Gallai codi lefelau pH o un pwynt i 6.5 gynyddu cynhyrchiant glaswelltir o 30%.

Dywedodd Charlie Morgan, arbenigwr glaswelltir annibynnol, wrth ffermwyr a fynychodd gwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio mai pH pridd yw’r prif ffactor sy’n arwain at fewnlifiad maetholion a bod y mwyafrif y maetholion ar gael i’r planhigyn ar fynegai 6.5; os yw’n is na hyn, bydd y perfformiad yn lleihau.

Mae’n annog pob ffermwr i flaenoriaethu’r gwaith o ail gydbwyso lefelau pH isel. “Dim ond pan fo’r pH ar y lefel cywir y gall blanhigyn gael mynediad llawn at faetholion, a byddwch yn cael y cynhyrchiant gorau posib gan borfeydd glaswellt a meillion a gafodd eu tyfu ar y pH cywir.”

Arweiniodd Mr Morgan weithdai Meistr ar Borfa, sef menter gan Cyswllt Ffermio ar gyfer cynorthwyo cynhyrchwyr bîff a defaid i wella fel rheolwyr glaswelltir. Cynhaliwyd cwrs tebyg ar gyfer ffermwyr llaeth ar fferm Coleg Gelli Aur ger Llandeilo.

Dywedodd mai 30% yn unig o’r samplau pridd a gymerwyd yng Nghymru yn ddiweddar sydd â’r lefel pH cywir.

Mae glawiad, yn  ogystal â gwasgaru nitrogen a sylffwr, yn lleihau cronfeydd calch ac mae hyn yn cynyddu’r asidedd.

Mae Mr Morgan, o gwmni ymgynghori glaswelltir GrassMaster, yn awgrymu taenu calch yn gynnar yn y gwanwyn neu’r hydref gan fod amodau sych yr haf yn golygu bod gronynnau calch yn aros ar ddeilen y glaswellt ac yn y gaeaf mae perygl ei fod yn golchi i ffwrdd.

Dywedodd fod lefelau ffosffad a photash hefyd yn amrywiol iawn ledled Cymru; yn aml mae potash yn brin ar gaeau silwair tra bod tir pori yn medru bod â gormod o’r ddau fwyn.

“Os nad ydym ni’n bwydo’r pridd, dydyn ni ddim yn bwydo’r borfa, ac o ganlyniad does dim porthiant, neu fydd porthiant yn ddrytach ar gyfer da byw.

“Mae’n rhaid i ffermwyr ystyried potensial eu pridd a sut y gallan nhw droi nitrogen yn rhywbeth i’w werthu.”

Ond, mae yna nifer o ffermwyr nad ydynt yn ymwybodol o’u man cychwyn gan nad ydyn nhw’n profi’r pridd. 

Gall prawf pridd gostio cyn lleied â £10 y cae a darparu’r ffermwyr gyda gwybodaeth am lefelau pH, ffosffad, potash a magnesiwm.

Cynghorodd Mr Morgan y ffermwyr ar y cwrs yng Nglynllifon, safle arloesedd Cyswllt Ffermio ger Caernarfon , y gellid datblygu cynllun rheoli maetholion ar ôl cael y canlyniadau er mwyn taenu’r maetholion sydd wedi cael eu cynhyrchu ar y fferm yn briodol a chyfrif yn fanwl faint o wrtaith gwneuthuredig sydd ei angen er mwyn cadw’r cydbwysedd.

Mae o’r farn mai profion pridd yw’r adnodd gorau sydd gan ffermwyr ar gyfer cynllunio gwasgaru gwrtaith yn broffidiol.

“Gallai ffermwyr arbed llawer ar gostau gwrtaith yn ogystal â defnyddio’r adnoddau sy’n cael eu cynhyrchu ar eu ffermydd yn well, sef y slyri a’r tail, a dylid profi’r rhain hefyd er mwyn canfod y cynnwys maethol.”

Mae Mr Morgan yn hyrwyddo profi pridd pob pum mlynedd ar gyfer ffermwyr bîff a defaid a phob tair blynedd ar gyfer ffermwyr llaeth; rhybuddiodd ei fod yn debygol fod caeau nad ydynt yn cael eu profi yn tan berfformio.

“Bydd fferm laeth yn defnyddio traean tunnell o galch ar bob erw pob blwyddyn, a fferm ddefaid hanner hynny,” dywedodd Mr Morgan.

Mewn sefyllfa ble mae lefelau pH, potash a ffosffad yn is na’r targed, bydd gwndwn yn cael ei ddominyddu gan rywogaethau sy’n cynnwys Maswellt Penwyn a Maeswellt Rhedegog.

Gallai hyn wneud y gwahaniaeth rhwng ansawdd pori neu silwair o 10ME yn hytrach na 11.5ME oherwydd y gwahaniaeth o 10 pwynt gwerth-D rhwng y porfeydd hyn a rhywogaethau o ansawdd uchel fel rhygwellt lluosflwydd.

“Ar gyfer potash, mae pob indecs sy’n is na 2 yn medru golygu colled o 20% o ddeunydd sych ac nid yw’r nitrogen sy’n cael ei wasgaru yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial,” dywedodd Mr Morgan.

Ni fydd planhigion yn datblygu strwythur gwreiddyn heb ddigon o ffosffad.

Dylid cyfrifo gofynion maethol y pridd a faint y gellid ei ddarparu gan y tail a slyri cyn penderfynu pa wrtaith i’w brynnu. “Efallai y byddai’n wahanol iawn i beth sydd wedi cael ei wneud eisoes,” awgrymodd Mr Morgan.

Ar ôl profi’r pridd, dylid rhoi cynllun rheoli maetholion ar waith. “Mae ffermwyr yn profi’r pridd ond dydyn nhw ddim yn deall y canlyniad sy’n golygu nad ydyn nhw’n newid eu mewnbwn traddodiadol. Bydd cynllun rheoli maetholion yn rhoi’r wybodaeth yna iddyn nhw.”

Yng Nghymru, mae ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys i dderbyn cyllid rhwng 80 a 100 y cant ar gyfer cynllun rheoli maetholion.

Os yw'r strwythur ffisegol yn dda, bydd cyfansoddiad cemegol y pridd yn rhannol ddefnyddiol.

Mae cywasgu pridd wedi dod yn broblem ar nifer o ffermydd ar ôl misoedd o law.

“Efallai bod dadansoddiad cemegol y pridd yn berffaith ond os yw’r pridd wedi’i niweidio neu gywasgu, nid yw’r maetholion o reidrwydd yn cael mynediad at strwythur y gwreiddyn,” dywedodd Mr Morgan.

Ychwanegodd fod angen i statws cemegol, ffisegol a biolegol y pridd gydweithio i greu lefelau fflora a ffawna maethol cywir a’r strwythur pridd cywir.

“Dylai fod gennych chi fwy o anifeiliaid tan ddaear nag sydd gennych chi ar y ddaear - dywedodd rhywun wrthyf fi unwaith fod y tunelledd o dda byw sy’n cael eu cadw yn dibynnu ar dunelledd bioleg y pridd. Os nad oes gennych chi boblogaeth iach o bryfed, does dim byd i’w weld yn y pridd.”

 

Mae Meistr ar Borfa yn gyfres o gyrsiau sy’n cael eu cynnal gan Cyswllt Ffermio er mwyn helpu ffermwyr i fireinio eu sgiliau rheoli porfa.

Mae’r cyrsiau yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r hyder i ffermwyr i wneud newidiadau ar eu ffermydd.

Mae’n canolbwyntio ar ddewis a sefydlu rhywogaethau ac amrywiaeth o borfa addas ar gyfer pori cylchdro dwys, isadeiledd pori, rheoli pridd a mesur a dehongli mesuriadau twf porfa.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, y gallai ffermwyr wella eu cynhyrchiant llaeth a chynnydd pwysau byw o bori porfa a phorthiant a lleihau’r costau sy’n cael eu mewnbynnu yn gyffredinol gyda’r wybodaeth hon.

Dywedodd Ben Anthony, ffermwr bîff a defaid a sefydlodd system pori cylchdro ar gyfer ei ddiadell ddefaid y llynedd, y byddai’n trosglwyddo mwy o’i gaeau yn badogau gan fod y cwrs wedi rhoi hyder iddo wneud hynny.

Dysgodd fod darpariaeth dŵr yr un mor bwysig â safon a faint o borfa sydd yn ei  system.

“Nid porfa yw’r unig ystyriaeth, byddwn yn cynllunio ble rydym ni’n rhoi cafnau yn fwy gofalus,” dywedodd Mr Anthony o Frowen, Login.

“Dyma un o’r nifer o bethau ddysgais ar y cwrs sy’n fwy na’r pethau sylfaenol y byddwn wedi’i ddysgu mewn cyfarfod ffermwyr.”

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.