Diweddariad Prosiect: Safle Arddangos Rhiwaedog – Gwerthuso manteision technoleg canfod buchod yn gofyn tarw er mwyn sicrhau enillion mewn ffrwythlondeb buchod sugno

Amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect yw i wella ffrwythlondeb, a tynhau’r patrwm lloi yn y safle arddangos er mwyn sicrhau buches bîff fwy effeithlon a proffidiol. 

Gweler y dangosyddion perfformiad allweddol rydym yn anelu i’w cyflawni fel rhan o’r prosiect yn Rhiwaedog isod:  

  • Tynhau’r cyfnod lloia er mwyn sicrhau cyfradd lloia o 90% o fewn cyfnod o 6 wythnos ar gyfer y gwartheg yn y ddau floc lloi. 
  • Lleihau’r bwlch lloia i gydfynd a’r cyfartaledd Prydeinig o ‘un llo byw’ fesul 365-375 diwrnod. 
  • Cynyddu cyfraddau beichiogi i >95% o’r fuches yn feichiog yn y diagnosis beichiogrwydd cyntaf. 

Diweddariad prosiect:

Ar 25 Ebrill 2020, cafodd 13 o fuchod eu troi at darw Du Cymreig pedigri newydd, sef Machreth Bleddyn 6th, a gafodd ei ychwanegu at y fuches ym mis Ionawr 2020. Cafodd yr holl fuchod eu tagio gyda tagiau electronig MooCall HEAT, a’u cysylltu i’r dangosfwrdd MooCall yn unigol. Cafodd coler electronig MooCall HEAT ei gosod ar y tarw. 

Mae’r goler yn defnyddio gwybodaeth yn seiliedig ar agosrwydd, ymddygiad tarw ar gefn buwch a lefelau gweithgaredd er mwyn canfod i gywirdeb manwl pryd mae buwch yn gofyn tarw. Pan fydd buwch/heffer yn gofyn tarw, caiff neges ei yrru drwy’r ap neu drwy decst i’r ffermwr er mwyn ei hysbysu. Mae modd monitro cynnydd y fuches ar ddangosfwrdd ap MooCall.  

Hyd yn hyn nid oes llawer o weithgaredd wedi ei gofnodi, fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ddyddiau cynnar. Y bwriad yw i fonitro’r fuches yn ofalus, a darganfod os oes unrhyw un o’r buchod ddim yn gofyn tarw fel y dylai. Gallwn wedyn ymchwilio i hyn ymhellach drwy archwilad manwl gan y milfeddyg. Os darganfyddir unrhyw broblemau iechyd sy’n amharu ar ffrwythlondeb, gallwn weithio tuag at eu datrys. 

 

Camau nesaf:

  • Monitro gweithgaredd ar ddangosfwrdd MooCall HEAT er mwyn sicrhau fod gwartheg yn gofyn tarw yn iawn. 
  • Sganio buchod o fewn oddeutu 6 wythnos o gychwyn y cyfnod paru (wythnos yn cychwyn 8 Mehefin).
  • Adnabod unrhyw fuchod sydd ddim wedi sefyll ar ôl eu troi at y tarw y tro  cyntaf, a chynnal archwiliad corfforol a sganio uwchsain os oes angen. 

Yn y tymor hir, rydym yn gobeithio lloia o leiaf 90% o fuchod o fewn chwe wythnos, yn y ddau floc lloia, a sicrhau cyfraddau beichiogi o o leiaf 95% yn y diagnosis beichiogrwydd cyntaf.