Diweddariad Prosiect (Tachwedd 2019): Cymharu gwahanol ddulliau o ychwanegu elfennau hybrin ar gyfer tyfiant ŵyn stôr

Mae grŵp o oddeutu 150 o ŵyn stôr a brynwyd yn yr hydref wedi'u dyrannu ar hap (gan ddefnyddio generadur rhif ar hap) i un o dri grŵp (n = 50). Bydd y tri grŵp yn derbyn y triniaethau canlynol:

  1. Bydd Grŵp 1 (grŵp coch) yn derbyn ychwanegion elfennau hybrin sydd ar gael yn fasnachol, drwy’r geg.  
  2. Bydd Grŵp 2 (grŵp melyn) yn derbyn bolws Downland Essential Lamb.
  3. Bydd grŵp 3 (grŵp porffor) yn derbyn bolws Carrs Billington Ovi-trace.  

 

Cafodd pob oen ei farcio gyda lliw i ddynodi i ba grŵp yr oeddent yn perthyn (coch, melyn a phorffor).

 

Bydd y drensh a’r bolysau’n cael eu rhoi’n unol â’r cyfarwyddiadau. Bydd yr holl ŵyn sy’n rhan o’r prosiect yn cael eu pori fel un grŵp heb dderbyn unrhyw borthiant ychwanegol. Dylai hyn gadw cyn lleied â phosibl o newidynnau a chaniatáu cymhariaeth deg. Casglwyd samplau gwaed o bum oen ym mhob grŵp gan Victoria Fisher (milfeddyg o Farm First Vets sy’n arwain ar y prosiect) cyn rhoi triniaeth ar gyfer copr, cobalt a seleniwm. Gellir gweld canlyniadau'r samplau gwaed isod;

 

Cobalt

Triniaeth

Nifer yr ŵyn yn dangos diffyg cobalt (allan o 5)

Drensh (Coch)

  3

Bolws Downland (Melyn)

  2

Bolws Tracesure (Porffor)

  2

 

Seleniwm

Ni nodwyd unrhyw ddiffygion 

 

Copr

Cynnydd mewn ambell i anifail 
 

Ni nodwyd unrhyw ddiffygion difrifol o ran lefelau copr yn y samplau gwaed a gymerwyd gan y pymtheg oen, ond dylid nodi bod dau oen yn dangos lefelau copr ychydig yn uchel. Mae hyn yn annhebygol o fod o ganlyniad i wenwyndra, ond yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i lid sylfaenol posibl (e.e. oherwydd niwmonia, Gastroenteritis Parasitig (PGE)). 

Bydd y samplau gwaed hyn yn cael eu hailadrodd ar ôl tri mis i asesu a yw'r lefelau wedi'u cynnal yn ddigonol fel yr honnir gan y cynhyrchion hyn. Bydd pwysau byw bob oen yn y grwpiau yn cael ei fonitro o leiaf unwaith y mis.

Oherwydd pryderon lles yr anifeiliaid, ni fydd unrhyw grŵp yn cael ei adael heb ychwanegion (grŵp rheolaeth).

Bydd ŵyn yn cael eu monitro trwy gydol y broses ar gyfer unrhyw afiechydon eraill. Os bernir nad yw'n gysylltiedig â'r prosiect, bydd eu canlyniadau'n cael eu diystyru o'r prosiect.
 

Ŵyn yn pori ar Fferm Pentre, Llansoe, Brynbuga.

 

Rhannwyd 150 o ŵyn stôr a brynwyd i mewn yn dri grŵp o 50 gan ddefnyddio generadur rhif ar hap.