George Sturla

Treffynnon, Sir y Fflint

Mae gwerthu cig oen yn uniongyrchol i brynwyr mewn bocsys cig wedi helpu George Sturla i gynyddu maint elw ei fusnes defaid.

Lansiodd y busnes gwerthu ym mis Hydref 2022 ac mae bellach yn darparu incwm dibynadwy, gan ganiatáu iddo fuddsoddi mewn gwella gwyndwn glaswellt ar y tir y mae’n ei ffermio ger Treffynnon a chynhyrchu porthiant o ansawdd gwell, gan leihau ei ddibyniaeth ar ddwysfwyd a brynir i mewn.

Er na gafodd George ei fagu ar fferm, treuliodd yr haf yn ystod ei blentyndod yn helpu ei daid ar ei fferm yng Ngogledd Cymru.

Bu iddo raddio o'r Coleg Amaethyddol Brenhinol yn ddiweddarach gyda gradd mewn Rheoli Tir Gwledig a bu’n gweithio yn Strutt & Parker.

Ond, yn 2016 penderfynodd adael ei yrfa mewn rheoli tir i weithio’n llawn amser mewn amaethyddiaeth, gan gynyddu nifer y stoc yn araf i 140 o famogiaid magu a 12 o wartheg sugno ochr yn ochr â swydd lawn amser fel cynrychiolydd gwerthu i AB Agri.

Trwy ei fusnes bocsys cig, mae George wedi mwynhau cysylltu â phrynwyr, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i addysgu pobl am arferion ffermio Cymru a chynaliadwyedd bwyd.

Yn y dyfodol mae'n gobeithio ychwanegu bocsys cig eidion i'r ystod o gynnyrch a chynnig teithiau addysgol o amgylch y fferm i ysgolion a chwsmeriaid.

Mae'n gweld rŵan fel cyfnod cyffrous i amaethyddiaeth yng Nghymru gyda phrynwyr yn awyddus i ddysgu mwy am darddiad eu bwyd.

Dywed George ei fod yn falch o fod yn rhan o gymuned amaethyddol Cymru a drwy ei ran yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd Cyswllt Ffermio mae’n edrych ymlaen at gwrdd ag eraill sy’n rhannu’r angerdd hwnnw.

“Bydd y cyfle hwn i rwydweithio yn fy ngalluogi i ddatblygu perthynas ag arweinwyr diwydiant y dyfodol, cysylltiadau yr wyf yn siŵr a fydd yn fy helpu i gyfrannu at ein diwydiant amaethyddol yng Nghymru."

“O ystyried bod fy musnes bocsys cig yn ei ddyddiau cynnar, byddaf yn elwa o ddysgu am gyfleoedd newydd a sut i ddiogelu fy musnes rhag bygythiadau posibl i'w ddiogelu ar gyfer y dyfodol ac i hwyluso twf.''