Ffeithiau Fferm Cefnllan

Fferm bîff a defaid 105-hectar (ha) yw Cefnllan. Mae’n cael ei rhedeg gan Neil Davies a’i deulu; maen nhw’n rhentu 93ha arall ac mae ganddyn nhw hawliau pori ar Fynydd Epynt

Defaid Brych Caled Epynt yw’r ddiadell o 2400  o famogiaid, sef brid gwydn sy’n gallu byw ar y mynydd 12 mis o’r flwyddyn

Yn y ddwy flynedd gyntaf, mae’r mamogiaid yn cael eu troi at hwrdd Brych Caled Epynt  er mwyn ateb gofynion blynyddol y ddiadell o sicrhau 600 o famogiaid newydd y flwyddyn

Am y tair blynedd wedyn, hwrdd Texel sy’n cael ei ddefnyddio gyda’r mamogiaid a hynny er mwyn cynhyrchu ŵyn mwy: y nod yw cyrraedd targed pwysau gwerthu o 42kg

Gan mai brid mynydd yw’r mamogiaid, mae ganddyn nhw gyfartaledd sganio o 120%

Mae dwysfwyd yn cael ei fwydo i’r mamogiaid sy’n magu ŵyn Texel yn y gwanwyn; eleni costiodd hyn £8 y pen.

Mae’r holl ŵyn Texel yn cael eu bwydo â dwysfwyd, ar gost eleni o £6 y pen

Mae’r mamogiaid hŷn yn wyna ar ddiwedd Ionawr ac mae’r holl ŵyn o'r rhain erbyn hyn yn cael eu gwerthu erbyn diwedd Mai; mae’r mamogiaid i’w difa yn cael eu gwerthu bryd hynny hefyd

Mae 32 hectar o gnydau gwraidd yn cael eu tyfu bob blwyddyn i ddarparu porthiant gaeaf

Mae’r fferm wedi dechrau ar raglen ailhadu helaeth: bydd 20 hectar yn cael ei ailhadu bob blwyddyn. Mae’r gwndwn newydd yn gynhyrchiol iawn yn y gwanwyn pan fydd angen i’r busnes  wneud y mwyaf o'r glaswellt sydd ganddo

Mae 60 o fuchod sugno Belgian Blue croes yn cael eu troi at darw Limousin ac mae’r lloeau’n cael eu geni yn y gwanwyn; mae’r epil yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr ym marchnad da byw Aberhonddu