Ffeithiau Fferm Pantyderi
Mae Safle Arddangos Pantyderi yn ddaliad bîff, defaid a thir âr sy’n cael ei redeg gan dad a mab, Wyn ac Eurig Jones. Mae Wyn yn briod â Glenda ac mae ganddyn nhw dair merch, Anna, Lisa ac Efa.
Mae’r busnes yn ffermio 445 hectar ar draws dwy uned a thir oddi ar y fferm.
Mae gan y fenter bîff 80 o fuchod sugno Hereford croes sy’n lloia yn y gwanwyn ac sy’n cael eu paru â tharw Limousin.
Mae’r holl epil yn cael eu pesgi ar ddogn sy’n cynnwys barlys cartref wedi'i grimpio a silwair ac yn cael eu gwerthu'n uniongyrchol i’w lladd yn 18-24 mis i M&S, Celtic Pride a phrynwyr eraill.
Mae gwartheg stôr yn cael eu prynu hefyd i’w pesgi, a hynny o farchnadoedd da byw a gwerthwyr preifat yn lleol.
Mae rhyw 200 o wartheg yn cael eu pesgi bob blwyddyn.
Mae’r ddiadell yn cynnwys 1500 o famogiaid Texel-croes sy’n cael eu troi at hyrddod Texel, Abermax, Aberfield a Charollais.
Mae hwrdd Primera yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ŵyn i’w gwerthu i Tesco.
Cyfartaledd sganio’r ddiadell yn ystod y tymor eleni oedd 160%.
Mae’r mamogiaid sy’n dod â thripledi a gefeilliaid yn wyna o dan do o 10 Mawrth ymlaen ac mae’r unigolion yn ŵyna tu allan, hefyd o 10 Mawrth ymlaen.
Mae’r rhan fwyaf o’r ŵyn yn cael eu pesgi ar borfa gydag ychydig bach o ddwysfwyd yn cael ei roi ychydig cyn eu gorffen.
Mae’r rhan fwyaf o’r carcasau’n sicrhau graddau U ac R.
Mae’r busnes yn tyfu 110 erw o farlys gwanwyn a 40 erw o farlys gaeaf a gwenith gaeaf.
Arallgyfeirio
Mae incwm ychwanegol yn dod o lety gwyliau a dwy system ynni haul 50kW.