Diweddariad ar brosiect yn Canolbwyntio ar y Traed ar fferm Graig Olway

Mae symudedd yn effeithio’n sylweddol ar les a chynhyrchiant buchod llaeth ac mae'n fater lles hanfodol a all arwain at gost ariannol o £180 ar gyfartaledd fesul achos. Gan ddibynnu ar y broblem a’i difrifoldeb, mae cloffni’n effeithio ar berfformiad y fuwch o ran lleihad mewn cynhyrchiant, ffrwythlondeb a hirhoedledd. Ym mis Ionawr 2020, eisteddodd y tîm sy’n gweithio ar fferm Graig Olway gyda milfeddyg y fferm, Sara Pedersen, i drafod yr hyn a oedd yn mynd yn dda a meysydd posibl ar gyfer gwella, a rhoddwyd cynllun gweithredu ar waith (Ffigwr 1). Pan sgoriwyd symudedd y fuches gyfan ym mis Ionawr, roedd lefelau cloffni ar 39%. 

Ffigwr 1. Cynllun Gweithredu a chynnydd ar fferm Graig Olway 29.01.2020.

 

Y prif gamau gweithredu a wnaed oedd cyflwyno mân newidiadau i arferion rheolaeth ar unwaith, megis sicrhau nad oedd cysur a glendid y gwartheg sych yn cael eu hanwybyddu. Erbyn hyn, mae traed gwartheg sych yn cael eu trochi deirgwaith yr wythnos mewn baddon traed fel mesur ataliol, ac mae’r siediau’n cael eu crafu’n ddyddiol er mwyn atal slyri rhag cronni ac atal lledaeniad heintiau. Hefyd, mae mwy o wellt yn cael ei roi ar waelod y ciwbiclau i wella cysur a glendid a fydd yn lleihau am faint mae’r fuwch yn sefyll, a’r pwysau ar ei thraed. Mae llawer o'r cynllun gweithredu wedi'i gwblhau gan gynnwys buddsoddiadau mawr fel ailosod y matresi yn y siediau buchod yn ddiweddar ym mis Awst. Mae straen gwres wedi bod yn her yr haf hwn ac er bod cael gwared ar ochrau ‘Yorkshire boarding’ ar y siediau wedi gwella llif yr aer, bydd angen edrych ar awyru mecanyddol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae buchod bellach yn pori am ychydig oriau'r dydd i helpu i leihau effeithiau straen gwres.

Cynghorodd Sara y dylid trochi traed y fuches odro 4-5 gwaith yr wythnos, gan newid yr hydoddiant bob tro i sicrhau bod y ganran gywir o doddiant yn cael ei gymysgu gyda dŵr glân. Er y gallai hyn fod yn anodd mewn system robotig lle nad yw’r gwartheg yn cerdded allan o’r parlwr yn ddyddiol, mae gan Russell system dda ar waith sy’n sicrhau bod y broses yn digwydd yn rhwydd heb unrhyw straen ychwanegol, wedi iddo osod baddonau traed ar y croesfannau ar bob pen i’r sied. Agwedd allweddol arall ar gyfer rheoli symudedd a chloffni yw sicrhau bod pob buwch gloff a phob buwch sydd angen triniaeth gyson yn cael eu gweld gan y trimiwr traed, felly mae partner Russell wedi cwblhau’r cwrs RoMS ac wedi bod yn sgorio symudedd y fuches bob pythefnos ers mis Mawrth. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw achosion newydd o gloffni yn cael eu canfod yn gynnar a'u harchwilio gan dîm y fferm neu yn ystod yr ymweliad trimio traed nesaf. Mae hefyd yn helpu i fonitro sut mae achosion sydd wedi derbyn triniaeth yn gwella. 

Ym mis Mai, cynhaliwyd cyfarfod rhithwir gyda’r tîm cyfan i adolygu’r cynllun gweithredu (Ffigwr 2) ac i benderfynu ar y camau nesaf. 

 

Ffigwr 2. Cynllun gweithredu a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod tîm yn adolygu gwaith y prosiect ym mis Mai.

 

Cytunodd y tîm i gynyddu nifer yr ymweliadau trimio traed i unwaith bob pythefnos i gyd-fynd â’r gwaith o sgorio symudedd, a fydd yn galluogi i wartheg cloff gael eu gweld yn gynt, yn enwedig achosion newydd. Bydd cynyddu nifer yr ymweliadau hefyd yn rhoi cyfle i’r sawl sy’n trimio i drimio traed yn rheolaidd, yn enwedig traed yr heffrod cyflo. Os bydd heffer yn gloff yn ystod ei llaethiad cyntaf, bydd hi deirgwaith yn fwy tebygol o ddod yn gloff yn ei hail gyfnod llaetha ac felly, gall rheoli cloffni ymysg heffrod leihau lefelau cloffni ar draws y fuches gyfan, a chynyddu hirhoedledd y gwartheg. Mae ymweliadau trimio rheolaidd hefyd yn caniatáu i’r gwartheg gael eu gweld ar yr amser cywir ar gyfer trimio ar ddechrau eu cyfnod llaetha rhwng 70-80 diwrnod mewn llaeth. Mae'r protocolau trimio traed a roddwyd ar waith fel rhan o'r cynllun gweithredu yn cael eu dilyn ac o ganlyniad, mae mwy o waith trimio traed wedi cael ei wneud eleni o’i gymharu â’r llynedd (Graff 1). Er bod lefelau canfod cloffni yn ardderchog, mae’r ymateb i’r driniaeth wedi bod yn is na’r lefel targed, ac mae hyn yn cael ei fonitro er mwyn ceisio canfod y rheswm. 

Graff 1. Cymhariaeth o nifer y buchod sydd wedi cael trimio eu traed fesul mis yn 2019 a 2020.

 

Er bod lefelau dermatitis digidol dan reolaeth ar y dechrau o ganlyniad i’r driniaeth ‘blitz’ a roddwyd ym mis Ionawr (defnyddio gwrthfiotigau trwyddedig ar y croen, ail-archwilio am ddau ddiwrnod yn olynol ac ailadrodd y driniaeth lle bo angen), mae ambell i achos wedi codi eto ers hynny, gyda’r mwyafrif yn cael eu hamlygu ar wartheg sy’n cael eu heintio’n aml. Mae arferion trochi traed yn cael eu hadolygu ac mae penderfyniadau’n ymwneud â difa’n cael eu gwneud ar gyfer y gwartheg cronig. Mae dadansoddiad o'r cofnodion trimio traed wedi nodi bod 40% o'r briwiau a gofnodwyd eleni wedi bod yn achosion ailadroddus sy'n dangos effaith achosion hanesyddol o gloffni ar batrymau cyfredol. Y nod at y dyfodol yw parhau i reoli’r achosion blaenorol hyn, gan sicrhau bod nifer yr achosion newydd yn lleihau.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys nodi'r rheswm dros lefelau ymateb is na’r targed i’r driniaeth. Gyda nifer o’r newidiadau mawr eisoes wedi’u rhoi ar waith, y peth pwysicaf nawr yw parhau i fonitro cloffni a chanfod lle gellir gwneud gwelliannau pellach, yn enwedig o ran cysur y fuwch a rheoli dermatitis digidol.