Alwyn & Dylan Nutting
Glascoed, South Montgomeryshire
Adolygu’r ddiadell i gyflawni nodau busnes hirdymor
Mae Fferm Glascoed yn ddaliad 250 erw sy'n rhedeg tair diadell sy'n cynnwys mamogiaid croes Aberfield, mamogiaid croes Highlander, a mamogiaid Cymreig, ochr yn ochr â buches o wartheg. Mae Fferm Glascoed wedi ymrwymo i welliant parhaus, ac mae wedi gwella ei effeithlonrwydd gweithredol dros y blynyddoedd diwethaf. Cyflawnwyd hyn trwy ffocws strategol ar wneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen pori cylchdro. Mae'r dull hwn wedi arwain at ostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu a lleihau ôl troed carbon y fferm.
Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae Fferm Glascoed yn cynnal adolygiad perfformiad cynhwysfawr. Bydd y prosiect hwn yn darparu dadansoddiad manwl o berfformiad presennol y fferm, gan nodi meysydd cryfder a chyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach o ran effeithlonrwydd a'u hôl troed carbon. Bydd yr adolygiad yn trosoli llwyddiannau’r gorffennol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu wedi’i ddiffinio’n dda, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Fferm Glascoed a’i ffyniant parhaus.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- lefel uchel o iechyd a lles anifeiliaid
- defnyddio adnoddau’n effeithiol
- ecosystemau cydnerth