Ifan Huws

Y Trallwng, Powys

Mae Ifan Huws, ac yntau ond yn 26 oed yn cyflawni’r hyn y mae pob ffermwr ifanc uchelgeisiol yn breuddwydio amdano wrth iddo wneud y naid drawiadol i fod yn berchen ar ei fferm ei hun.

Mae Ifan bellach yn cynhyrchu silwair ac ŵyn tew ar y daliad hwnnw tra hefyd yn gyfrifol am fferm ddefaid ucheldir ei deulu.

Graddiodd Ifan gyda BSc (Anrh) mewn Amaeth gyda Rheoli Busnes Fferm o Brifysgol Harper Adams, lle cafodd ei enwi yn Fyfyriwr y Flwyddyn yn 2019.

Ers hynny, mae wedi gweithio gyda Noble Foods ac mae bellach wedi ymgymryd â rôl Rheolwr Datblygu Amaeth y DU ac Ewrop gyda Better Origin, gan gychwyn ar daith i alluogi mwy o ffermwyr i ymuno â’r farchnad ffermio pryfed drwy ffermydd cynhwyswyr Deallusrwydd Artiffisial (AI-powered) y cwmni. 

Mae Ifan wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am amaethyddiaeth, fel aelod o Ffermwyr Dyfodol Cymru, grwpiau trafod Cyswllt Ffermio, CFfI a Ffermwyr y Dyfodol Tesco.

Fel aelod o Raglen Busnes ac Arloesedd Cyswllt Ffermio 2023 mae’n awyddus i barhau â’r daith honno i gasglu gwybodaeth.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl o’r un anian i drafod syniadau busnes ac i weld pethau newydd."

“Bydd yr Academi Amaeth yn ddefnyddiol i fy herio wrth feddwl am fy syniadau a strategaeth.''