Erin McNaught
Rhos-y-gwaliau, Gwynedd
A hithau ond 18 oed, cynigiwyd y cyfle i Erin McNaught redeg y fferm deuluol, naid fawr i ferch ifanc a oedd newydd gyflawni cwrs Lefel A gwych gyda’r brifysgol o’i blaen.
Ond cymaint oedd tynfa Fferm Pandy nes iddi achub ar y cyfle hwnnw a dwy flynedd yn ddiweddarach, mae ei “Thaid” wedi ei gwneud yn bartner yn y busnes.
Nid yr amgylchiadau a ddechreuodd ei gyrfa ffermio, salwch ei thaid, yw'r rhai y byddai wedi'u dewis ond gyda'i arweiniad mae hi wedi cyflwyno newidiadau sydd wedi gwneud y fferm yn fwy proffidiol.
Ehangu niferoedd y defaid o 20 i 400 oedd y cam cyntaf, ac yn ddiweddarach disodli’r fuches sugno gyda menter magu lloi ar gyfer bîff.
Ac nid yw hi wedi cefnu ar ei hastudiaethau academaidd chwaith gan ei bod ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd mewn daearyddiaeth a gwyddorau amgylcheddol hefyd.
Mae amaethyddiaeth wedi’i ymgorffori ym mhob agwedd o fywyd Erin, hyd yn oed yn ei hamser hamdden, trwy fudiad y CFfI a drwy dreialon cŵn defaid.
Yn 2018, enillodd deitl y Trinwyr Ifanc yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol a’r flwyddyn ganlynol roedd yn rhan o’r ddeuawd a enillodd dlws One Man and His Dog.
Arweiniodd y llwyddiannau hynny at ymddangosiadau ar raglenni teledu poblogaidd gan gynnwys Blue Peter.
Yn 2022, cymerodd her newydd fel Llysgennad Ffermwyr Ifanc a Myfyriwr NFU Cymru, gan ddefnyddio’r rôl hon i dynnu sylw gwleidyddion at yr heriau sy’n wynebu ffermydd mynydd teuluol.
Mae Erin ar ddechrau ei gyrfa yn unig, ac mae ganddi lawer o syniadau busnes y mae'n bwriadu eu harchwilio.
Mae bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn arbennig o berthnasol i hynny, meddai.