Diweddariad Prosiect - Penrhyn Farm
Mae’r gwaith profi genomig ar Fferm Penrhyn wedi dechrau, ac rydyn ni wedi profi 31 o heffrod un oed a’r tri tharw stoc (roedd amrywiolion Myostatin y pedwerydd tarw gennyn ni yn barod).
Cafodd samplau blew eu tynnu o gynffon yr anifeiliaid, gan sicrhau bod gennyn ni 20-40 o flew glân, sych a ffoligl y blewyn yn gyfan ar 50% o leiaf o’r blew. Roedd hyn yn bwysig gan mai yn y ffoligl yn unig ac nid yn y blewyn y mae’r DNA i’w gael. Wedyn cafodd y samplau eu hanfon at y Gymdeithas Limousin er mwyn i’r amrywiolion myostatin gael eu profi, ynghyd â’r genyn ar gyfer lliwiau’r got a’r genyn moelni.
Tabl 1. Mae’r tabl hwn yn dangos yr amrywiolyn myostatin penodol sydd gan bob heffer, a rhif yr amrywiolyn.
|
Rhif yr amrywiolyn myostatin penodol sydd gan yr heffrod |
||||
Rhif |
Nt821 |
F94L |
Q204X |
E291X |
Nt419 |
1 |
1 |
1 |
|
|
|
2 |
|
2 |
|
|
|
3 |
1 |
1 |
|
|
|
4 |
2 |
|
|
|
|
5 |
1 |
1 |
|
|
|
6 |
1 |
1 |
|
|
|
7 |
1 |
1 |
|
|
|
8 |
1 |
1 |
|
|
|
9 |
1 |
1 |
|
|
|
10 |
1 |
1 |
|
|
|
11 |
1 |
1 |
|
|
|
12 |
2 |
|
|
|
|
13 |
1 |
1 |
|
|
|
14 |
|
2 |
|
|
|
15 |
2 |
|
|
|
|
16 |
1 |
|
1 |
|
|
17 |
|
|
1 |
|
|
18 |
1 |
1 |
|
|
|
19 |
1 |
1 |
|
|
|
20 |
|
2 |
|
|
|
21 |
1 |
1 |
|
|
|
22 |
1 |
1 |
|
|
|
23 |
|
1 |
1 |
|
|
24 |
1 |
1 |
|
|
|
25 |
1 |
1 |
|
|
|
26 |
1 |
1 |
|
|
|
27 |
1 |
1 |
|
|
|
28 |
1 |
1 |
|
|
|
29 |
|
1 |
1 |
|
|
30 |
|
1 |
1 |
|
|
31 |
1 |
1 |
|
|
|
Fel y gwelir yn Nhabl 1, mae gan y mwyafrif o’r heffrod 1 copi o Nt821 ac 1 copi o F94L neu 2 gopi o’r ddau, ac nad oes copi o E291X nac Nt419 yn bresennol yn yr un o’r heffrod yn y grŵp.
Y camau nesaf yw pwyso’r heffrod, mesur lled eu pelfis, a rhoi sgôr aeddfedrwydd iddyn nhw pan fyddan nhw’n yn 13 mis oed. Wedyn bydd Alison Glasgow, Rheolwr Technegol Cymdeithas Gwartheg Limousin Prydain, yn rhoi canllawiau ar baru’r anifeiliaid â tharw er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i bob heffer o ran yr amrywiolion myostatin sydd ganddyn nhw, er mwyn lleihau’r risg y bydd anawsterau’n codi wrth fwrw llo.