Diweddariad Prosiect - Gwella’r effeithlonrwydd o laswellt ar safle arddangos Rhiwaedog

Mae nifer o wahanol elfennau yn rhan o’r prosiect gwella effeithlonrwydd o laswellt yn Rhiwaedog. Cynhaliwyd cynllun treialu pori yn ystod gwanwyn 2020 yn canolbwyntio ar fanteision defnyddio wrea safonol yn hytrach nag un wedi ei ddiogelu. Chwalwyd wrea wedi ei ddiogelu ac arferol ar blotiau glaswellt gwahanol ar 11 Ebrill 2020 ar gyfradd o 35kg yr erw, gan felly gyflenwi 32 uned o nitrogen i bob erw (40kgN/ha). Oherwydd cyflwr y tir ni fedrwyd chwalu yn gynharach gan fod y tymheredd yn cael ei ystyried yn uchel ar gyfer chwalu wrea safonol (12°C). Yna bu sychder ar ôl ei chwalu. Canlyniad y cynllun treialu hwn oedd bod defnyddio wrea wedi ei ddiogelu'r gwanwyn hwn wedi arwain at gynnydd o 30% yn nhyfiant y glaswellt (2,100kgDM/ha o wrea safonol mewn cymhariaeth â 2,800kgDM/ha gydag wrea wedi ei ddiogelu).

 

4 wythnos ar ôl chwalu wrea:

 

 

Elfen arall o’r prosiect yw cymharu cynnyrch silwair glaswellt o blotiau wedi eu trin ag amoniwm nitrad mewn cymhariaeth ag wrea wedi ei ddiogelu. Ar 15 Mai 2020, chwalwyd 75kg yr erw o wrea wedi ei ddiogelu ar un plot, yn ogystal â 100kg o amoniwm nitrad (69 unedN/erw) ar blot ar wahân. Chwalwyd y gwrtaith ar dir sych iawn pan oedd hi’n gymylog. 

Yn dilyn asesiad o’r cynnyrch ar 22 Mehefin 2020, cyfrifwyd bod cynnyrch glaswellt y plotiau a gafodd wrea wedi ei ddiogelu yn 4,120kgDM/ha, tra’r oedd y plotiau oedd wedi cael amoniwm nitrad wedi eu cyfrifo ar 5,050kgDM/ha. Gwelwyd bod defnyddio wrea wedi ei ddiogelu ar gnydau silwair yn lleihau’r tyfiant glaswellt o tua 20%. Mae hyn mae’n debyg oherwydd y sychder maith (15+ o ddyddiau sych) a dorrodd yr haen ddiogelu i lawr ar yr wrea wedi ei ddiogelu. Bydd yr agwedd nesaf ar y prosiect yn cynnwys gwella ansawdd y gwndwn trwy gyflwyno gwndwn aml-rywogaeth.