Emma Bradbury

Llanymddyfri, sir Gaerfyrddin

Mae Emma Bradbury wedi gwneud cynnydd cyflym yn y sector ffermio ers iddi raddio gyda gradd mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Harper Adams.

Mae’n cyfuno ei swydd fel Rheolwr Polisi Cenedlaethol ar gyfer y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol â rhedeg ei diadell ei hun o Cheviots Tiroedd y De o fewn cytundeb ffermio cyfran.

Mae Emma, gyda’i phartner wedi achub ar gyfleoedd pellach hefyd, gan rentu fferm gyda’i gilydd mewn partneriaeth ochr yn ochr â’i gytundeb ffermio cyfran ei hun ar Fferm Glanmynys.

Wrth edrych i’r dyfodol, ei huchelgais yw datblygu diadell Byriseldir proffidiol a chynhyrchiol a chynyddu ei pherchnogaeth o dda byw.

Mae ymrwymiadau gwaith presennol Emma a’i threfniadau ffermio yn golygu bod angen i’w system ddefaid fod yn hyblyg oherwydd cyfyngiadau amser a rheolaeth ond ei huchelgais yw cyrraedd sefyllfa lle gall arallgyfeirio a chynyddu’r ddiadell, efallai dechrau menter bîff hefyd.

Ar ôl meithrin gwybodaeth drwy gymryd rhan yn Rhaglen Ffermwyr y Dyfodol Tesco a Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio yn 2021, mae hi’n gweld y rhaglen Busnes ac Arloesedd fel y cam pwysig nesaf.

“Rwy’n angerddol am y diwydiant amaethyddol ac yn credu y bydd yr Academi Amaeth yn darparu profiad unigryw a fydd yn allweddol i ehangu fy ngorwelion, yn caniatáu i mi archwilio gweithrediadau ffermio ymhellach i ffwrdd ac i ennill gwybodaeth i wella fy musnes fy hun."

“Mae angen i'm craffter busnes hefyd dyfu ochr yn ochr â'm dyheadau ar gyfer fy musnes ac rwy'n gweld hyn fel rhywbeth hanfodol i wneud y cam nesaf o ran twf busnes ac ehangu ac arallgyfeirio.''