Ellen Firth

Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych 

Mae gan Ellen Firth uchelgeisiau mawr a chyda diadell bur o ddefaid o frid brodorol a busnes ffermio blodau a blodeuwriaeth i’w henw, mae hi eisoes ar y llwybr i gyflawni rhai o’i nodau.

Mae Ellen wedi gweithio ar lawer o wahanol fathau o ffermydd ers yn ifanc, gan feithrin ei hangerdd am amaethyddiaeth.

Ers i’w theulu ymgartrefu yn Nyffryn Clwyd, mae wedi sefydlu busnes blodeuwriaeth ei hun wrth reoli fferm fechan, ac mae hefyd yn gweithio’n rhan-amser mewn milfeddygfa leol.

Mae Ellen yn rhedeg diadell pur o 40 o ddefaid Mynydd Du Cymreig, yn gwerthu stoc ar gyfer bridio ac yn cyflenwi cig oen i westy lleol, yn ogystal â chystadlu mewn sioeau.

Mae hi'n mwynhau'r broses sy'n ymwneud â pharatoi at sioeau, gan gydnabod gwerth trosglwyddo'r sgil prin hon i lawr drwy'r cenedlaethau.

Mae dofednod yn un arall o’i hoffterau, ac mae hi’n magu hwyaid Amryliw Cymreig o frid prin, ieir gini ac ieir o frid treftadaeth.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae hi hefyd wedi sefydlu busnes ffermio blodau a blodeuwriaeth, gyda blodau'n cael eu tyfu gan ddefnyddio dulliau adfywiol 'dim palu'.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ethos busnes Ellen. Mae hi’n frwd dros ddarparu blodau o’r safon uchaf, wedi’u tyfu’n lleol i bobl leol, wrth addysgu ei chymuned leol am bwysigrwydd cefnogi diwydiant garddwriaethol Cymru.

Mae’n ymgyrch ganddi’n awr i ddangos i eraill ei bod hi'n bosibl adeiladu busnes amaethyddol llwyddiannus ac amrywiol gydag ond ychydig o aceri.

Mae Ellen hefyd yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth GIG Alder Hey, gan rannu ei phrofiad o awtistiaeth ar ôl cael diagnosis ei hun. Mae hi’n credu mewn helpu eraill i ddatblygu dealltwriaeth o awtistiaeth ac mae’n lledaenu ymwybyddiaeth drwy weithio gyda theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol a busnesau, gan gynnwys sefydliadau amaethyddol.

Fel aelod o Raglen Iau yr Academi Amaeth, mae Ellen am ddatblygu ei gwybodaeth am y diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau llwyddiant ei busnesau yn y dyfodol o fewn diwydiant amaethyddol sy’n newid yn barhaus.

“Rwy’n teimlo bod y diwydiant amaethyddol ar drobwynt, ac yn symud tuag at arferion mwy cynaliadwy ac adfywiol yn y dyfodol."

“Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu am y technegau hyn a sut y gallwn ni i gyd eu rhoi ar waith.''