Diweddariad Prosiect: Creu dwysfwyd protein cost-effeithiol

Mae rhyw 200 o wartheg cig eidion yn cael eu pesgi bob blwyddyn ym Mhantyderi, gan gynnwys epil y fuches sugno o 80 o wartheg, a gwartheg stôr sy’n cael eu prynu. Mae tyfu 60ha o wenith a haidd yn golygu bod digon o egni starts ar gael ar y fferm ond yn sgil dadansoddiad o'r silwair porfa a’r haidd wedi’i grimpio, gwelwyd bod yna ddiffyg protein. Cafodd cymysgedd dwysfwyd protein ei greu’n unswydd i’r fferm gan y maethegydd annibynnol, Hefin Richards.

Dyma gynhwysion y cymysgedd dwysfwyd protein pwrpasol:

 

kg y dunnell

Blawd rêp

460

Gwenith distyllwyr

460

Triogl

53

Wrea

27

 

Cafodd gwenith distyllwyr ei gynnwys yn lle gwenith yn y cyfuniad terfynol a brynwyd. Yn ôl y dadansoddiad, roedd y cyfuniad hwnnw’n cynnwys 36.1% o Brotein Amrwd ac Egni Metaboladwy o 12.7MJ/kgDM.  

Roedd y dwysfwyd protein i’w gynnwys yng nghymysgedd cyflawn y ddeiet yn amrywio o 1.5kg y pen y dydd yn achos y gwartheg oedd yn tyfu i 1.75kg y pen y ddydd yn achos y grŵp oedd yn cael ei besgi.

Mae’r cymysgedd dwysfwyd protein hwn yn cynnig sawl nodwedd sy’n arbed costau:

  • Lefel uchel o brotein drwyddi draw, sy’n golygu nad oes angen defnyddio cymaint ohono yn y cymysgedd terfynol
  • Mae’n defnyddio cymaint â phosibl o rawn sydd wedi’i dyfu gartref
  • Mae’n cynnwys ffynhonnell nitrogen nad yw’n brotein ar ffurf wrea, sy’n rhatach o ran cost pob uned o brotein ac sy’n gallu cael ei defnyddio’n hawdd gan y meicrobau yn y rwmen 
  • Mae’n defnyddio sgil-gynhyrchion o’r diwydiant bwyd ac ethanol sydd ar gael yn rhwydd ac yn cynnwys llawer o brotein 
  • Nid yw’n cynnwys soia wedi’i fewnforio 
  • Nid yw’n cynnwys cynhwysion cario diangen
  • Mae’r gost am bob uned o brotein yn is drwyddi draw 
  • Mae’n cael ei baratoi ar ffurf cymysgedd o rawn cyffredin, sy’n fwy cost-effeithiol i’w gynhyrchu na phelenni
  • Cafodd y cynnyrch ei gasglu o safle cymysgu porthiant lleol, felly doedd dim cost ychwanegol am ddod ag ef i’r fferm.