Ffeithiau Fferm Tynyberth

Ffermwyr

  • Mae Jack Lydiate yn ffermio Fferm Arddangos Tynyberth mewn partneriaeth â'i rieni, John a Lynne.
  • Mae Jack wedi dychwelyd i fusnes y fferm yn dilyn cyfnod o ymgymryd â gwaith contractio fferm. Mae’n bwriadu cychwyn Tenantiaeth Busnes Fferm yn Nhynyberth o fewn y 12 mis nesaf, ac mae'n gwerthfawrogi gofynion o sefydlu busnes o fewn cyfnod cyfnewidiol i'r diwydiant.

Tir

  • Mae Tynyberth yn fferm fynydd organig 500 erw.
  • Mae’r prif ddaliad yn cynnwys 200 erw wedi’i wella (20 erw wedi eu hail hadu yn y 4 blynedd diwethaf) a 300 erw o dir mynydd heb ei wella.
  • Mae 15 erw o goetir hefyd ar y fferm.

Da Byw

Defaid

  • Mae’r ddiadell yn cynnwys 600 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella sydd wedi eu croesi â hyrddod Cymreig wedi’u gwella a hyrddod Texel Seland Newydd.
  • Mae 140 o ŵyn cyfnewid benyw hefyd.
  • Mae mamogiaid yn ŵyna dan do o ganol mis Mawrth ac yn derbyn silwair mewn byrnau ynghyd â dwysfwyd (18% protein).
  • Mae'r holl ŵyn yn cael eu gwerthu fel stôr ym mis Hydref.

Cnydau

  • Mae 60 erw o laswellt yn cael ei dorri ar gyfer byrnau silwair yn flynyddol.
  • Mae bron i hanner y byrnau a wneir yn cael eu gwerthu.