Tom Clare and Jacqui Banks

Pencedni, Glandwr

Gwella amaeth-goedwigaeth adfywiol ar Fferm Pencedni

Mae Fferm Pencedni wedi’i lleoli i’r de o Grymych a Bryniau’r Preseli ar gyrion pentref Glandwr yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’r tyddyn yn enghraifft wych o ddiddordeb cynyddol mewn amaethyddiaeth adfywiol ac ymgorffori coed o fewn systemau ffermio drwy amaeth goedwigaeth. Mae’r tyddyn deg erw a reolir gan Tom Clare a Jaqui Banks eisoes wedi tyfu coed i gyd-fynd â’r system sy’n seiliedig ar borfa’n bennaf. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar hyn, gan geisio gwella’r ddealltwriaeth ecolegol a’r defnydd ymarferol o egwyddorion amaeth-goedwigaeth ar y fferm. Bydd y prosiect yn archwilio’r elfennau canlynol:

  • Mae integreiddio rhywogaethau coed a llwyni amrywiol mewn systemau pori’n cynnig buddion posibl ar gyfer maeth anifeiliaid drwy flaenbori, gan ddarparu ystod ehangach o faetholion a chyfansoddion bioweithredol posibl o’i gymharu â’r borfa’n unig. Yn ogystal, mae “gwair coed” yn cynnig opsiwn ar gyfer porthiant wedi’i gynaeafu. Fodd bynnag, mae angen dealltwriaeth o broffiliau maeth gwahanol rywogaethau (gan gynnwys cyltifarau a rhywogaethau anfrodorol), y dulliau cynaeafu gorau, a’u heffaith ar fioamrywiaeth. Bydd effaith y dewis o rywogaethau ar fioamrywiaeth leol a chydbwysedd yr ecosystem yn ystyriaeth allweddol drwy gydol y prosiect.

  • Mae ffyngau mycorhisol yn chwarae rhan hanfodol o ran cymeriant maetholion y planhigion ac iechyd y pridd, gan ffurfio perthnasau symbiotig gyda gwreiddiau planhigion. Gallai ymchwilio i’r rhyngweithiadau hyn o fewn system 
    amaeth-goedwigaeth fferm Pencedni gynnig gwybodaeth er mwyn gwella ffrwythlondeb y pridd a gwytnwch planhigion.

  • Mae biomas pryfed yn gydran hanfodol mewn ecosystemau iach, gan gyfrannu at gylchu maetholion, peillio, a darparu ffynhonnell fwyd ar gyfer bywyd gwyllt arall. Mae deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar boblogaethau pryfed o fewn y system amaeth-goedwigaeth a’u rôl o ran ffrwythlondeb y pridd yn hanfodol er mwyn gwneud y gorau o swyddogaeth yr ecosystem.

Mae’r prosiect yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r angen am waith ymchwil ar y fferm i deilwra arferion amaeth-goedwigaeth i gyd-destunau penodol, megis nodau amgylcheddol a rheolaeth unigryw fferm Pencedni. Y nod yw cynhyrchu gwybodaeth ymarferol i lywio penderfyniadau rheoli’r fferm at y dyfodol a chyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o amaeth-goedwigaeth adfywiol yng Nghymru.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Aer glân
  • Dŵr glân
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Storio cymaint o garbon â phosibl
  • Lliniaru perygl llifogydd a sychder
  • Tirweddau naturiol gwarchodedig
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i