Tudur Parry

Pengelli Isaf, Caernarfon

Astudiaeth ddichonoldeb ynni adnewyddadwy

Mae Pengelli Isaf yn fferm deuluol gymysg wedi’i lleoli ar gyrion tref Caernarfon. Maen nhw’n ffermio 330 erw gyda buches laeth o 140 o wartheg Holstein Friesian sy’n lloia o fis Medi i fis Mawrth, ond yn gwyro’n sylweddol tuag at yr hydref. Mae’r gwartheg yn cynhyrchu 8,500 litr ar gyfartaled fesul buwch bob blwyddyn, ac mae’r llaeth yn cael ei werthu i Hufenfa De Arfon ar gontract yn seiliedig ar gyfansoddion ar gyfer cynhyrchu caws. Mae’r holl heffrod cyfnewid a'r stoc ifanc yn cael eu magu ar y fferm, ac mae bîff o’r fenter laeth naill ai’n cael ei werthu ar ffurf lloi, anifeiliaid stôr neu’n cael eu pesgi ar y fferm gan ddibynnu ar y flwyddyn, twf y glaswellt a chynnyrch porthiant. Mae’r fferm yn cadw diadell o 300 o famogiaid croes sy’n ŵyna dan do ac yn symud oddi ar y platfform pori llaeth ar ôl ŵyna ym mis Mawrth. Ynghyd â thoriadau silwair, tyfir ambell i gnwd gan gynnwys cnwd o india-corn blynyddol sy’n cael ei silweirio ar gyfer y dogn cytbwys cyflawn i’r fuches laeth dros y gaeaf.

Fel gydag unrhyw fusnes ffermio llaeth arall, mae ynni a thrydan yn gost sylweddol, gyda defnydd blynyddol o 74,000 kW sy’n costio £24,000 i’r busnes. Mae’r teulu’n awyddus i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio pa fath o systemau cynhyrchu trydan adnewyddadwy sy’n gweddu orau i’w busnes fferm, a chyfrif elw ar fuddsoddiad ar yr amser adennill i dalu costau llog y banc.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Storio cymaint o garbon â phosibl
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i