Dafydd Owen
Dolwen, Conwy
Dechreuodd diddordeb Dafydd Owen mewn ffermio pan oedd yn ifanc, gan helpu ar bob cyfle posibl ar fferm y teulu yn Llanddoged.
Bellach, yn 33 oed mae’n ffermio yn ei rinwedd ei hun, gan reoli diadell o 2,000 o famogiaid mewn cytundeb ffermio cyfran gyda dau bartner ar 300 hectar ar Ystâd Coed Coch, lle mae bellach yn byw gyda'i wraig, Sioned, a'u merch, Megan.
Mae Dafydd, sy’n gyfrifol am reoli’r fferm a’r ddiadell o ddydd i ddydd, yn anelu at wella perfformiad y mamogiaid, drwy fonitro cyflwr mamogiaid yn rheolaidd a chadw diadell iau, er mwyn cynyddu proffidioldeb.
Pan nad yw’n ffermio, mae’n mwynhau canu fel aelod o Gôr Hogie’r Berfeddwlad a chymryd rhan mewn chwaraeon gwledig gan gynnwys saethu clai ac adar hela.
Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn astudio cadw gwenyn ac mae ganddo ei gychod gwenyn ei hun erbyn hyn.
Mae Dafydd yn ceisio dysgu pethau newydd ac adeiladu ei sgiliau yn barhaus, gan gredu’n gryf yn y gwerth y mae’n ei roi iddo’n bersonol ac i’w fusnes.
Mae ennill lle ar Raglen Busnes ac Arloesedd Cyswllt Ffermio yn rhan o’r strategaeth honno.