Gwern Thomas

Felinfach, Ceredigion

Mae Gwern Thomas yn cynnal cydbwysedd rhwng rhedeg dau fusnes ffermio â darparu gwasanaeth cymorth fferm i ffermwyr eraill.

Pan oedd yn iau, breuddwydiodd Gwern am wneud bywoliaeth o’r tir ac mae bellach yn gwneud hynny, nid yn unig yn godro defaid mewn cytundeb ffermio ar y cyd, Penwern Agriculture, ond mae hefyd yn cynhyrchu ŵyn tew a gwartheg stôr ar fferm ei ewythr.

Yn Pengwern Agriculture, mae wedi sefydlu menter defaid llaeth gyda 110 o famogiaid ar fferm 49 hectar ei bartner busnes, gyda’r llaeth yn cael ei werthu i gael ei brosesu yn gaws.

Ochr yn ochr â’r busnes hwnnw, mae Gwern yn ffermio 20 hectar gyda’i ewythr, gyda defaid yn cael eu cadw i gynhyrchu ŵyn tew a lloi sy’n cael eu magu i’w gwerthu fel gwartheg stôr.

Mae system bori cylchdro ar waith ar y ddwy fferm.

Fel pe na bai’r cyfuniad o’r ddau fusnes hynny’n ei gadw’n ddigon prysur, mae gan Gwern hefyd fusnes yn helpu ffermwyr gyda gwaith peiriannau, gwaith trin gwartheg, samplo pridd a llawer o dasgau eraill, gyda’r incwm y mae’n ei ennill o hynny’n cael ei ddefnyddio i helpu i ariannu datblygiad y ddau fusnes.

Pan fydd ganddo amser yn sbâr o'i amserlen waith brysur, mae'n aelod gweithgar iawn o CFfI Felinfach ac ar hyn o bryd yn cymryd rhan yng nghynllun astudiaethau amaethyddol AgriEye CFfI Cymru.

Yn awr, fel aelod o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023, mae’n awyddus i fanteisio ar y wybodaeth arbenigol a’r cyfleoedd ymchwil a fydd ar gael, i’w helpu i wireddu ei freuddwyd o dyfu’r busnes.

Mae'n disgrifio ennill lle ar y Rhaglen Busnes ac Arloesedd fel “cyfle euraidd”.

“Nid chwilio am addysg yn unig ydwyf i; Rwy'n edrych am brofiad trawsnewidiol - un a fydd yn llywio fy nghymeriad, yn ehangu fy ngorwelion, ac yn fy ysbrydoli i gael effaith gadarnhaol ar fy nyfodol.''