnwys gwahanol fathau o goetir a gwahanol fathau o glystyrau o goed. Bydd yr arolwg ar y tir yn cyfrif am yr amrywiaeth yn y coetir ac mae’n ‘glwstwr ymchwil’ yn hytrach na rhestr fwy eang lle mae’r dwyster samplo yn is. Byddwn yn defnyddio’r drôn i brofi ei ddefnydd mewn coetir fferm ac fel dull o arddangos technegau arolygu coetir yn ystod elfen hyfforddiant y prosiect.

Pa wybodaeth/data fydd yn cael eu cofnodi:

  • Y cynnydd blynyddol posibl mewn pren
  • Gwerth ariannol posibl ar gyfer y pren a gynaeafir yn flynyddol
  • Costau torri/tynnu’r coed
  • Ardal y coetir fferm sy’n cael eu rheoli yng Nghymru
  • Ardal o goetir a reolir dan egwyddorion Coedwigaeth Gorchudd Parhaus yng Nghymru
  • Ardal o goetir yng Nghymru yn y rhestr Rhwydwaith Coedwriaeth Anghyson (ISN)
  • Cyfanswm/tunelli o bren a gynhyrchir mewn coetiroedd fferm
  • Cyfanswm/tunelli o bren a gynhyrchir at ddiben y ffermwr ei hun mewn coetir fferm
  • Nifer o gynhyrchion coetir fferm at ddefnydd y ffermwr ei hun a ddynodwyd (tanwydd, polion ffensio, pren wedi ei lifio ac ati).