Cymrage

Pam fyddai Gwennan yn fentor effeithiol

  • Magwyd Gwenan, sy’n siarad Cymraeg, ar fferm bîff a defaid ac mae wedi gweithio yn y sector amaeth ers dros ugain mlynedd. Gwnaeth nifer o swyddi gyda ffermwyr gyda Cyswllt Ffermio, Menter a Busnes, Cwysi, AGORA a Cywain a thrwy hynny mae wedi cyfarfod cannoedd o deuluoedd fferm. 
  • Mae ei phersonoliaeth atyniadol a’i gallu i greu cysylltiad ag eraill sy’n gweithio yn y sector yn golygu bod ganddi ddealltwriaeth drylwyr iawn o’r diwydiant ac mae’n awr yn edrych ymlaen at rannu ei gwybodaeth a’i phrofiad sylweddol yn ei swydd fel mentor Cyswllt Ffermio.
  • Mae ganddi ddealltwriaeth eang o reoliadau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth wledig. 
  • Mae hefyd yn arbenigwr gweinyddol profiadol, yn gyfarwydd â’r rhan fwyaf o waith papur fferm a bydd yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw waith yn ymwneud â chasglu data, meincnodi, mesur ôl troed carbon a phrofi dŵr. 
  • Yn ei gwaith fel ymgynghorydd amaeth llawrydd mae Gwenan hefyd yn gweithio gyda busnesau fferm trwy Gymru i gynnal asesiadau bioamrywiaeth a mapio cynefinoedd.
  • Fe’i hargymhellir yn aml gan sefydliadau amaeth allanol, ac mae gan Gwenan nifer o gleientiaid sy’n gwerthfawrogi ei gwybodaeth dawel a chysurlon am ‘reolau a rheoliadau’. Bydd yn hapus i’ch helpu i roi eich gwaith papur a’ch dogfennau mewn trefn, yn arbennig cyn wynebu archwiliadau a hefyd bydd yn helpu i sicrhau bod eich systemau rheoli yn cyd-fynd â’r rheoliadau presennol.

Busnes fferm presennol

  • Ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag asesiadau lles ac iechyd anifeiliaid ar gyfer cyfanwerthwr a phroseswr llaeth mawr ac mae’n ymwneud â data technegol i Gymdeithas y Pridd
  • Mae Gwenan yn ymgynghorydd amaethyddol hunangyflogedig sydd yn gyson yn gweithio ar is-gontract i ymgyngoriaethau gwledig amlwg yng Nghymru yn ogystal ag yn uniongyrchol i fusnesau fferm.  
  • Yn aelod o ‘Consortiwm Gwlad’ mae wedi cynnal nifer o adolygiadau prosiectau i amrywiol asiantaethau yng Nghymru gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed ar gyfer Datblygu Camau Gweithredu Rheoli Tir ar y Cyd, gwaith adolygu prosiectau i Barc Cenedlaethol Eryri; PONT; Coed Cymru a Phartneriaeth Rhostir Gogledd Cymru.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Diploma mewn Rheoli Cefn Gwlad

  • Dros 20 mlynedd o brofiad o weithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru mewn amrywiol swyddi:

  • Swyddog Datblygu Cwysi i Menter a Busnes (1999-2001);

  • Prif Hwylusydd Cyswllt Ffermio Canolbarth Cymru (2001-2004);

  • Mentor TGCh yn Sir Drefaldwyn (2004-2008);

  • Cydlynydd Cyswllt Ffermio Canolbarth Cymru (2008-2017);

  • Swyddog Datblygu AGORA (2017-2019)

  • Rheolwr Prawf Masnachu Cywain (2019-2023)

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Byddwch yn barod i ddysgu oddi wrth eraill a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ymweld â ffermydd eraill a dysgu trwy eu methiannau a’u llwyddiannau.”
“Anelwch at gwblhau pob tasg hyd eithaf eich gallu bob amser a gorffen un dasg cyn dechrau un arall.”