Diweddariad ar ôl diddyfnu: Safle Arddangos Glanmynys

Yn dilyn tymor ŵyna llwyddiannus, diddyfnwyd yr ŵyn ar gyfartaledd pwysau o 27kg yn 12 wythnos oed. Ar gyfartaledd, roedd sgôr cyflwr corff y mamogiaid ar ôl diddyfnu yn 2, yr un sgôr ag a gofnodwyd cyn ŵyna. Er i’r anifeiliaid gael eu brechu rhag orff, mae wedi bod yn broblem ymhlith ŵyn 2020. Brechwyd yr ŵyn hefyd rhag afiechydon clostridiol gyda Bravoxin, ond mae colledion oherwydd niwmonia yn dal i ddigwydd. Wrth ddiddyfnu, dewiswyd 105 o famogiaid i’w gwaredu oherwydd eu hoedran, mastitis neu fwrw llestr yn bennaf. 

Rhoddwyd Smart Shot i’r ŵyn yn y gwanwn ac mae’r canlyniadau yn Awst yn dangos bod ganddynt i gyd grynhoad boddhaol o elfennau hybrin, gyda fitamin B12 yn arbennig wedi gwella ers i’r Smart Shot gael ei roi.  

Cynhaliwyd ymchwiliad ar ôl diddyfnu/cyn troi at yr hwrdd oedd yn cynnwys profi gwaed y mamogiaid am elfennau hybrin yn ystod mis Awst. Rhoddwyd prawf gwaed i’r mamogiaid i fonitro lefelau copr, seleniwm, cobalt a sinc. Dangosodd y canlyniadau nad oedd angen ychwanegu copr, ond y byddai ategu seleniwm ar ffurf bolws yn fanteisiol petai’n cael ei roi cyn mynd at yr hwrdd. Gallai ychwanegu cobalt a sinc hefyd fod yn fanteisiol, ond mae’r gwahaniaeth yn debygol o fod yn fychan iawn. 
 

 

Wrth symud ymlaen, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y ffactorau canlynol:

  • Rheoli mamogiaid yn effeithiol i gael y sgôr cyflwr corff gorau o 3 - 3.5 erbyn troi at yr hwrdd.
  • Ymchwilio i’r broblem niwmonia mewn ŵyn i bennu beth sy’n ei achosi ac atal achosion yn y dyfodol.
  • Rhoi seleniwm i’r mamogiaid cyn troi at yr hwrdd, yn ogystal â chobalt a sinc ar ffurf bolws.