Diweddariad Prosiect (Tachwedd 2019) - Cefnllan: Rheoli'r newid; buchod sugno i gig eidion o'r fuches odro

Dafydd Jones, Ymgynghorydd Uwch mewn Systemau Da Byw gyda Precision Grazing sy’n arwain y gwaith prosiect ar fferm Cefnllan.  Ymwelodd Dafydd Jones â Chefnllan ym mis Tachwedd, 2019 er mwyn gosod Agrinet (meddalwedd rheoli porfa) a Farmax (meddalwedd cynorthwyo penderfyniadau);  bydd y ddwy feddalwedd yn cyflawni rolau allweddol wrth gynorthwyo gyda phenderfyniadau rheoli pwysig a wneir ar y fferm yn ystod y prosiect.  Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd asesiad gwaelodlin o'r fferm a'r fenter gan Dafydd Jones ac fe'i ychwanegwyd i Farmax.  Lluniwyd map o Gefn Llan trwy Farmax, a lluniwyd llwybr cerdded er mwyn mesur gorchudd porfa’r fferm hefyd.  Mesurwyd gorchudd porfa’r fferm gyfan gan ddefnyddio mesurydd plât a chyfrifwyd faint o gnydau bresych (maip) a silwair oedd ar gael ar y fferm er mwyn cael gwir syniad o'r porthiant sydd ar gael ar gyfer y gaeaf, er mwyn gallu cyfrifo cyllideb ar gyfer y gaeaf.  Gweler y wybodaeth isod;

 

Fideo 1 – Farmax

 

Fideo 2 - AgriNet

 

Mae Ffigwr 1. yn dangos map o fferm Cefnllan, a rhifwyd y caeau i gyd-fynd â'r wybodaeth yn nhabl 1.

 

Mae Ffigwr 2. yn dangos map o'r awyr o Fferm Garth, sef bloc o dir gerllaw y mae Neil Davies yn ei rentu, ac sy'n cael ei ffermio fel un bloc gyda fferm Cefnllan.  Unwaith eto, rhifwyd yr holl gaeau er mwyn cyd-fynd â'r wybodaeth yn nhabl 1.

 

Mae Tabl 1. yn dangos dadansoddiad o'r holl gaeau yng Nghefnllan a Garth, cyfanswm eu hectarau effeithiol, yn ogystal â'u defnydd yn 2019 a 2020.

 

Cyllidebu porthiant

 

Mae Tabl 2. yn dangos faint o silwair a oedd ar gael ar fferm Cefnllan ym mis Tachwedd 2019, yn ôl gwaith cyfrifo.

 

 

Mae Tabl 3. yn dangos pwysau cnwd sych y cnydau bresych (maip) ar fferm Cefnllan ym mis Tachwedd 2019, yn ôl gwaith cyfrifo

 

Mae'r delweddau isod yn dangos Dafydd a Neil yn mesur pwysau cnwd sych y cnydau bresych yng Nghefnllan ym mis Tachwedd 2019.  Gwnaethpwyd gwaith asesu trwy ddefnyddio ffrâm sgwâr 1m, bwced gwag a chloriannau mewn pedwar cae gwahanol.