Diweddariad Prosiect: Gwasgaru calch ar gyfradd amrywiol ar dir glas ar fferm Pantyderi

Mae gwaith i fapio’r pridd gan ddefnyddio offer sganio dargludedd trydan (EC) wedi cael ei gwblhau ar 40ha o laswelltir ar fferm Pantyderi. Mae’r broses hon yn mapio’n fanwl sut mae nodweddion pridd yn amrywio ar draws cae cyfan. Yna, gellir rhannu’r caeau’n barthau rheolaeth ar sail y canlyniadau. Mae samplu’r pridd yn y parthau hyn mewn modd strategol yn cynnig darlun mwy manwl y gellir er ddefnyddio er mwyn rheoli’n faint o galch a maetholion y dylid eu gwasgaru yn ôl gofynion y parthau.

Mae’r diagram isod yn dangos cae 6.86ha sydd wedi cael ei sganio a’i rannu’n bedwar parth. Er bod pridd y cae cyfan wedi’i ddynodi’n bridd llwyd silt tywodlyd, mae parthau A a B yn cynnwys priddoedd gyda mwy o dywod ac mae parthau C a D yn cynnwys mwy o silt a chlai.

Mae’r lliwiau ar y map yn dynodi pH, ac mae’r gwaith o samplu’r pridd yn nodi bod parthau A a C angen mwy o galch er mwyn dod â pH y pridd i’r lefel orau posibl er mwyn cynhyrchu glaswellt, sef 6.3. Pe byddai lefelau pH cyfartalog y cae wedi cael eu defnyddio er mwyn cyfrifo faint o galch a oedd angen ei wasgaru, byddai dau barth heb gael digon o galch, a byddai’r ddau barth arall wedi cael gormodedd, gan arwain at wastraff.  

Ar draws y 40ha o laswelltir sydd wedi cael ei fapio, mae defnyddio’r mapiau pridd wedi adnabod arbedion ariannol o ran gwasgaru calch gan ddefnyddio dulliau o wasgaru ar gyfradd amrywiol:
               
Cyfradd                           Arferol               Amrywiol 

Tunelli o galch                182.1                 171.3          

Cost                                £5,463                £5,139              

Defnyddiwyd contractwr lleol sy’n defnyddio tractor gyda thechnoleg GPS er mwyn gwasgaru ar gyfradd amrywiol. Rhoddwyd y data ar gyfer y cae i’r contractwr ar gerdyn SD a osodwyd ym mhanel rheoli’r tractor er mwyn cwblhau’r broses.

 

Cyflwyniad y prosiect mapio pridd.

 

1. Cerdyn SD a phanel rheoli’r tractor

 

2. Llun agos o banel rheoli’r tractor 

 

3. Gwasgaru calch ar gyfradd amrywiol ar laswelltir