Elin Haf Williams
DE SIR DREFALDWYN
Elin Haf Williams yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer De Sir Drefaldwyn.
Mae Elin yn treulio llawer o’i hamser hamdden yn cynnig help llaw ar y fferm bîff a defaid deuluol yn Llanwrin, ger Machynlleth, lle mae’n mwynhau ymwneud â phob agwedd o’r busnes, sy’n cadw diadell o famogiaid mynydd Cymreig yn bennaf, ynghyd â buches sugno.
Ar ôl mynychu Ysgol Bro Ddyfi, aeth Elin ymlaen i astudio daearyddiaeth gydag elfennau o amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn fuan wedi iddi raddio, cafodd ei phenodi i swydd gyda CFfI Cymru yn eu prif swyddfa yn Llanelwedd, lle bu’n gweithio fel swyddog gweithrediadau ar gyfer materion gwledig a gwaith ieuenctid. Wedi cyfnod o 14 mis, ymunodd â Chyfoeth Naturiol Cymru i weithio ar brosiect byr yn hyrwyddo arfer dda wrth leihau llygredd amaethyddol ar ffermydd llaeth.
Mae gan Elin gylch eang o gysylltiadau yn Llanwrin a’r ardal gyfagos, ac mae’n aelod brwd o CFfI Bro Ddyfi.
Mae’n ffyddiog y bydd ei chefndir amaethyddol o fudd wrth iddi gynorthwyo busnesau fferm a choedwigaeth yn ei hardal i fanteisio ar bopeth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio.
“Fy rôl yw cyfeirio ffermwyr a choedwigwyr yn fy ardal at becyn o wasanaethau sy’n bodloni eu gofynion penodol ar gyfer sgiliau busnes a phersonol, gan eu galluogi i berfformio hyd eithaf eu gallu ym mhob maes.
“Mae cymaint o gefnogaeth, cyngor a hyfforddiant ar gael yn ymwneud ag ystod eang o bynciau, yn amrywio o wella ansawdd pridd a rheoli’r borfa i faterion iechyd anifeiliaid, ac o gynllunio busnes ac ariannol i brosiectau meincnodi.”
Mae Elin yn mynychu marchnad Y Trallwng yn rheolaidd ac yn rheoli nifer o grwpiau trafod ar bynciau penodol yn ymwneud â bîff, defaid a llaeth, sy’n annog aelodau i edrych ar syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill.