Dylan Roberts

 Llwyngwair Home Farm, Trefdraeth, Sir Benfro

 

Gwerthuso effaith biosymbylydd gwymon ar gynhyrchiant glaswelltir ac iechyd y pridd

Bydd Dylan Roberts yn cymryd rhan yn yr arbrawf gan ddefnyddio’r Biosymbylydd yn seiliedig ar wymon Câr-y-Môr, mewn cydweithrediad ag WWF a Terrafarmer. Mae’r defnydd o fiogynhyrchion yn seiliedig ar wymon wedi bod ar gynnydd mewn systemau cynhyrchu cnydau o ganlyniad i’w cyfansoddion bioweithredol sy’n cynnwys nodweddion symbylu planhigion, gan annog cynnydd o ran twf a chynnyrch planhigion.

Bydd yr arbrawf yn dechrau ddiwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai a bydd yn cynnwys amrywiaeth o leiniau ar laswelltir:

  • Rheoli: Dim mewnbwn biolegol, gwrtaith safonol
  • Triniaeth 1: Mewnbwn biolegol + 30% yn llai o wrtaith
  • Triniaeth 2: Mewnbwn biolegol + 50% yn llai o wrtaith

Bydd pob llain yn cael ei dagio gan ddefnyddio System Leoli Fyd-eang i sicrhau bod modd ailadrodd y samplau, a fydd yn cynnwys asesiadau o strwythur y pridd, bioleg y pridd, cynnyrch cnydau a gwerth maethol ar hyd y tymor, gan ddefnyddio dulliau gan gynnwys:  

  • Dadansoddiad o’r pridd (profion Solvita)
  • Gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd (VESS)
  • Dadansoddiad o werth dail a bwyd
  • Asesiadau cynnyrch yn seiliedig ar gwadradau

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Cyfrannu at safonau uchel o iechyd a lles y fuches
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Gwella effeithlonrwydd adnoddau’r fferm drwy wneud y defnydd gorau o borthiant a dyfir gartref ar y fferm
  • Lleihau risg llifogydd a sychder drwy blannu gwndwn sy’n gwreiddio’n ddyfnach

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Awel y Grug
Chris & Glyn Davies Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir
Cornwal Uchaf
Dylan, Gwenda and Gwion Roberts Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy {