Mali Dafydd

LLŶN AC ERYRI


Mali Dafydd yw Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer ardaloedd Llŷn ac Eryri. Magwyd Mali ar fferm laeth y teulu ger Pwllheli. Mae'n byw yn y Bala ac wrth ei bodd yn helpu ei rhieni a’i brawd sy’n arbenigo mewn bridiau croes sy’n lloia yn y gwanwyn.

Ar ôl graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, dychwelodd adref i weithio ar y fferm a chyfuno hynny â gwaith ymchwil i gynhyrchwyr rhaglen Fferm Ffactor ar S4C. Erbyn heddiw, mae wedi cefnu ar y byd teledu i ganolbwyntio ar ei gwaith fel swyddog datblygu, gan gyfeirio busnesau yn ei hardal i nifer o ddigwyddiadau, hyfforddiant, cymorth busnes a thechnegol sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio.

“Fy nod yw annog ffermwyr a choedwigwyr yn fy rhanbarth i fanteisio’n llawn ar bopeth sydd ar gael iddyn nhw drwy Cyswllt Ffermio, felly fe fydda i’n mynd o gwmpas digwyddiadau a marchnadoedd lleol i hyrwyddo digwyddiadau’n amrywio o’n rhaglen feincnodi ‘FarmData+’ i ddigwyddiadau a phrosiectau ar gyfer sectorau penodol.

“Mae cymaint o ffyrdd y gall busnesau ddatblygu a thyfu drwy Cyswllt Ffermio oherwydd bod popeth y mae’r rhaglen yn ei gyflawni’n canolbwyntio ar wella perfformiad busnes a thechnegol,” meddai Mali.

Mae Mali hefyd yn cynnal grwpiau trafod ar gyfer ffermwyr llaeth a chig coch yng Ngogledd Cymru.

Mae Mali’n ymweld â marchnad dda byw Bryncir yn rheolaidd, beth am i chi gael sgwrs gyda hi neu ei ffonio i drafod gwasanaethau Cyswllt Ffermio.