Diweddariad Prosiect: Chwefror 2020 - Hendre Ifan Goch

Yr arbenigydd tir glas, Gareth Davies, Grassland Advisory Service Ltd, sy’n arwain y gwaith prosiect hwn yn Hendre Ifan Goch.  Yn dilyn cyfarfod cychwynnol ar fferm Hendre Ifan Goch i drafod cynllun y prosiect ym mis Ionawr 2020, ymwelodd Gareth eto ym mis Chwefror i gasglu samplau pridd o dri chae oedd wedi’u dewis.  Prif fwriad casglu’r samplau pridd hyn oedd i ganfod lefelau presennol ar gyfer deunydd organig, carbon organig a charbon gweithredol yn y pridd.  Cafodd y tri chae penodol hyn eu dewis gan Gareth, a Russell a Rhys (y ffermwyr yn Hendre Ifan Goch) gan mai dyna’r tri chae oedd yn amrywio fwyaf o ran y math o bridd, y cynhyrchu a’r defnydd (caeau pori o’u cyferbynnu â chaeau silwair), ac felly fe fydden nhw (gobeithio) yn rhoi'r amrywiad mwyaf i ni o ran canlyniadau’r samplau pridd.  Mae'r map isod yn dangos awyrlun o'r caeau a'r patrwm pori cylchdro ar fferm Hendre Ifan Goch.

 

Dyma’r tri chae a ddewiswyd i gael eu samplu:

  • - Coch 3
  • - Oren 3
  • - Porffor 3