Diweddariad Prosiect: Gwasgaru calch ar gyfradd amrywiol ar dir âr ar fferm Pantyderi

Mae’r gwaith o fapio’r pridd gan ddefnyddio offer sganio dargludedd trydan wedi cael ei gwblhau ar 60 ha o dir sy’n tyfu cnydau grawn ar fferm Pantyderi. Mae’r broses hon yn mapio’n fanwl sut mae nodweddion pridd yn amrywio ar draws cae gyfan. Yna, gellir rhannu’r caeau’n  barthau rheolaeth ar sail y canlyniadau. Mae samplu’r priddoedd yn y parthau hyn mewn modd strategol yn cynnig darlun fwy manwl y gellir ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo cyfraddau amrywiol ar gyfer calch, gwrtaith a hau hadau. 

Gan ddechrau gyda chalch, mae’r gwaith o fapio’r pridd wedi canfod arbedion o ran gwasgaru calch ar y tir âr o ganlyniad i ddefnyddio’r mapiau cyfraddau amrywiol:

 

Cyfradd

Arferol

Amrywiol

Calch(tunelli)

170.0

146.0

Cost £

5100

4380

 

Defnyddiwyd contractwr lleol sy’n gwasgaru calch gan ddefnyddio tractor a thechnoleg GPS er mwyn gwasgaru ar gyfradd amrywiol, a rhoddwyd y data i’r contractwr yn electronig er mwyn cwblhau’r broses.

Cliciwch yma am ragor o fanylion am y prosiect.