Fro Farm - Cyflwyniad i’r prosiect

Mae gwartheg o ansawdd uchel yn rhan ganolog o systemau ffermio llaeth proffidiol. Er mwyn sicrhau hynny, mae angen geneteg o ansawdd uchel - heb eneteg dda (waeth pa mor effeithiol yw eich systemau rheolaeth), bydd pen draw i berfformiad a phroffidioldeb eich buches. Nid geneteg ar gyfer cynhyrchu llaeth yn unig mae hyn yn ei olygu; mae hefyd yn ymwneud ag iechyd, lles, rheolaeth a nodweddon, a phob un o’r agweddau hyn yn bwysig o ran proffidioldeb, ac mae modd eu gwella drwy fridio. Yn ogystal, mae defnyddio genomeg wrth wneud penderfyniadau bridio yn gallu cynyddu enillion genynnol a chynorthwyo wrth ddewis teirw.
 
Mae genomeg yn dechnoleg sy’n gallu defnyddio gwybodaeth DNA i ragweld potensial perfformiad unrhyw fuwch benodol. Mae detholiad genomeg hefyd yn galluogi ffermwyr i ddewis anifeiliaid ar gyfer y genhedlaeth nesaf o anifeiliaid cyfnewid o fewn y fuches, yn hytrach na dibynnu ar asesiad ffenotypig (nodweddion gweladwy’r anifail). Mae hyn yn caniatáu ffermwyr i ganfod yr anifeiliaid gorau o fewn y fuches ynghynt, ynghyd â’r anifeiliaid gwannaf o ran bridio. Gall defnyddio genomeg yn briodol o fewn arferion rheoli’r fuches arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant, iechyd a lles, lleihau’r bwlch rhwng cenedlaethau a chynyddu enillion genynnol.
 
Nod y prosiect hwn yw cymharu manteision defnyddio profion genomeg gyda data cyfartalog y fuwch a’r tarw a data ffenotypig i gynorthwyo gyda phenderfyniadau bridio a dethol ar sail geneteg, ac felly i gynyddu gwelliant genynnol anifeiliaid o fewn y fuches. Bydd cynhyrchu lloi o’r heffrod sy’n perfformio orau a dethol parau ar gyfer bridio a fydd yn cynhyrchu lloi gyda’r nodweddion gofynnol yn helpu Fro Farm i gyflawni’r targedau bridio.