Pam fyddai Gerald yn fentor effeithiol

  • Yn gefnogwr rygbi brwd ac yn gyn-chwaraewr dosbarth a sir, mae Gerald yn ffermwr mynydd gweithredol. Mae’n dweud ei fod yn ffermwr amser llawn, ond am y 15 mlynedd diwethaf mae galw mawr wedi bod amdano fel sylwebydd da byw yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf, gan weithio i un o gwmnïau cynhyrchu S4C. Felly osgowch yr wythnosau hynny yn y calendr amaethyddol os ydych yn bwriadu gofyn am ei gymorth mentora ar drin cŵn defaid!

  • Yn gymdeithasol a gyda sgiliau cyfathrebu gwych, mae Gerald yn brofiadol iawn wrth drin cŵn defaid sydd eisoes wedi profi ei sgiliau mentora, gan iddo gynorthwyo aml i ffermwr ifanc lleol a ofynnodd am ei arweiniad wrth brynu eu cŵn defaid cyntaf ac oedd yn barod i wella eu sgiliau hwy eu hunain a rhai’r cŵn.  

  • Yn ystod yr 1990au penderfynodd Gerald – oedd wedi mwynhau llwyddiant sylweddol yn dangos gwartheg bîff masnachol – y dylai ei ddiddordeb tymor hir mewn cŵn defaid ei arwain i gystadlu eto – i hyfforddi a chystadlu mewn treialon cŵn defaid y tro hwn.  

  • Dysgodd ei ast gyntaf, Mist, a brynwyd yn gi bach, ei sgiliau ar ei fferm. Trwy allu, amynedd a chyfarwyddyd Gerald, yn fuan enillodd Mist ei chystadleuaeth gyntaf yng ngorllewin Cymru. Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ar nifer o achlysuron gyda mwy o gŵn, gan fagu rhai ohonynt ei hun. 

  • Gofynnir iddo feirniadu yn y treialon mawr yn gyson gan gynnwys cystadlaethau Cenedlaethol Cymru ac yn Rhyngwladol pan fydd pedair gwlad Prydain yn cystadlu am y brif bencampwriaeth. Yn awr mae’n dweud ei bod hi’n bryd iddo dalu yn ôl am yr arweiniad a gafodd gan lawer o bobl hŷn pan ddechreuodd gyntaf, ac mae’n edrych ymlaen at gael trosglwyddo ei wybodaeth a’i sgiliau yn ei swydd fel mentor i rai sy’n trin cŵn defaid a chystadleuwyr ar bob lefel.

Busnes fferm presennol

  • Mae Gerald yn ffermio 400 erw o borfa ucheldir wedi ei wella mewn partneriaeth â’i wraig Hazel. Prynodd y cwpl 270 erw yn 1983 gan fynd ymlaen i rentu 130 erw arall.

  • Mae gan y cwpl hawliau pori ar y Mynydd Du ac yn cadw diadell wedi cynefino o 800 o famogiaid Cymreig x Cheviot, sy’n cael eu rheoli gyda dau gi defaid.  

  • Maent yn prynu tua 1,000 o ŵyn stôr trwy gydol y flwyddyn i’w gorffen ar y fferm. Mae’r niferoedd yn amrywio gan ddibynnu ar y porthiant sydd ar y fferm.

  • Prynir lloeau o fridiau cynhenid mewn marchnadoedd anifeiliaid lleol a’u gorffen ar y fferm.

  • Mae’r fferm wedi bod yn Glastir Uwch am y pum mlynedd diwethaf. Cyn hynny roedd yn Tir Gofal a Tir Cymen.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Magwyd Gerald ar dyddyn yng Nghymru, gan adael yr ysgol i weithio ar ffermydd lleol.  
  • Yn ei 20au, yn gneifiwr a bugail profiadol erbyn hynny, teithiodd i Seland Newydd a mwynhau nifer o dymhorau yn gweithio ar unedau defaid mawr. 
  • Yn ffermwr mynydd gweithredol sydd wedi gweithio gyda chŵn defaid sy’n gweithio a chŵn sy’n cystadlu ar hyd ei oes, enillodd nifer o gystadlaethau, mae wedi hyfforddi a beirniadu ar bob lefel ac mae’n awr yn edrych ymlaen at gael trosglwyddo ei wybodaeth a’i sgiliau ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o drinwyr cŵn defaid. 
     

 

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Cymrwch eich amser i ddewis y math iawn o gi defaid bach sy’n mynd i fod yn addas i chi a’ch natur a’ch defaid hefyd.   Mae ci tawel yn tawelu’r defaid hefyd – ac mae hyn fel arfer o gymorth i rywun sy’n dechrau arni, gan roi amser i chi wella eich sgiliau hefyd.”   
“Os ydych yn bwriadu bugeilio defaid Cymreig tanllyd mae arnoch angen math o gi sy’n fwy cyflym ei feddwl a siarp!”  
“Mae amynedd yn holl bwysig ac mae cŵn yn debyg iawn i lawer o bobl, maen nhw’n hoffi plesio ac yn hoffi canmoliaeth. Mae rhai am wrando, a rhai ddim, ond peidiwch â rhuthro pethau!