Fferm Pentre, Llan-soe, Brynbuga, Sir Fynwy

Prosiect Safle Ffocws: Cymharu dulliau gwahanol o roi atchwanegion elfennau hybrin i wella tyfiant ŵyn

 

Amcanion y Prosiect: 

Prif nod y prosiect hwn yw cymharu cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) ŵyn sydd wedi derbyn gwahanol fathau o atchwanegion elfennau hybrin (bolws yn erbyn drensh).  Ar draws y Deyrnas Unedig nid oes llawer o ddata ar gael ar gyfer y dull mwyaf priodol a chost-effeithiol o roi atchwanegion elfennau hybrin i ŵyn. Mae sawl cynnyrch ar gael ar y farchnad, ond prin yw’r data ar y fferm i gefnogi honiadau’r cynhyrchwyr. Yn gyffredinol, mae ffermwyr yn prynu atchwanegion elfennau hybrin ar sail deunydd gwerthu/marchnata yn hytrach na threialon ar sail tystiolaeth. 

  1. Asesu effeithiolrwydd tri dull gwahanol o roi atchwanegion elfennau hybrin i ŵyn (2 folws gwahanol yn erbyn drensh) drwy edrych ar y cynnydd yn eu pwysau.
  2. Darparu tystiolaeth dda er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus wrth roi cyngor i ffermwyr ar sut i atal diffygion elfennau hybrin drwy roi atchwanegion.
  3. Gwella lles ŵyn a thwf economaidd yn y tymor hir drwy atal diffygion elfennau hybrin.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd: 

  1. Gwell cynnydd pwysau byw dyddiol 
  2. Lleihau nifer y dyddiau cyn lladd
  3. Gwella iechyd a lles cyffredinol yr ŵyn

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Pensarnau
Pensarnau, Cross Inn, Llandysul, Ceredigion Prosiect Safle Ffocws
Shordley Hall
Shordley Hall Farm, Shordley Road, Hope, Wrecsam Prosiect Safle
Wern
Wern, Foel, Y Trallwng Prosiect(au) Safle Ffocws: Gwella